Dymchwel
adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y tŷ ac addasu adeilad allanol
yn 2 uned wyliau.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Simon Glyn
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Dymchwel adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y
tŷ ac addasu adeilad allanol yn 2 uned wyliau.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Mai 2019 er mwyn cael cyfle i
ystyried cyd-destun apêl cais rhif (C18/0023/42/LL),
a wrthodwyd am resymau yn ymwneud â gormodedd o ail gartrefi yn yr ardal.
Nodwyd yn sgil y ffigyrau a nodwyd yng nghanlyniad yr apêl, ystyriwyd bod angen
ail asesu’r cais yn erbyn y ffigyrau perthnasol.
Nodwyd bod cais ar gyfer ‘Dymchwel adeilad allanol sydd wedi ei gysylltu
i’r tŷ a chodi estyniad unllawr yn ei le’, a oedd yn ffurfio rhan o’r cais
gerbron, wedi ei ganiatáu ar 28 Mehefin 2019.
Adroddwyd bod apêl am ddiffyg penderfyniad ar y cais wedi ei gofrestru
gyda’r Arolygiaeth Cynllunio. Eglurwyd pe gwrthodir neu gohirir y cais byddai’r
apêl yn parhau.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd, a oedd yn cynnwys
sylwadau Uned Cefnogi Busnes yr Adran Economi a Chymuned ar gadernid y cynllun
busnes.
Nodwyd bod Polisi TWR 2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(CDLl) yn caniatáu cynigion i drosi adeiladau presennol megis adeiladau
amaethyddol yn llety gwyliau, cyn belled â’u bod yn cydymffurfio gyda 5 maen
prawf. Cyfeiriwyd at faen prawf ‘v’, a oedd yn gofyn ‘Nad yw’r datblygiad yn
arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal’.
Amlygwyd bod yr ymgeisydd, yn unol â gofynion Polisi TWR 2, wedi
cyflwyno cynllun busnes cynhwysfawr a oedd yn cynnwys ffigyrau buddsoddi,
costau a ffigyrau gosod disgwyliedig ac ystyriwyd fod ei gynnwys yn realistig
ac yn dangos hyfywedd fel defnydd gwyliau. Roedd Uned Cefnogi Busnes yr Adran
Economi a Chymuned yn cydweld gyda’r canfyddiadau yma a’u bod yn fodlon ei fod
yn gynllun busnes addas ar gyfer y cais.
Nodwyd yr aseswyd gormodedd yng nghyd-destun Canllaw Cynllunio Atodol:
Llety Gwyliau a phenderfyniad apêl Tŷ’n Pwll, Nefyn. Amlygwyd bod yr
asesiad wedi cadarnhau bod 14% o’r unedau domestig yn ardal Cyngor Cymuned
Tudweiliog yn ail gartrefi, felly yn uwch na’r trothwy 10% a ddefnyddiwyd gan
yr Arolygydd ar yr apêl yn Nefyn. Eglurwyd nad oedd yr ymgeisydd yn cytuno
gyda’r ffigyrau ac yn nodi nad oedd y mwyafrif o ail gartrefi yn cael eu gosod
a’i fod yn anghytuno â’r sail yr aseswyd gormodedd.
Nodwyd er gwaethaf dadleuon yr ymgeisydd ac er bod holl faterion eraill
TWR 2 yn dderbyniol, ar sail y ffigyrau cyfredol ac yng ngoleuni penderfyniad
ac asesiad yr Arolygydd ar apêl Tŷ’n Pwll, Nefyn roedd rhaid argymell
gwrthod y cais ar sail gormodedd o lety o’r fath yn groes i faen prawf ‘v’ TWR
2 y CDLl a throthwyon Canllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau (2011).
(b) Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod diwygiadau sylweddol
i’r bwriad er mwyn gwneud y datblygiad yn dderbyniol;
·
Bod argymhelliad y
swyddogion wedi ei ddiwygio, gyda’r ffigwr o 14% o unedau domestig yn ardal
Cyngor Cymuned Tudweiliog yn ail gartrefi yn sail i’r argymhelliad i wrthod y
cais;
·
Bod Canllaw Cynllunio
Atodol: Llety Gwyliau (2011) wedi dyddio. Byddai’r Canllaw Cynllunio Atodol -
Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid, oedd i’w fabwysiadu, yn ystyried cryfder yr
achos busnes yn hytrach na chanrannau penodol. Roedd y swyddogion cynllunio a’r
Uned Cefnogi Busnes yn cadarnhau cadernid yr achos busnes;
·
Mai cyfartaledd cyfredol
ail gartrefi ar gyfer Gwynedd oedd 8.5%, gyda Thudweiliog yn 14% a Nefyn yn
33%;
·
Wedi gwneud ymchwil
helaeth a oedd wedi dangos bod dim mwy na 25 uned hunan wasanaeth yn y ward ac
nid oedd dim un ohonynt i lefel 5*, sef y bwriad gyda’r datblygiad yma;
·
Bod sefyllfa Nefyn yn
wahanol i ardal Tudweiliog, gyda 5 gwaith yn fwy o ail gartrefi yn Nefyn;
·
Byddai’r bwriad yn
golygu cadw’r un ôl-troed a nodweddion allanol;
·
Byddai person lleol yn
cael ei gyflogi i oruchwylio’r safle, gyda’r bwriad iddo ef a’i deulu
ymgartrefu yng Nghongl Cae ar ôl i’r plant gwblhau eu haddysg.
PENDERFYNWYD
gwrthod y cais.
Rheswm:
Gan fod 14% o ail gartrefi o fewn Cyngor Cymuned Tudweiliog byddai’r bwriad
yn arwain at ormodedd o lety gwyliau hunan wasanaethol yn yr ardal felly yn
groes i faen prawf V Polisi TWR 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(2017) a Chanllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau (2011).
Dogfennau ategol: