Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Yn
amodol ar y cyfyngiad a nodir yng Nghymal 15 yr adroddiad, er mwyn dygymod
gyda’r sefyllfa ariannol 2020/21, bod y Cabinet yn mabwysiadu Opsiwn 3, gan
ofyn i adrannau ddarganfod eu siâr nhw o’r isafswm o £2m fydd ei angen i
gyfarch yr isafswm o ddiffyg adnoddau ar gyfer chwyddiant y mae'r Cyngor yn
debygol o’i wynebu, gan ofyn i’r Pwyllgorau Craffu, graffu cynigion yr adrannau
yn yr Hydref.
Wrth
adrodd dylai adrannau hefyd adrodd ar sut y maent yn bwriadu dygymod gydag
unrhyw ddiffyg sydd angen ei gyfarch yn eu cynlluniau arbedion.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Dilwyn Williams
PENDERFYNIAD
Yn amodol ar y cyfyngiad a nodir
yng Nghymal 15 yr adroddiad, er mwyn dygymod gyda’r sefyllfa ariannol 2020/21,
bod y Cabinet yn mabwysiadu Opsiwn 3, gan ofyn i adrannau ddarganfod eu siâr
nhw o’r isafswm o £2m fydd ei angen i gyfarch yr isafswm o ddiffyg adnoddau ar
gyfer chwyddiant y mae'r Cyngor yn debygol o’i wynebu, gan ofyn i’r Pwyllgorau
Craffu graffu cynigion yr adrannau yn yr Hydref.
Wrth adrodd dylai adrannau hefyd
adrodd ar sut y maent yn bwriadu dygymod gydag unrhyw ddiffyg sydd angen ei
gyfarch yn eu cynlluniau arbedion cyfredol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi os bydd goblygiadau gwaethaf sydd wedi ei nodi yn yr
adroddiad yn dod yn wir, y bydd y Cyngor mewn lle pur wael. Mynegwyd fod yr
atodiad cyntaf yn nodi’r darlun hanesyddol, gan nodi nad yw’r grant a’r cynnydd
treth Cyngor blynyddol wedi bod yn ddigon i dalu am y chwyddiant. Ychwanegwyd fod y Cyngor wedi arbed £65miliwn
dros y ddeuddeg mlynedd diwethaf a llawer ohono drwy arbedion effeithlonrwydd,
mynegwyd fod dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd am fynd yn fwyfwy anodd i’r
adrannau ddod o hyd iddynt.
Nodwyd er mwyn
cynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, bod ‘Twmffat Tebygolrwydd’ i’w gweld
yn Atodiad 2. Mynegwyd ei bod yn syml mynd am y llinell ganol o ran arbedion,
ond ychwanegwyd fod 50% o siawns y bydd y ffigwr yn uwch. Ategwyd os yn cyfri y
£2.2m o arbedion sydd wedi ei gynllunio ers y llynedd, ynghyd â chynnydd 3.5%
yn y Dreth Cyngor, gall y bwlch ariannol fod rhwng £1.7m a £7.3m. Mynegwyd dros
y blynyddoedd diwethaf fod y Cyngor wedi cynllunio ar gyfer y gwaethaf, ond
ychwanegwyd fod trefn arbedion y llynedd wedi amlygu fod toriadau eioses yn
mynd i gael eu gwneud sydd am fod yn anodd i nifer o wasanaethau ac fe fydd
unrhyw doriadau pellach yn anodd dros ben ac yn debygol o ddychryn pobl, boed
yn drigolion a staff.
Amlygwyd tri opsiwn
ar sut i symud ymlaen, a mynegwyd fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid a’r Prif
Weithredwr yn argymell y trydydd opsiwn, sydd yn cynllunio i gwrdd â’r bwlch o
£1.7m, i’w rowndio i fyny i £2m, yn y sefyllfa ganolig drwy rannu’r swm hwnnw
ymysg yr holl adrannau (ac ysgolion), gan nodi mai cyfraniad at chwyddiant yw
hyn, ac yna defnyddio balansau a/neu gynnydd uwch yn y Dreth Cyngor i gwrdd â’r
bwlch uwchben y sefyllfa ganolrif i roi amser i ddod o hyd i ateb parhaol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Mynegwyd
fod y sefyllfa yn codi ofn ac yn ddychrynllyd, gan bwysleisio blwyddyn ar ôl
blwyddyn fod Aelodau yn gorfod mynd drwy’r drefn arbedion unwaith eto, ac nad
oeddynt yn barod i’w wneud eto gan ei fod mor dorcalonnus.
¾
Pwysleisiwyd
fod dadl yn amlwg i’w gweld rhwng blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth Llundain.
¾
Nodwyd
fod cyhoeddiad yn nodi fod codiad cyflog uwch am gael ei roi i Athrawon, sy’n
uwch na’r rhagdybiaethau o godiad cyflog 2%. Ychwanegwyd fod cyfnod o warchod
Addysg, Plant ac Oedolion bellach wedi mynd heibio a bydd yn anodd dod o hyd i
arbedion heb effeithio ar y gwasanaethau hynny.
¾
Diolchwyd
i swyddogion y Cyngor am eu gwaith i ragweld y sefyllfa tebygol, er pa mor
anodd yw’r gwaith. Mynegwyd fod blaenoriaethau'r Llywodraethau ar Brexit a
rhyfeloedd, gan bwysleisio nad y rhain yw blaenoriaethau trigolion Gwynedd.
Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn rhoi sylfaen rhesymegol i allu cynllunio ymlaen
yn sgil y diffyg gwybodaeth sylfaenol sydd ar gael.
Awdur:Dilwyn Williams
Dogfennau ategol: