Agenda item
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd
oddi wrthi o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Nia Jeffreys yn
cynnig fel a ganlyn:-
“Galwn ar y Cyngor hwn i alw am annibyniaeth i Gymru gan anfon neges glir nad yw Cymru yn rhy fach na thlawd i sefyll ar ei thraed ac ein bod yn dyheu i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein dyfodol yng Nghymru, ac nid yn Llundain.”
Cofnod:
(A) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Nia Jeffreys
o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
“Galwn
ar y Cyngor hwn i alw am annibyniaeth i Gymru gan anfon neges glir nad yw Cymru yn rhy fach na thlawd i sefyll ar ei thraed ac
ein bod yn dyheu i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein dyfodol yng
Nghymru, ac nid yn Llundain.”
Mynegwyd cefnogaeth frwd i’r cynnig gan aelodau unigol ar sail:-
·
Eu dymuniad i gyfrannu at adeiladu Cymru well,
Cymru newydd a Chymru rydd.
·
Eu gweledigaeth am Gymru ffyniannus, decach a mwy
democrataidd; gwlad lle fyddai cyfiawnder cymdeithasol ar frig yr agenda ymhob
agwedd o fywyd cyhoeddus a gwlad lle gwneid penderfyniadau am Gymru gan bobl
Cymru.
·
Nad oedd Cymru’n rhy fach nac yn rhy dlawd i
fod yn annibynnol, a bod rhai o wledydd mwyaf llewyrchus, mwyaf cyfartal a
hapusaf y byd yn wledydd bychain.
·
Mai synnwyr cyffredin oedd dweud y dylai’r holl
benderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, ac y byddai’n haws delio â
phroblemau Cymru petai’r llywodraeth yn un i Gymru a bod yr holl sylw ar
anghenion Cymru yn unig.
·
Bod dyletswydd arnom i ymgyrchu am annibyniaeth
er mwyn ein pobl ifanc a chenedlaethau’r dyfodol.
·
Gan fod Cymru ar lwybr llithrig iawn i adael y
Gymuned Ewropeaidd, bod brys gwirioneddol i gael rhagor o bwerau i Gymru, grymoedd
dros adnoddau naturiol Cymru fel cynhyrchu ynni ac adnoddau dŵr, rhagor o
bwerau economaidd, datganoli darlledu, yr heddlu a’r gyfundrefn gyfiawnder.
·
Gan fod y Deyrnas Gyfunol yn newid yn
sylfaenol, gyda’r Alban yn paratoi ar gyfer ail refferendwm ar annibyniaeth, ac
ail-lunio Iwerddon yn bosibilrwydd real, ei bod yn hollbwysig nad oedd Cymru yn
cael ei gadael ar ôl.
·
Nad oedd yr ateb i’r heriau economaidd oedd yn
wynebu Cymru i’w cael yn Llundain, nac ar lefel Prydain, a’i bod yn amlwg nad
oedd gwerthoedd Cymru yn cael eu hadlewyrchu’n San Steffan na pholisïau
llywodraeth honno yn cael eu gosod er budd pobl Cymru.
·
Na ellid ddibynnu ar bobl eraill i wyrdroi
sefyllfa drychinebus ein cenedl, a bod raid i bawb weithio gyda'i gilydd i greu
cenedl well.
·
Bod 50 o wledydd wedi gadael yr Ymerodraeth
Brydeinig dros y 50 mlynedd ddiwethaf a phob un wedi cael yr un dadleuon yn
erbyn annibyniaeth ag oedd yn cael eu rhoi yn achos Cymru.
·
Y dymunid gweld cymdeithas deg, gytbwys,
fyddai’n gweithio i gefnogi’r bregus – cymdeithas heb hiliaeth a lle byddai pob
unigolyn yn cael y cyfle i fyw i’w lawn botensial, waeth beth fyddai ei dras,
ei iaith, ei grefydd neu gyfoeth.
·
Gyda 40 allan o tua 650 o seddau’n unig, nid
oedd gan Gymru gyfle i lywio’r drafodaeth yn San Steffan nac i wrthwynebu, er
enghraifft, y dreth ystafell wely, y cymal trais rhywiol, carchariad mewnfudwyr
am dymor di-ben draw na chredyd cynhwysol.
·
Nad oedd bod yn rhan o’r Deyrnas Gyfunol erioed
wedi gweithio i Gymru a bod Cymru’n dlotach na gweddill Prydain, gyda 29% o
blant Cymru yn cael eu magu mewn tlodi, a 20% o bensiynwyr Cymru a 39% o bobl
anabl Cymru yn byw mewn tlodi.
·
Bod 10 o’r 11 rhanbarth tlotaf yn Ewrop yn y
Deyrnas Gyfunol a disgwyliad oes pobl Cymru 7-10 mlynedd yn is na’r rhannau
cyfoethocaf o Brydain.
·
Bod Cynnyrch Domestig Gros Cymru yn £22,000 y
person tra bo’r ffigur cyfatebol ar gyfer Prydain yn £42,500, a gwledydd megis
Iwerddon a Gwlad yr Ia uwchlaw £70,000.
Golygai hynny bod Cymru yn cymharu â gwledydd Dwyrain Ewrop, a byddai’r
sefyllfa’n debygol o waethygu unwaith y byddai’r arian strwythurol a dderbynnid
o Ewrop yn diflannu.
·
Bod Cymru’n ddibynnol iawn ar y sector amaeth,
ac yn fwy dibynnol na gweddill Prydain ar y sector cynhyrchu, a byddai’r
sectorau hynny’n sicr o ddioddef yn enbyd yn sgil ymadawiad Prydain o’r Undeb
Ewropeaidd.
·
Nad oedd Cymru’n wlad dlawd mewn llawer
ystyr. Roedd yn cynhyrchu dwywaith
cymaint o drydain ag yr oedd yn ei ddefnyddio; roedd ganddi gyflenwad digonol o
ddŵr ac roedd hefyd yn hunan-gynhaliol o ran bwyd. Er hynny, nid oedd gan Gymru bwerau dros ei
chyflenwadau dŵr na thrydan ei hun ac roedd yr arian oedd yn cael ei
gynhyrchu mewn rhenti gan y tyrbeini gwynt ar wely’r môr o amgylch arfordir
Cymru yn mynd i boced y Frenhines.
·
Y dymunid i Gymru fod yn rhan o deulu
rhyngwladol Ewrop, fel gwledydd bychain eraill megis Latfia, Estonia, Iwerddon,
Lithwania, ayb.
·
Bod y system wleidyddol Brydeinig yn chwalu a
bod angen i Gymru fanteisio ar y don bresennol o chwilfrydedd mewn
annibyniaeth.
·
Y gwrthodid y syniad nad oedd Cymru’n ddigon da
i redeg ei threfn ei hun ac roedd diffyg hyder pobl yn y cysyniad o
annibyniaeth yn ganlyniad canrifoedd o orthrwm ac imperialaeth Brydeinig.
·
Y mawr hyderid y byddai gorymdaith ‘Yes Cymru’
yng Nghaernarfon ar y 27ain o Orffennaf yn ysgogiad i bobl ifanc gymryd rhan yn
y drafodaeth yma.
Nododd aelod, er ei fod yn llwyr gefnogol i amcanion mudiad ‘Yes Cymru’, ei
fod o’r farn y dylid apelio ar y trefnwyr i fabwysiadu’r slogan ‘Ie Cymru’ fel un swyddogol, oherwydd pryder bod y slogan Saesneg yn
gwanychu ein statws fel cenedl.
Nododd aelod arall, er ei fod yntau’n llwyr gefnogol i’r holl ddadleuon a
roddwyd o blaid y cynnig, mai digon hawdd oedd dweud pader wrth berson ac mai’r
tu allan i ddrws y Siambr roedd angen pregethu a chael
pobl i newid eu meddyliau.
Gwrthwynebwyd y cynnig gan rai aelodau eraill ar sail:-
·
Er y gydnabyddiaeth bod Brexit yn llanast’
llwyr, dylid gochel rhag rhuthro i mewn i annibyniaeth gan y byddai hynny’n
creu llanast’ gwaeth.
·
Nad oedd gan Gymru
sylfaen gynhyrchu. Roedd economi Cymru’n
rhacs a’i chyfoeth yn arwynebol a byddai’n amhosib’ iddi oroesi fel gwlad ar ei
phen ei hun.
·
Petai Cymru’n ceisio mynd yn ôl i mewn i Ewrop
fel gwladwriaeth genedlaethol annibynnol, ni fyddai’n bosib’ iddi elwa o’r un
fargen ac mae’n fwynhau ar hyn o bryd.
·
Yn hytrach nag
ymgyrchu am annibyniaeth i Gymru, dylai pawb fod yn ymuno i frwydro yn erbyn
Brexit.
·
Nad oedd Llywodraeth
Cymru erioed wedi llwyddo i wneud buddsoddiad ystyrlon i’r Gogledd o Ferthyr
Tudful, a gan y byddai annibyniaeth yn sicr o arwain at Lywodraeth dlotach yng
Nghaerdydd, byddai yna lai fyth o arian i’w fuddsoddi ar draws Cymru.
·
Er y cytunid bod
angen i Gymru gael mwy o ymreolaeth, mwy o ddatganoli gwasanaethau a mwy o
bwerau, byddai torri’n llwyr oddi wrth weddill Prydain yn dinistrio’r Deyrnas
Gyfunol.
·
Bod yna 60 Aelod
Cynulliad yng Nghaerdydd eisoes. Roedd
Llywodraeth Cymru yn awyddus i gael 60 arall, ynghyd â Senedd Ieuenctid, ond o
ble roedd yr arian am ddod ar gyfer hyn i gyd?
Awgrymodd aelod
fod angen undod a democratiaeth yn y
Siambr hon i ddechrau cyn edrych ar y darlun mawr.
Nododd aelod arall na chredai y dylai’r Cyngor
fod yn trafod materion fel hyn, ac iddi gael ei hethol i wasanaethu pobl ei
chymuned ac i sicrhau’r gorau i bobl Gwynedd.
Ychwanegodd aelod arall na allai bleidleisio y
naill ffordd na’r llall ar y cynnig gan nad oedd wedi cael mandad gan y bobl
roedd yn eu cynrychioli.
Galwyd am
bleidlais gofrestredig ar y cynnig.
Yn unol â’r Rheolau
Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-
O
blaid (42)
Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Dylan Bullard, Annwen Daniels, R.Glyn Daniels, Anwen
Davies, Elwyn Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Peter Antony Garlick,
Simon Glyn, Gareth Wyn Griffith, Selwyn Griffiths, Alwyn Gruffydd, Annwen
Hughes, Judith Humphreys, Nia Jeffreys, Peredur Jenkins, Aled Wyn Jones, Berwyn
Parry Jones, Charles W.Jones, Elin Walker Jones, Gareth Jones, Huw Wyn Jones,
Kevin Morris Jones, Cai Larsen, Dafydd Meurig, Dafydd Owen, Edgar Wyn Owen,
Dewi Wyn Roberts, Elfed P.Roberts, Gareth A.Roberts, Mair Rowlands, Paul
Rowlinson, Dyfrig Siencyn, Gareth Thomas, Hefin Underwood, Catrin Wager, Eirwyn
Williams, Elfed Williams, Gareth Williams, Gruffydd Williams ac Owain Williams.
Yn
erbyn (4)
Y Cynghorwyr
Stephen Churchman, Dylan Fernley, Louise Hughes ac R.Medwyn Hughes.
Atal
(5)
Y Cynghorwyr Anne
Lloyd Jones, Keith Jones, Beth Lawton, Dewi Owen a Nigel Pickavance.
Nododd y Cadeirydd
fod y cynnig wedi cario.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig.