Cyflwynwyd gan:Cyng. Dafydd Meurig
Penderfyniad:
¾
Cytunwyd i sefydlu model newydd o ddarparu a
chomisiynu gofal cartref ar sail is-ardaloedd, gan gyd-gomisiynu a’r Bwrdd
Iechyd.
¾ Cymeradwywyd
gweithredu ar sail yr opsiwn a ffafrir sef cynnal marchnad gymysg gan dendro
mewn modd sy’n debygol o arwain at wireddu amcanion yr adran.
¾
Gofyn i’r Adran adolygu’r model ariannol er mwyn
sicrhau nad yw’n amharu ar eu gallu i gyflawni eu harbedion gan adrodd yn ôl os
oes unrhyw berygl i hynny.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNIAD
¾
Cytunwyd
i sefydlu model newydd o ddarparu a chomisiynu gofal cartref ar sail ardaloedd,
gan gyd-gomisiynu a’r Bwrdd Iechyd.
¾
Cymeradwywyd gweithredu ar sail yr opsiwn a ffafrir
sef cynnal marchnad gymysg gan dendro mewn modd sy’n debygol o arwain at
wireddu amcanion yr adran.
¾ Gofyn i’r Adran
Oedolion adolygu’r model ariannol er mwyn sicrhau nad yw’n amharu ar eu gallu i
gyflawni eu harbedion gan adrodd yn ôl os oes unrhyw berygl i hynny.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r penderfyniad gan bwysleisio mai’r rheswm dros fod angen y
model newydd yw symud oddi wrth yr arfer o ariannu fesul pecyn neu unigolyn ac
i greu darpariaeth hyblyg ar draws ardaloedd. Ategwyd mai’r opsiwn sydd yn cael
ei ffafrio yw cynnal rhaniad mewnol : allanol y farchnad. Nodwyd fod risgiau
ariannol a chyfreithiol wedi ei amlygu yn ystod y cyfnod trafod ond fod
trefniadau yn eu lle.
Mynegwyd fod amryw
beilot wedi ei gynnal mewn lleoliadau daearyddol amrywiol ar draws y sir.
Mynegwyd fod y rhain wedi dangos esiamplau cryf o ofal hyblyg a bod y
defnyddiwr gwasanaeth yn hapus a’r gofal a gafwyd. Ychwanegwyd y bydd y model
newydd o ddarparu a chomisiynu gofal cartref yn cael ei gomisiynu ar y cyd a’r
Bwrdd Iechyd.
Ategodd yr Uwch
Reolwr Gweithredol o ran cyd-destun fod prinder gofal cartref ar gael. Mynegwyd
er mwyn deall mwy am y drefn fod angen edrych ar yr holl sefyllfa. Nodwyd fod
trafodaethau wedi ei gynnal gyda defnyddwyr gwasanaeth a phwysleisiwyd
pwysigrwydd peilot er mwyn ei droi o syniad i realiti.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Nodwyd fod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r
undebau ac mae yn eithaf cefnogol ond fod angen sicrhau fod cyn lleied â phosib
o effaith ar staff. Mynegwyd mai trigolion a’r defnyddwyr gwasanaeth sydd yn
ganolog i’r model newydd, gyda’r staff yn ail agos iawn. Mynegwyd nad oes
bwriad i bobl newid i ddarparwyr eraill os nad ydynt yn awyddus i wneud a bydd
camau yn eu lle i edrych ar ôl staff. Ychwanegwyd fod trafodaethau yn cael ei
cynnal ar undebau i sicrhau fod y broses drosglwyddo gyda’r lleiaf o effaith ar
staff ac i sicrhau fod cyflogaeth yn cael ei gynnal.
¾
Croesawyd
y model newydd, ond pwysleisiwyd fod recriwtio yn broblem hanesyddol, a holwyd
os bydd hyn newid y broblem. Mynegwyd fod y model newydd yn rhoi cyfle ac yn
annog staff i fod yn fwy creadigol, ac y bydd cyfran uwch o’r arian sydd ar
gael yn mynd i staff.
¾
Gan fod
ariannu’r cynllun yn golyg defnyddio arbedion sy’n deillio o newid y trefniadau
gwaith a bod yr Adran Oedolion hefyd yn ddibynnol ar hynny i wireddu eu rhaglen
arbedion, codwyd pryder am y model ariannol yn dilyn trafodaethau’r Cabinet am
berfformiad yr Adran yr wythnos diwethaf. Pwysleisiwyd fod angen sicrhau nad
yw’r model newydd yn amharu ar allu’r Adran Oedolion i gyflawni eu harbedion a
gofynnwyd iddynt asesu’r sefyllfa honno yn drwyadl gan adrodd yn ôl os oes
unrhyw berygl i hynny
Awdur:Aled Davies
Dogfennau ategol: