Cyflwniad gan Debbie A W Jones (Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol Addysg).
Adroddiad ar ran y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams (Aelod Cabinet)
Ymgynghoriad – Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a Chanllawiau – Drafft.
Pwrpas – i rannu gwybodaeth ac ystyried sylwadau’r aelodau fel rhan o’r broses o lunio ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad.
*10:10 – 10:50
(amcangyfrif amseru)
Cofnod:
Derbyniwyd cyflwyniad gan y Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol Addysg ar yr
Ymgynghoriad Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a
chanllawiau drafft (CSGA).
Gofynnwyd i’r aelodau
gyflwyno unrhyw sylwadau i’w cynnwys fel rhan o ymateb ffurfiol Gwynedd i’r
ymgynghoriad. Nodwyd fod angen ymateb
i’r ymgynghoriad erbyn dechrau Medi 2019.
Sylwadau gan Aelodau:
·
Cyflwyniad
diddorol.
·
Nodwyd
pryder pam nad ydym yn datblygu addysg Gymraeg yn barod?
·
Croesawu
bod y ffactor dileu mesur a galw yn cael ei gyflwyno.
·
Cwestiynwyd
lle mae’r Canolfannau Iaith â’r Siarter Iaith yn yr ymgynghoriad?
·
Cwestiynwyd
a yw’r ymgynghoriad hyn yn cyfeirio at Addysg Gymraeg ynteu addysg ddwyieithog?
·
Cwestiynwyd
beth mae “trochi'r Gymraeg” yn ei olygu?
·
Nodwyd
siom nad oes sôn am adnoddau ychwanegol i gefnogi'r ymgynghoriad hwn.
·
Nodwyd
bod angen i’r ymgynghoriad ymdrin â’r iaith chwarae yn yr ysgol a
gweithgareddau ar ôl ysgol. Mae lle
hefyd i sicrhau rôl i lywodraethwyr, cyfeillion yr ysgol.
·
Awgrymwyd
fod cyfle i sefydlu pencampwyr Cymraeg.
·
Nodwyd
pryder am faint o siaradwyr Cymraeg sydd yng Ngwynedd, a phryder am gynnydd
addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.
·
Yn ogystal, codwyd yr angen am weithlu ac athrawon
Cymraeg gan addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Manylodd y Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol Addysg ar y sylwadau. Cadarnhaodd mai drafft yw'r ymgynghoriad ar
hyn o bryd ac mae croeso i unrhyw un roi eu hadborth ar yr ymgynghoriad erbyn
dechrau Medi 2019.
Ymhelaethodd ar bwyntiau penodol.
·
Mae’r
Canolfannau Iaith yn cael eu cyfarch dan y deilliannau a’r dilyniant a
throchi.
·
Nid
yw’r CSGA a’r rheoliadau newydd yn newid Polisi Iaith Gwynedd
·
Nid oes diffiniad penodol ar drochi addysg, mae trochi yn
digwydd mewn ffyrdd gwahanol yn siroedd Cymru.
Yng Ngwynedd rydym yn ystyried y cyfnod sylfaen, oherwydd mae yn trochi
plant tair i saith oed trwy gyfrwng y Gymraeg; plant rhwng saith a 14 yn cael
mynediad i ganolfannau iaith i gael eu trochi yn y Gymraeg er mwyn ymdopi mewn
ysgolion prif ffrwd.
·
Mae
CSGA yn eu cyfanrwydd a Llywodraeth Cymru yn gosod yr holl ddyletswydd statudol
ar yr awdurdodau lleol yn ymwneud â’r maes yma.
Rhaid meddwl am bwy sydd yn recriwtio staff yn ysgolion Gwynedd, y
Llywodraethwyr yw'r rhain, ac fell mae’r pwynt atebol yn cyflwyno bod gennym
waith arfogi i’w wneud gyda’r Llywodraethwyr, fel codi ymwybyddiaeth o'r
disgwyliadau.
·
Defnydd
anffurfiol o ddefnyddio'r Gymraeg tu allan i oriau ysgol, mae posib llunio
canllawiau ar sut fyddai rhywun yn annog defnydd partneriaeth iaith, mae yn
rhan newydd o ddialog canllawiau CSGA, ynglŷn â gweithio mewn partneriaeth
gyda mudiadau o amgylch yr ysgol o fewn y cymunedau. Felly rhaid meddwl beth yw adnodd o weithio
mewn partneriaeth gyda Menter Iaith, yr Urdd, Ffermwyr Ifanc a mudiadau eraill.
Pryder sydd yn wynebu'r ysgolion ac sydd yn codi'r cwestiwn ydyw’r mudiadau yma
yn mynd i bwyso yn ariannol / adnoddau ar yr ysgolion, rhaid meddwl pa
gyfraniad mae’r mudiadau yma yn gallu cyfrannu a pwy fydd yn cydlynu?
·
Gwaith
manylu ar yr ymgynghoriad yn dechrau yng Ngwynedd fis Medi 2019 ymlaen. Gan fod
yr amserlen yn gyfyng mewn amser i dderbyn sylwadau, mae’r adran Addysg wedi
gofyn am estyniad, ond nid oes ymateb wedi ei dderbyn hyd yma.
·
Gydag
ymateb i sylwad y saith deilliant, y cwestiwn sydd yn codi pryder yw, yn lle
mae Cymru yn mynd i recriwtio'r athrawon i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg? Yr her yw cynyddu addysgu’r iaith o fewn yr
ysgolion, dyma'r darlun mae’r weledigaeth yng Nghymru yn eu hwynebu, ar hyn o
bryd nid yw yn berthnasol i Wynedd.
Atodir linc i’r ymgynghoriad fel gwybodaeth er mwyn cyflwyno sylwadau https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2019-05/dogfen-ymgynghori-rheoliadau-cynlluniau-strategol-cymraeg-mewn-addysg-cymru-2019-ar-canllawiau-drafft_0.pdf
DERBYNIWYD
y wybodaeth a’r adroddiad a nodwyd bod hwn yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir.
Dogfennau ategol: