Cyflwyno adroddiad gan Bob Thomas (Arweinydd Tîm) Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd.
Cofnod:
Rhoddwyd trosolwg
o beth yw pwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol gan nodi
mae ei
brif bwrpas ydi bod o gymorth i ymgeiswyr wrth
gyflwyno a pharatoi ceisiadau cynllunio ynghyd a bod o gymorth i’r sawl fydd
yn gwneud y penderfyniad ar y cais, boed hynny’n
Swyddogion, Cynghorwyr neu yn Arolygydd
annibynnol.
Yng nghyswllt y CCA dan sylw nodwyd
fod yna gyfnod
ymgynghori cyhoeddus wedi cymryd lle
rhwng Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019. Yn ogystal â hynny mae’r Canllaw wedi
bod trwy broses craffu yn y ddau Gyngor
ac wedi bod yn destun gwerthusiad beirniadol annibynnol gan arbenigwyr o fewn y maes
Cynllunio Iaith.
Yn sgil y broses Craffu fe dderbyniwyd
adborth gan Bwyllgor Craffu Cymunedau Gwynedd ynghyd a Phwyllgor Sgriwtini Môn, mae’r tabl a gynhwysir
ym mharagraff 4.2 ac 4.3 (yn ôl eu
trefn) yn cofnodi’r ymateb yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd i’r
sylwadau a dderbyniwyd.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, dderbyniwyd 88 sylw unigol (rhain
i’w gweld yn Atodiad 1b o’r
adroddiad). Nodwyd fod rhan fwyaf
o’r sylwadau yn rhai adeiladol
a bod yna gynnig o fan ddiwygiad i gynnwys
y Canllaw yn aml yn cael
ei gynnig yn sgil sylw
a dderbyniwyd. Ble nad oes yna argymhelliad i ddiwygio’r Canllaw
yn sgil y sylw, mae yna
nodyn o eglurhad/rheswm yn cael
ei nodi dros
y penderfyniad hynny. Yn aml mae’r
rheswm hynny’n ymwneud a’r ffaith
fod y mater a gyfeirir ato o fewn y sylw
wedi ei gynnwys
mewn rhan arall o’r Canllaw.
Nodwyd fod yna gopi cyflawn
o’r Canllaw wedi ei gynnwys
yn Atodiad 2, sydd wedi ymgorffori’r
newidiadau a awgrymwyd yn dilyn
yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Materion a godwyd:
• Oes yna ymateb i’r
farn gyfreithiol a dderbyniwyd ar ran Cymdeithas yr Iaith.
• Gofynnwyd am eglurder o ran pryd fyddai angen Asesiad/Datganiad (beth yw’r trothwyon). Cyfeiriwyd at y tabl a gynhwysir ym Mhara
4.2 o’r Canllaw a’r cwestiwn sydd
wedi cael ei godi gan
Bwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd sydd yn ymwneud a’r
un mater.
• Holwyd sut mae’r trothwyon
o ran pryd gofynnir i ymgeisydd gyflwyno
Datganiad/Asesiad yn cymharu hefo’r
gofynion presennol (hynny yw'r gofynion
sydd wedi ei osod allan yng Nghanllaw Cynllunio Atodol Cyngor
Gwynedd sydd yn ymwneud a Chynllunio a’r Iaith Gymraeg).
• Gofynnwyd a oes yna unrhyw
enghreifftiau o ddatblygiadau
penodol ble na fyddai
ystyriaeth yn cael ei roi
i’r effaith ar yr iaith
Gymraeg. Oes yna rhai mathau
o geisiadau a fyddai’n gallu llithro drwy’r
rhwyd.
• Holwyd ynglŷn â statws ‘Canllawiau Cynllunio Atodol’ gan mae
‘canllawiau’ yn unig ydynt. A oes
yna unrhyw arweiniad wedi ei gynnwys o fewn
y Canllaw o ran beth fyddai’r goblygiadau pe fyddai’r ymgeisydd
ddim yn cydymffurfio
hefo’r Canllawiau hyn.
• Nodwyd y ffaith fod yna
broses craffu ac ymgynghori
hirfaith wedi bod wrth baratoi'r Canllaw, gan gynnwys
proses o werthuso annibynnol
gan arbenigwyr allanol yn y maes dan sylw a chan hynny
nodwyd fod yr aelod yn
gyfforddus hefo’i gynnwys a’r rhesymeg
tu ôl iddo.
Nodwyd hefyd, nad oedd
Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb
i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Canllaw Drafft.
Ymateb:
• Cadarnhawyd fod yna ymateb
ffurfiol wedi cael ei gyflwyno
i Gymdeithas yr Iaith sydd
yn cadarnhau safbwynt y Cynghorau o ran y farn gyfreithiol. Mae’r ymateb yn
nodi’n glir nad oes yna lyffethair gyfreithiol wedi ei adnabod pam na allai'r Cyd
Bwyllgor symud ymlaen gyda’r gwaith
o gloriannu’r ymgynghoriadau
a phenderfynu ar fabwysiadu’r Canllaw.
• Mae’r Polisi o fewn y CDLl ar
y Cyd ynghyd a’r arweiniad sydd
wedi ei gynnwys
o fewn y Canllaw yn nodi’n glir
pryd y byddai angen cyflwyno Datganiad/Asesiad ieithyddol ac yn cynnwys arweiniad pendant o ran hynny. Ymhellach mae yna arweiniad wedi ei gynnwys o ran y dull o gyflwyno’r gwybodaeth (templedi). Cryfder y Polisi a’r Canllaw ydi
ei fod yn
hyblyg i newidiadau mewn amgylchiadau a
all ddylanwadu ar y dull o asesu effaith ar
yr iaith.
• Nodwyd fod y Canllaw yn
cynnig fwy o hyblygrwydd o ran y gofyniad i gyflwyno Datganiad/Asesiad iaith ynghyd
a sicrhau fod ystyriaeth briodol yn cael ei
roi i’r iaith
Gymraeg pan yn briodol. Mae’r Canllaw yn unigryw
ac yn cynnwys methodoleg ac arweiniad cadarn. Cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd
i sicrhau fod y wybodaeth angenrheidiol yn cael ei gyflwyno
ynghyd a’r cais.
• Nodwyd y bydd y Canllaw yn mynd i
roi sicrwydd o gydymffurfiaeth hefo’r weithdrefn ac yn rhoi’r Cynghorau mewn sefyllfa gryfach
o ran cadarnhau hynny.
• Pe byddai yno gais
cynllunio yn cael ei gyflwyno
sydd yn gwyro
oddi ar yr
arweiniad a nodir yn y Canllaw Cynllunio Atodol yna fe fyddai rhaid bod yn hollol
eglur o ran pam fod y bwriad yn gwyro.
Fe fyddai’r sawl sydd yn gwneud
y penderfyniad ar unrhyw gais (Swyddog,
Aelodau, Arolygydd Cynllunio Annibynnol)
yn rhoddi ystyriaeth i gynnwys
y Canllaw Cynllunio Atodol fel ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth asesu a phenderfynu
ar gais cynllunio.
• Nodwyd y sylwadau
Penderfyniad - Derbyniodd
y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd
yr argymhelliad yn unfrydol, sef:-
i) Cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau am y Canllawiau
Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r
Canllaw Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy;
ii) Bod hawl yn cael ei roi i’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ymgymryd â newidiadau gweinyddol terfynol i’r Canllaw i sicrhau fod holl faterion croesgyfeirio oddi fewn iddo yn gywir.
Dogfennau ategol: