Cyflwyno
adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn.
Cofnod:
Cyflwynodd Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn adroddiad ar waith y
Gwasanaeth AHNE. Rhoddwyd diweddariad ar y prosiectau canlynol:
·
Sbwriel Morol
·
Melinoedd Llŷn
·
Planhigion Estron
Ymledol
·
Gwella Mynediad
·
Gwella Amgylchedd
·
Llwybr y Morwyr
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau a gofyn cwestiynau, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau:
·
Bod Sgwad Sbwriel Llanengan yn mynd o amgylch traethau yn yr ardal yn
casglu sbwriel. Roedd y gwaith yn gwneud gwahaniaeth gan ofalu am yr ardal;
·
Yn dilyn stormydd bod
micro blastigion yn dod i’r golwg ar draethau;
·
Ym mha leoliadau y
byddai’r gwaith gwaredu’r Efwr Enfawr yn yr Afon Soch yn cael ei gwblhau?
·
O ran gwaith adfer wal
gerrig gyda’r lôn o bentref Llithfaen at dai Cae’r Nant, a fyddai modd gwneud
gwelliannau i’r ffordd?
·
Ei fod yn anodd cael
mynediad i fyny i Gyrn Goch;
·
Bod rhywun yn gofalu am y grisiau igam-ogam o Chwarel Tyddyn Hywel. A
ellir hyrwyddo’r grisiau?
·
Bod Llwybr y Morwyr
rhwng Nefyn a Llanbedrog / Abersoch yn arbennig o dda. Roedd angen am fwy o
arwyddion gyda rhai rhannau angen sylw, gan gynnwys:
Ø y llwybr o Madryn at yr hen dymp, gyda rhedyn yn tyfu’n afreolus;
Ø o bopty’r llwybr pren rhwng Gors Geirch a Tyncoed, roedd y Cyngor wedi
cwblhau gwaith ar y llwybr ond yr oedd angen ei ail-wneud oherwydd bod gwartheg
wedi ei falurio;
Ø y llwybr o Bryncynan;
Ø y llwybrau pren ar Y Fach yn Abersoch.
·
Byddai gweddill yr arian ar gyfer prosiect Llwybr y Morwyr yn cael ei
wario ar wyro’r llwybr ger Plas Glyn y Weddw. Roedd arian dros ben oherwydd nid
oedd yn bosib cwblhau gwaith tarmac ar y clogwyni i Westy’r Cliffs oherwydd ei
fod mewn ardal Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA);
·
Bod Llwybr y Morwyr yn
ardderchog a’i fod yn bwysig o ran cysylltu llwybrau;
·
Bod angen rhoi sylw i’r
llwybr wrth ymyl Foel Fawr, roedd Llamwyr Llŷn yn rhedeg y llwybr yma yn
aml;
·
Beth oedd y diweddaraf o ran y llwybr bwriedig o Bwllheli i Garnguwch?
·
Bod tirfeddiannwr un cae
o’r lôn yn Madryn yn fodlon i greu llwybr cyhoeddus pe byddai’r Cyngor yn rhoi
ffens o amgylch y cae. A fyddai’n bosib bwrw ymlaen gyda’r trafodaethau gyda’r
tirfeddiannwr?
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:
·
Bod Sgwad Sbwriel Llanengan yn gwneud gwaith clodwiw a’u bod wedi derbyn
cyfraniad ariannol o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy ar gyfer prynu offer;
·
Roedd trefniant rhwng Sgwad Sbwriel Llanengan a’r Gwasanaeth Morwrol o
ran casglu’r bagiau sbwriel yn dilyn ymgyrchoedd glanhau. Croesawir ymgyrchoedd
o’r fath ond fe anogir eraill i sicrhau bod trefniant o’r fath yn ei le;
·
Gwneir gwaith gwaredu’r Efwr Enfawr yn Saithbont a Llandegwning.
Byddai’r gwaith yn parhau yn y flwyddyn bresennol ynghyd â’r flwyddyn nesaf;
·
Gobeithir y gellir creu
man pasio wrth gwblhau gwaith adfer wal gerrig gyda’r lôn o bentref Llithfaen
at dai Cae’r Nant. Roedd Ymgynghoriaeth Gwynedd yn gyfrifol am y prosiect a
gobeithir gwneud y gwaith yn ystod mis Medi a mis Hydref;
·
Bod Swyddog Prosiect Llwybr Arfordir yn cydweithio o ran mynediad i lawr
i Gyrn Goch gyda Rhodwyr Llŷn;
·
Mai llwybr gweithwyr i Chwarel Tyddyn Hywel oedd y grisiau igam-ogam, fe
nodir yr angen i’w hyrwyddo;
·
Bod gwaith ychwanegol yng nghyswllt Llwybr y Morwyr wedi ei adnabod ac
ymgymerir â’r gwaith yn y misoedd nesaf. Yn dilyn hyn byddai’r Llwybr yn cael
ei farchnata gan y Cyngor;
·
Bod Uwch Swyddog Hawliau
Tramwy (Dwyfor) wedi bod yn edrych ar y safle ger Foel Fawr;
·
Rhoddir blaenoriaeth i gwblhau gwaith ar Lwybr y Morwyr cyn symud ymlaen
i weithredu o ran y bwriad i greu llwybr o Bwllheli i Lithfaen;
·
Bwriedir symud ymlaen o
ran y llwybr cyhoeddus yn ardal Madryn.
PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.
Dogfennau ategol: