skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn gofyn i’r Cyngor, fel yr Awdurdod Cyfrifol am faterion cyflogaeth a chyllidol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gymeradwyo penderfyniad y Bwrdd i osod lefel cyflog ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Rhaglen ar raddfa o £96,304 i £106,304.

 

Rhoddodd yr Arweinydd, oedd hefyd yn Gadeirydd y Bwrdd Uchelgais, air o esboniad ynglŷn â beth fyddai rôl y Cyfarwyddwr Rhaglen.

 

Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd pryderon gan aelodau unigol ar sail:-

 

·         Perygl y byddai ardal y Gogledd Ddwyrain yn elwa mwy o’r Cynllun Twf na’r Gogledd Orllewin.

·         Gofynion ieithyddol y swydd Cyfarwyddwr Rhaglen.

·         Anfoesoldeb cynnig cyflog o dros £100,000 i ddeilydd y swydd, pan fo teuluoedd yng Ngwynedd yn ddibynnol ar fanciau bwyd.

·         Amheuaeth a fyddai’r Cynllun Twf yn llwyddo i ddenu buddsoddiad o £1b i Ogledd Cymru, fel sy’n cael ei honni.

 

Mewn ymateb i’r pryderon hyn, nodwyd fel a ganlyn:-

 

·         Nad penderfyniad y Cyngor hwn oedd penodi i’r swydd Cyfarwyddwr Rhaglen, eithr penderfyniad trawsbleidiol y Bwrdd Uchelgais Economaidd, sef Arweinyddion y 6 Cyngor, mewn ymgynghoriad â chynrychiolwyr o’r sector breifat a’r colegau.

·         Bod Cyfansoddiad y Bwrdd Uchelgais yn nodi bod rhaid cael consensws ar draws y 6 Cyngor i bob penderfyniad.  Gan na chafwyd cytundeb ar y mater ieithyddol, y cyfaddawd y cytunwyd arno oedd bod y Gymraeg yn ‘ddymunol’ ar gyfer y swydd, a hefyd yn sgil ychwanegol petai dau ymgeisydd yn gyfartal ar ôl cyfweliad.

·         Bod Cyngor Gwynedd yn Awdurdod Lletyol i’r Bwrdd Uchelgais gan iddo ennill ei blwyf fel cyngor sy’n gwneud pethau’n iawn.  Os am weithredu’n briodol yn yr achos hwn, roedd yn ofynnol iddo roi cymeradwyaeth ffurfiol i lefel cyflog swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen gan ei fod uwchlaw £100,000.

·         Bod pob un o’r Arweinyddion yn ymwybodol o’r cwestiwn ynglŷn â chyflogau uchel, ond gan y byddai’r Cyfarwyddwr Rhaglen yn gyfrifol am ddenu buddsoddiad ychwanegol o £1b gan y sector breifat (at y £280m fyddai’n dod o’r ddwy Lywodraeth), roedd yn gwbl hanfodol cael y person cywir i arwain y gwaith pwysig hwn o ledaenu twf ar draws y Gogledd.

·         Bod unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r hyn mae’r Bwrdd Uchelgais yn ei wneud yn faterion i’w trafod eto.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-

 

O blaid (45)

 

Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Dylan Bullard, Stephen Churchman, Annwen Daniels, Elwyn Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Peter Antony Garlick, Simon Glyn, Gareth Wyn Griffith, Selwyn Griffiths, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, R.Medwyn Hughes, Nia Jeffreys, Peredur Jenkins, Aled Wyn Jones, Anne Lloyd Jones, Berwyn Parry Jones, Charles W.Jones, Elin Walker Jones, Gareth Jones, Huw Wyn Jones, Eryl Jones-Williams, Cai Larsen, Beth Lawton, Dilwyn Lloyd, Dafydd Meurig, Dafydd Owen, Dewi Owen, Edgar Owen, W.Roy Owen, Nigel Pickavance, Dewi Wyn Roberts, Elfed P.Roberts, John Pughe Roberts, Mair Rowlands, Paul Rowlinson, Dyfrig Siencyn, Gareth Thomas, Hefin Underwood, Catrin Wager, Eirwyn Williams, Elfed Williams a Gruffydd Williams.

 

Yn erbyn (11)

 

Y Cynghorwyr , Anwen Davies, Alwyn Gruffydd, Louise Hughes, Aeron M.Jones, Elwyn Jones, Eric Merfyn Jones, Kevin Morris Jones, Gareth A.Roberts, Angela Russell, Gareth Williams ac Owain Williams.

 

Atal (2)

 

Y Cynghorwyr R.Glyn Daniels a Judith Humphreys.

 

Nododd y Cadeirydd fod y cynnig wedi cario.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor, fel yr Awdurdod Cyfrifol am faterion cyflogaeth a chyllidol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, yn cymeradwyo penderfyniad y Bwrdd i osod lefel cyflog ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Rhaglen ar raddfa o £96,304 i £106,304.

 

Dogfennau ategol: