Agenda item

AELOD CABINET: Cynghorydd Gareth Griffith

 

I ystyried adroddiad yr Ymchwiliad Craffu

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad craffu Cynllunio a’r Iaith Gymraeg i’r Aelod Cabinet Gareth Griffith. Atgoffwyd yr aelodau o gefndir y penderfyniad i gynnal yr ymchwiliad gan y Cynghorydd Gruffydd Williams, Cadeirydd yr ymchwiliad. Diolchodd i’r holl gyfranogwyr am eu cydweithrediad gyda’r gwaith.

 

Yn dilyn trafodaethau gyda Gwasanaeth Cyfreithiol y Cyngor a’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ynglŷn â gwahaniaeth barn am yr argymhellion cychwynnol, nodwyd bod cyfaddawd bellach wedi ei gyrraedd a chytundeb ar y pum argymhelliad. Er hynny, amlygodd Cadeirydd yr ymchwiliad, yn dilyn ymgynghoriad gydag aelodau eraill y gweithgor ei fod yn dymuno addasu'r argymhelliad o ddod a’r ymchwiliad i ben a pharhau gyda’r gwaith ymchwil oherwydd bod anghysondebau wedi codi o’r gwaith.

 

Diolchodd yr Uwch Reolwr Cynllunio am y gwaith ymchwil a nododd bod y Gwasanaeth, lle roedd yn ymarferol bosib, wedi cydweithio i hwyluso’r gwaith. Ategodd bod briff yr ymchwiliad ychydig yn ehangach na’r elfen paratoi canllaw cynllunio atodol yn unig. Nododd bod y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi gwneud cais i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau am sylwadau ar yr ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar y Canllaw Cynllunio Atodol (Rhagfyr 2018 – Ionawr 2019). O ganlyniad mynegodd mai rhan D o’r adroddiad yn unig fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Polisi ar y 17 o Orffennaf 2019 – bydd sylwadau pellach yr ymchwiliad yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod dilynol yn mis Medi. Gofynnodd hefyd am eglurder pellach am yr argymhelliad i barhau gyda’r gwaith ymchwil.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a sylw ‘byddai’n anghyfreithlon cynnwys y datganiad hwn yn y Canllaw’ (ymateb y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd i argymhellion cychwynnol 1a ac 1b Tachwedd 2018), nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod yr argymhelliad yn ymwneud a newid deddfwriaeth ac nid y broses ymgynghorol statudol. Nid oedd modd i’r cydbwyllgor ystyried y ddau argymhelliad gan mai ymgynghori ar y canllaw cynllunio oedd gerbron. Byddai angen mynd at y llywodraeth i newid y ddeddfwriaeth.

 

Mewn ymateb i ganfyddiad un aelod bod Polisi PS1 yn ddiwerth ac nad oedd y canllaw wedi ei brofi yn iawn, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio nad oedd y broses monitro flynyddol wedi ei gwblhau ac felly nid oedd tystiolaeth i gefnogi’r farn. Ategodd yr Uwch Reolwr bod Polisi PS1 yn rhoi hyblygrwydd sylweddol wrth ystyried yr iaith Gymraeg, pan yn berthnasol, gyda’r canllaw yn mynd i fanylder ar sut i weithredu hyn. Os na fyddai datblygiadau penodol yn cwrdd gyda’r math o dai sydd yn cael eu datblygu, bydd y Gwasanaeth Cynllunio yn annog trafodaeth fuan yn y broses gyda’r datblygwr i amlygu’r hyn fyddant angen ei wneud i roi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg.

 

Ategodd y Swyddog Monitro, bod fframwaith statudol a pholisi perthnasol yn cyfyngu gallu'r awdurdod i ofyn i ddatblygwr am asesiad iaith tu hwnt i’r gofyn. Os bydd pryderon a chanfyddiadau yn codi nad yw Polisi PS1 yn gweithredu yn unol â’r egwyddor, a bod tystiolaeth yn cael ei gyflwyno yn cefnogi’r canfyddiadau, bydd trefniadau adolygu priodol yn ei lle gan y gyfundrefn.

 

Wrth drafod geiriad argymhelliad cychwynnol 1a ‘bod angen i’r datblygwr fynd i ymgynghoriad cyhoeddus ar bob datblygiad 10 neu fwy o dai mewn ardal drefol a 5 neu fwy o dai mewn ardal bentrefol / wledig’  teimlai rhai o’r aelodau bod yr hicyn yma yn rhy uchel ac y dylid amlygu hyn i’r Llywodraeth.

 

Awgrymodd y Cadeirydd, o ystyried y drafodaeth flaenorol a gafwyd wrth drafod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r rhwystr posib o fod angen addasu polisïau er mwyn gweithredu neu newid cyfeiriad, bod Cadeirydd yr ymchwiliad yn amlygu argymhelliad 1a ac 1b i’r Is Grŵp Iaith Gymraeg sydd wedi cael ei sefydlu gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Amlygodd y Rheolwr Craffu bod argymhelliad 1a bellach yn un hanesyddol (Ebrill 2018) ond awgrymodd y byddai modd i’r Pwyllgor Craffu ofyn i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd am ddiweddariad o’i hymatebion. Mewn ymateb i’r  awgrym, mynegodd y Swyddog Monitro bod y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd eisoes wedi ymateb i’r sylwadau, wedi ffurfio canllaw cynllunio atodol ac yn unol a’r gofynion, wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Ar ddiwedd y broses cloriannwyd yr ymatebion yn erbyn y bwriad. Cynghorwyd y Pwyllgor Craffu nad oedd angen diweddariad ar yr ymatebion gwreiddiol gan fod hyn wedi ei weithredu a’r canfyddiadau wedi eu hystyried. Nid oedd felly, angen ail agor y broses.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Craffu at yr angen i ymatebion yr ymgynghoriad fod yn glir a chadarn. Awgrymodd nad oedd adnoddau nac arbenigedd ar gael yn yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i wneud gwaith ymgynghori effeithiol ac y dylai sylwadau gael eu dadansoddi yn glir ac yn ddealladwy. Amlygodd aelod mai 6 ymateb yn unig oedd wedi ei derbyn i ymgynghoriad cyhoeddus 2019 oedd yn ei farn ef yn wael ac yn codi cwestiwn os oedd dogfen dros 100 o dudalennau yn ddealladwy.

 

Mewn ymateb i’r sylw nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio ei fod yn hyderus fod y dull o gynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus yn unol a’r canllawiau perthnasol a’i bod yn amlwg fod cyfle dros gyfnod o bron i ddwy flynedd i Gwynedd a Môn gael mewnbwn barhaus i’r broses.  Roedd felly yn anghytuno gyda’r Rheolwr Craffu.

 

Mewn ymateb i gais o addasu argymhelliad 5 i barhau gyda’r ymchwiliad, awgrymodd, yr Aelod Cabinet Gareth Griffith (sydd hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd), bod angen i’r ymchwiliad ddod i ben ac i’r canllaw cynllunio atodol gael ei fabwysiadu. Ategodd, gyda threfn monitro yn ei le, bydd gwaith yn mynd yn ei flaen i adolygu’r canllaw.

 

Mynegodd y Swyddog Monitro, petai’r Pwyllgor Craffu yn dymuno i’r ymchwiliad barhau, y byddai’n eu cynghori i ail ddiffinio’r cylch gorchwyl gan fod ‘adroddiad terfynol’ yr ymchwiliad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor. Os am ail sefydlu gweithgor byddai angen sicrhau adnoddau digonol i arwain a chefnogi’r ymchwiliad. Cytunwyd mai pwrpas yr ymchwiliad  fydd, ‘sefydlu trosolwg ar sut mae asesiadau iaith yn cael eu trafod’.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio y bydd y Canllaw Cynllunio yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar y 17eg o Orffennaf lle bydd gofyn i’r Pwyllgor ystyried ei fabwysiadu..

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr adroddiad yn unol ag un addasiad bod yr ymchwiliad yn parhau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ynghyd a'r argymhellion isod:

1.    Bod gan y Cynghorau ddisgresiwn o ran gofyn am ‘Ddatganiad Iaith Gymraeg’ neu ‘Asesiad Effaith Iaith Gymraeg’ wrth ymdrin ag unrhyw geisiadau cynllunio, boed ar hap neu beidio, lle bo'r Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol, yn unol ag adran 31(2) Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.

2.    Bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn cyflwyno’r canlynol i gyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau cyn gynted â phosibl:

-       Adroddiad Monitro Blwyddyn gyntaf y Cynllun Datblygu newydd

-       Dadansoddiad o gyfraniad y Canllaw Cynllunio cyfredol i effaith datblygiadau ar hyfywedd yr iaith Gymraeg yng Ngwynedd ers 2009.

3.    Nodi trothwyon ehangach na datblygiadau ar hap ar gyfer cynnal Datganiadau Iaith ac Asesiadau Iaith yn y polisïau perthnasol.

4.    Gofyn i garedigion yr iaith am eu cefnogaeth i gyflawni’r gwaith.

5.    Bod angen cyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau fyddai’n cynnwys briff a chylch gorchwyl ar gyfer ail sefydlu gweithgor i ymchwilio i ‘sefydlu trosolwg ar sut mae asesiadau iaith yn cael eu trafod’.

 

Dogfennau ategol: