Agenda item

Gosod 25 caban gwyliau ar gyfer defnydd gwyliau trwy'r flwyddyn yn lle 32 llain carafan teithiol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Gosod 25 caban gwyliau ar gyfer defnydd gwyliau trwy'r flwyddyn yn lle 32 llain carafán deithiol.

        

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn golygu lleoli 25 uned wyliau oddi fewn i safle cuddiedig ac oddi fewn i’r amgylchedd adeiledig ac fe gredir, ni fyddai’r bwriad yn arwain at ormodedd o safleoedd carafanau/cabannau sefydlog cyffelyb yn nalgylch safle’r cais ac ni fyddai’r datblygiad, ynddo’i hun, yn cael ardrawiad sylweddol ac arwyddocaol ar gymeriad a mwynderau’r dirwedd leol. Eglurwyd y byddai’r bwriad yn lleihau ar ddwysedd defnydd y safle presennol fel safle teithiol gan ddisodli 32 carafán deithiol.

 

Nodwyd o ystyried lleoliad cuddiedig y safle o fewn y treflun; ei raddfa a oedd yn llai dwys na’r defnydd presennol, a’r ffaith ei fod yn ymddangos y byddai’r llety gwyliau a’r safle’n gyffredinol yn darparu cyfleusterau o ansawdd uchel, roedd y bwriad arfaethedig yn dderbyniol.

 

Amlygwyd bod materion llifogydd ar rannau o’r safle a bod yr ymgeisydd wedi symud y cabannau o’r rhan a oedd yn cael ei lifogi ac nid oedd mynediad o fewn y parth llifogydd. Nodwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon gyda’r bwriad.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

         

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod llawer o safleoedd unedau sefydlog yn yr ardal, gyda’r nifer o unedau sefydlog yn yr ardal ymhell dros riniog gormodedd. O’r farn bod trosi safle carafanau symudol i safle unedau sefydlog parhaol yn gam rhy bell;

·         O ran pryder yr Uned Dwristiaeth ynghylch yr orddarpariaeth o unedau sefydlog a’r prinder safleoedd teithiol yn ardal Caernarfon, pa asesiad a wnaed? Roedd angen gwarchod y nifer o safleoedd carafanau teithiol yn yr ardal;

·         Byddai’r bwriad yn golygu llai o drafnidiaeth a ni fyddai’n weledol o unrhyw fan;

·         Yn well datblygiad na’r un presennol. A fyddai’r ymgeisydd yn gwerthu’r cabanau neu eu gosod?

·         Byddai’r bwriad yn welliant i’r safle gyda lleihad yn y nifer o unedau. Nid oedd y Cyngor Tref yn gwrthwynebu’r bwriad, nid oedd yn bosib cyfyngu defnydd o’r safle i 11 mis yn unol â’u dymuniad, ond fe fyddai gosod amod defnydd gwyliau yn unig/cadw cofrestr yn sicrhau nad oedd y cabanau yn cael eu meddiannu fel cartrefi parhaol.

 

(c)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Yng nghyd-destun Polisi TWR 3 o’r CDLl, asesir gormodedd o ran capasiti’r dirwedd leol ar gyfer ychwaneg o ddatblygiadau siales neu garafanau gwyliau. Ni fyddai’r datblygiad yn weledol yn y dirwedd;

·         Mai dymuniad yr Uned Twristiaeth oedd cael ychwaneg o safleoedd teithiol. Bod safleoedd teithiol yn yr ardal gyda photensial yn y dirwedd ar gyfer safleoedd teithiol newydd. Nid oedd y bwriad yn tanseilio polisi cynllunio;

·         Bod Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn Ynys Môn, Gwynedd a’r Parc Cenedlaethol (Cwmni Gillespies, 2014), yn nodi bod capasiti ar gael ar gyfer datblygiadau bach;

·         Nid oedd bwriad yr ymgeisydd o ran gwerthu’r cabanau neu eu gosod yn hysbys ond nid oedd yn ofynnol i dderbyn cadarnhad.

         

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.      Amser (5 mlynedd)

2.      Yn unol â’r cynlluniau

3.      Cyflwyno a chytuno Datganiad Dulliau Adeiladu Amgylcheddol manwl ar gyfer y cyfnod o ddatblygu’r safle.

4.      Rhaid dilyn yn union argymhellion yr Arolygon Ecolegol a gyflwynwyd

5.      Amod defnydd gwyliau yn unig/cadw cofrestr

6.      Amod Dŵr Cymru

7.      Rhaid cyflwyno cynllun goleuo

 

Nodiadau

1.      Dŵr Cymru

2.      Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol: