skip to main content

Agenda item

Estyniad blaen, creu balconi llawr cyntaf, addasiadau i'r to ac ymestyn adeilad allanol i greu anecs

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd  Gareth T Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Estyniad blaen, creu balconi llawr cyntaf, addasiadau i'r to ac ymestyn adeilad allanol i greu anecs

 

Amlygwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol a dau Aelod arall.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad porth ar flaen y tŷ; gosod balconi llawr cyntaf ar hyd blaen y tŷ uwchben rhannau tô gwastad presennol; ymgymryd ag addasiadau i’r tô trwy osod tô llechi a drws gromen fechan i’r blaen; decin blaen; ymestyn adeilad allanol presennol o fewn cwrtil yr eiddo yn anecs ym Mwthyn Bridyn, Lon Bridyn, Morfa Nefyn. Nodwyd bod yr eiddo wedi ei leoli gyfochrog a mynediad i draeth Morfa Nefyn, ond ar lefel ychydig uwch na’r traeth, gyda wal derfyn uchel yn amgylchynu’r blaen ac ochrau. 

 

Adroddwyd bod y cais yn cynnwys dwy elfen, sef yr estyniad a’r newidiadau i’r tŷ a’r estyniad i’r adeilad allanol i greu anecs. Adroddwyd mai tô dalennau asbestos sydd i’r tŷ yn bresennol gyda’r bwriad yn golygu ei ail doi â llechi sydd yn welliant ynghyd â drws gromen ddigon bychan na fyddai’n amharu’n sylweddol ar edrychiad a chymeriad y wyneb blaen.

 

Derbyniwyd sawl gwrthwynebiad i’r bwriad yn mynegi pryder am gyflwyno nodweddion modern i’r eiddo gan fod y bythynnod pysgotwyr presennol heb eu difethaf.  O ystyried mai sgrin wydr ysgafn fyddai i flaen y balconi ac na fyddai siâp yr adeilad yn newid yn arwyddocaol, ni ystyriwyd y byddai’r newidiadau yn amharu’n sylweddol ar edrychiad yr eiddo i gyfiawnhau gwrthod yr addasiadau.  Gan mai cymharol fychan yw’r newidiadau i’r tŷ, ystyriwyd eu bod yn ychwanegiadau derbyniol o ran ymddangosiad, graddfa a’r driniaeth drychiadau ac yn cydymffurfio â gofynion polisi PCYFF 3 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Nodwyd bod yr ail elfen yn golygu codi estyniad ar yr adeilad allanol presennol sy’n ffurfio rhan o berchnogaeth yr eiddo.  Gan fod y cwrtil wedi ei amgáu gan wal derfyn uchel, dim ond ychydig o wal a thô fyddai’n weledol o ffordd fynediad y traeth.  Amlygwyd fod y  gwrthwynebiadau wedi datgan pryder am newid golwg adeilad hanesyddol, fodd bynnag ni ystyriwyd fod y newidiadau yn sylweddol ymwthiol nac yn annerbyniol o ran graddfa, uchder a mas ar y safle hwn sydd wedi ei amgáu gan wal uchel.  Ystyriwyd bod yr anecs yn cydymffurfio â gofynion PCYFF3.

 

Cyfeiriwyd at y materion llifogydd oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd a sylw bod y cynlluniau wedi newid yn sylweddol ers i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig gyflwyno  gwrthwynebiadau.

           

Wedi pwyso a mesur y cais a’r cynlluniau diwygiedig yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ynghyd a’r holl sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu gyda’r amodau perthnasol.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod gan ei deulu barch tuag at y pentref

·         Bod addasiadau i’r cynlluniau wedi eu cytuno

·         Bod defnyddio llechi ar y to yn cydweddu gyda thai cyfagos

·         Bod yr eiddo wedi bod ym mherchnogaeth y teulu ers 1957 a dymuniad y teulu yw ei warchod i’r dyfodol

·         Nad oedd bwriad defnyddio’r tŷ ar gyfer unrhyw fenter fasnachol  - defnydd ar gyfer y teulu yn unig yw’r bwriad

·         Bod yr adeilad wedi ei lygru gydag asbestos ac os na fuasai gwaith yn cael ei wneud i’w arbed, byddai’r tŷ yn mynd yn adfail.

·         Bod symud yr asbestos yn angenrheidiol ac felly cyfle i ddiweddaru a moderneiddio’r tŷ

·         Bod angen sicrahu bod y tŷ yn drigiadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Ei fod yn ystyried yr addasiadau fel rhai sylweddol

·         Bod y Cyngor Cymuned a thrigolion lleol yn pryderu am newid i edrychiad a gwedd yr ardal

·         Bod rhannau o’r cais yn dderbyniol – derbyn bod y tŷ angen ‘gofal’

·         Bod gosod llechi ar y tô yn ddymunol ac yn gwella  golwg allanol yr adeilad

·         Bod estyniad i’r adeilad allanol i greu anecs hefyd yn dderbyniol oherwydd byddai hyn hefyd yn gwella gwedd yr ardal

·         Nad oedd o blaid creu estyniad blaen a balconi – ei fod yn gwrthwynebu ar sail gorddatblygiad o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriedig (AHNE), tiroedd o ddiddordeb ac ardal sensitif

·         Nododd na fyddai’r dyluniad modern yn gweddu’r clwstwr tai cyfochrog

·         Er i’r cwrtil fod wedi ei amgáu gyda wal uchel, ac awgrym na fydd modd gweld hyn o’r traeth, roedd yn amau’r awgrym ac yn nodi y byddai’n weledol o’r traeth

·         Byddai’r balconi yn weledol ac yn newid golwg yr adeilad hanesyddol

·         Yr adeilad yn cael ei gynnwys ar gardiau post sydd yn hyrwyddo’r ardal – angen cadw yr olygfa fel ag y mae

·         Bod yr holl fythynnod yn weddus heb falconi

·         Bod y cynllun yn anghydnaws ac felly yn annog y Pwyllgor i wrthod

 

ch)       Cynigiwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle

 

a)            Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Bod newidiadau i’r tô i’w croesawu ynghyd a gwella’r adeilad allanol

·           Buasai gosod balconi yn amharu ar heddwch y traeth ac yn anghydnaws gyda’r clwstwr tai

·           Yr adeiladau yn rhai hanesyddol gyda rhinweddau arbennig

·           Angen gwarchod yr eiddo rhag cael ei orddatblygu

·           Bod yr adeilad angen gofal neu fel arall y byddai’n cwympo

·           Bod y balconi yn gam rhy bell, ond eto rhannau o’r cais i’w cymeradwyo     

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio ei fod yn derbyn bod cefnogaeth i rannau penodol o’r cais ac efallai y byddai modd i’r swyddogion gynnal trafodaethau gyda'r ymgeisydd ynglŷn â’r balconi.

 

PENDERFYNWYD,

·         Cynnal ymweliad safle

·         Cynnal trafodaethau pellach gyda'r asiant / ymgeisydd ynglŷn â’r balconi llawr cyntaf

 

Dogfennau ategol: