skip to main content

Agenda item

Cyflwyniad gan Gwenllian Mair Williams (Swyddog Datblygu Iaith Gwynedd).

 

Cyflwyno’r adroddiad blynyddol i sylw’r aelodau a thynnu sylw at faterion sydd yn codi er mwyn i’r aelodau gael trafodaeth bellach a chynnig argymhellion ar gyfer unrhyw gamau datblygol.

 

 

*11:30 – 12:10

(amcangyfrif amseru)

Cofnod:

Adroddiad sydd yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol. Cyflwynir yr adroddiad gan y Swyddog Datblygu Iaith Gweithle, a Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg, gan adrodd ar hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i staff y Cyngor a sut i ddatblygu eu sgiliau iaith,

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet Mehefin 2019 i gael ei gymeradwyo ac i’w llwytho ar wefan y Cyngor yn gyhoeddus.

Adroddiad sydd yn adrodd ar safonau penodol ar sgiliau gweithwyr yn yr iaith Gymraeg. Cwestiwn sydd yn codi yn aml, beth yw sefyllfa hyfforddiant o ran staff pob adran o’r Cyngor heblaw adran addysg ar hyn o bryd?  Rhaid pwysleisio nid yw’r adroddiad yn cynnwys GWE nag Asiantaeth Cefnffyrdd gan eu bod yn bartneriaid rhanbarthol.

Eleni mae’r adran wedi gallu edrych yn ôl ar bedair (4) blynedd o ddata ynglŷn â safonau cyflenwi gwasanaeth, safonau gosodwyd ar y Cyngor gan y Comisiynydd yn y Gymraeg.  Gweler linc ar y wefan: <https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Dogfennau-Cyngor/Strategaethau-a-pholisiau/Cynllun-iaith/Cynllun-Hybu%27r-Gymraeg-yng-Ngwynedd-2018-2023.pdf> ar y Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd 2018-2023, ymgais i adnabod y prif heriau a chyfleoedd sydd yn wynebu’r Gymraeg.

Sylwadau gan yr Aelodau:

·         Ydyw ymgeiswyr yn rhoi eu gwir ymateb i’r cwestiwn a ofynnir yn y ffurflen ymgeisio am swydd, ar siarad a deall yr iaith Gymraeg?

·         Sut mae asesu effaith a data?

·         Data gweithwyr Cefnogol – rhai ddim yn siarad Cymraeg?

·         Canolfannau Hamdden?

·         Beth yw diffiniad iaith hyfforddiant?

·         Posib cynnig darpariaeth cyfieithu?

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod gan y Swyddog Datblygu Iaith Gweithle, a Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg, dengys bod modd i chwi fel aelodau o’r pwyllgor hwn rhoi mewnbwn gydag awgrymiadau / argymhellion i wella ar yr adroddiad flwyddyn nesa.

Wrth gyfweld yr ymgeiswyr, mae posib cymharu eu sgiliau ieithyddol ar eu safon cyfweld gan feirniadu ar eu hymatebion ieithyddol wrth gymharu'r canlyniadau gyda’r sydd swydd ddisgrifiad.

Mynegwyd bod yr uned yn gweithio ar y cyd gyda’r Swyddog Cydraddoldeb yn ystod y misoedd diwethaf ar asesu effaith data.  Mae nifer o ffactorau wedi arwain at beth rydym yn ceisio’i gyflawni a sut i wella’r asesiadau. 

Ychwanegwyd pan ddaeth y safonau i rym ynglŷn â diffiniad iaith ag hyfforddiant, roedd nifer yn cyfeirio at lunio polisi, teimlad y swyddogion ar y pryd oedd gweithio ar y ffordd orau o fodloni’r safonau.  Daethpwyd adroddiad sicrwydd y Comisiynydd o flaen y pwyllgor Iaith yr Haf diwethaf i dynnu sylw at y mater o fodloni'r asesiadau iaith a chydraddoldeb, gan feddwl am y ffordd orau i weithredu.  Nid oedd modd gweithio i’r rhaglen o ran y gofyn, a gofynnwyd i chwi fel aelodau ystyried y polisi ar effaith orau ar yr iaith.

Yn ddiweddar mae Cynllun Cydraddoldeb yn edrych yn ôl ar yr asesiadau er mwyn gweld os oes gwelliannau i wneud ac os ydyw'r asesiadau yma yn cael eu cynnal yn y ffordd gywir, mae hyn yn waith datblygol wedi ei ymrwymo gyda phenaethiaid a rheolwyr y Cyngor.

Nodwyd bod data gweithwyr Cefnogol yn yr adran addysg a gofal sydd yn siarad Cymraeg wedi codi.  Rhaid ystyried y ffaith mai’r adrannau yma sydd yn cyflogi'r gweithwyr yn uniongyrchol.  Y rhwystrau sydd yn wynebu ni fel corff yw recriwtio i ofynion sgiliau perthnasol y swydd sydd yn cael eu cymeradwyo ar wahân i allu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg.  Rydym yn gweithio gyda’r adrannau i weld pwy sydd angen hyfforddiant, gan flaenoriaethu staff y rheng flaen yn gyntaf.

Cyfeiriwyd bod y canolfannau hamdden wedi eu cynnwys yn yr adroddiad eleni.

Canfuwyd mai diffyg arbenigwyr allanol yn methu'r Gymraeg sydd yn achosi her i hyfforddi cyrsiau allanol.  Rhaid ymchwilio i ddarparu darlun cywir ar gyfleusterau hyfforddi allanol cyn y gallem gynnig darpariaeth cyfieithu.

 

PENDERFYNIAD:

Derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: