Agenda item

Cyflwyno, er gwybodaeth, y datganiadau ariannol statudol (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2018/19.

Cofnod:

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid. Tynnwyd sylw y cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor ar 13 Mehefin, a oedd yn cyflwyno sefyllfa diwedd flwyddyn ar ffurf alldro syml oedd yn crynhoi'r sefyllfa ariannol ar gyfer 2018/19, tra bod y Datganiad o’r Cyfrifon ar ffurf safonol ar gyfer pwrpas allanol a llywodraethu.

 

Nodwyd bod yr Adran Gyllid wedi cynhyrchu datganiadau ariannol statudol 2018/19, a’u rhyddhau i Deloitte, archwilwyr allanol y Cyngor a benodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, cyn 31 Mai. Eglurwyd bod bwriad yn y cyfarfod hwn i gyflwyno’r cyfrifon terfynol gerbron y Pwyllgor yn dilyn archwiliad. Nodwyd yn anffodus derbyniwyd cadarnhad yn ddiweddar gan Deloitte, nad oedd modd iddynt gwblhau'r archwiliad a pharatoi adroddiad yr Archwilwyr Allanol ISA260 ar gyfer eu cyflwyno i’r cyfarfod. Cadarnhawyd y cynhelir cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor ar 13 Medi er mwyn cyflwyno’r cyfrifon yn dilyn yr archwiliad er cymeradwyaeth y Pwyllgor.

 

Atgoffwyd yr aelodau, y cyflwynwyd cyfrifon terfynol yr Harbyrau gerbron y Pwyllgor ar 13 Mehefin. Nodwyd y derbyniwyd cadarnhad gan Deloitte nad oedd addasiadau yn dilyn archwiliad i gyfrifon yr Harbyrau, ac felly nid oedd gofyn i’w cyflwyno gerbron y Pwyllgor.

 

Manylodd yr Uwch Reolwr Cyllid ar gynnwys y Datganiad o Gyfrifon. Cyfeiriodd at ‘Nodyn 15 – Eiddo, Offer a Chyfarpar’, gan nodi bod Deloitte, fel rhan o’r archwiliad, wedi codi mater yng nghyswllt gwerth meysydd parcio’r Cyngor a bod trafodaethau yn parhau rhwng y Gwasanaeth Eiddo a Deloitte o ran newid gwerth y meysydd parcio. Tynnodd sylw at yr argymhelliad i’r Pwyllgor dderbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2018/19.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid bod cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau ac ymgyfarwyddo eu hunain gyda chynnwys y cyfrifon terfynol cyn eu derbyn yn derfynol yn y cyfarfod arbennig. Cyfeiriodd at ddyfarniad cyfreithiol achos McCloud a oedd yn golygu y byddai mwy o warchodaeth drosiannol ar gyfer aelodau o gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus. Nododd bod y Goruchaf Lys wedi gwrthod cais y Llywodraeth am ganiatâd i apelio yn erbyn y dyfarniad. Eglurodd bod rhai cyflogwyr yn gorfod gosod swm atebolrwydd wrth gefn, ond oherwydd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi gosod rhagdybiaeth chwyddiant tâl actiwaraidd yn unol â’r achos, nid oedd rhaid i’r Cyngor addasu’r ffigyrau. Nododd y byddai geiriau ychwanegol o dan ‘Nodyn 38 - Costau Pensiwn’ i adlewyrchu hyn.

 

Nododd Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte ei werthfawrogiad am gytuno i gynnal cyfarfod arbennig. Eglurodd bod yr archwiliad yn mynd yn ei flaen yn dda a bod ychydig o ddyddiau o waith eto i’w gwblhau. Ymddiheurodd nad oedd yr Adroddiad ISA260 yn barod i’w gyflwyno i’r cyfarfod hwn a byddai gwersi yn cael ei dysgu o ran cwblhau’r gwaith. Nododd eu bod yn hapus gyda safon y cyfrifon a bod y mater o ran gwerth meysydd parcio’r Cyngor yn fater o farn ac fe ddoir i ddealltwriaeth.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod y gwaith o ran y cyfrifon terfynol wedi ei gwblhau gan y Cyngor gan nodi siom nad oedd Deloitte wedi cwblhau'r gwaith yn unol â’r amserlen. Datganodd ei werthfawrogiad o waith y Tîm Cyfrifeg. 

 

Ategodd aelod o’r Pwyllgor sylwadau’r Aelod Cabinet Cyllid gan nodi ei werthfawrogiad o waith y tîm.

 

Tynnodd aelod sylw at yr argymhelliad gan nodi y byddai’n annoeth pleidleisio o blaid yr argymhelliad fel yr oedd yn sefyll. Holodd am y sefyllfa o ran gor-ddyled banc y Cyngor. Cyfeiriodd at erthygl yn y wasg a oedd yn adrodd ar ymateb Cynghorau Gogledd Cymru i gais rhyddid gwybodaeth yng nghyswllt buddsoddiadau arian pensiwn. Ymhelaethodd bod yr erthygl yn amlygu bod arian Cronfa Bensiwn Gwynedd yn cael ei fuddsoddi mewn cwmnïau a oedd yn cynhyrchu arfau. Nododd ei bod yn fater moesol ac y byddai ef yn bersonol yn osgoi buddsoddiadau o’r fath. Ychwanegodd ei fod yn ymddangos nad oedd y Cyngor yn gwneud digon o ymholiadau o ran buddsoddiadau a bod angen gweithredu i sicrhau nid oedd arian y Gronfa Bensiwn yn cael ei fuddsoddi mewn cwmnïau o’r fath.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Pennaeth Cyllid:

·      O ran yr argymhelliad, efallai bod y geiriad yn anffodus ond yr hyn a argymhellwyd oedd derbyn a nodi’r Datganiad a oedd yn amodol ar archwiliad. Awgrymodd eiriad diwygiedig posib er ystyriaeth y Pwyllgor, sef “Derbyn y fersiwn cyn archwiliad o Ddatganiad o Gyfrifon y Cyngor am 2018/19 a nodi y byddai’r fersiwn terfynol gerbron y Pwyllgor yn ei gyfarfod arbennig ar 13 Medi 2019.”

·      Mai mater llif arian a amlygir gan y gor-ddyled banc ar y 31ain o fis Mawrth, lle'r oedd y Cyngor am dderbyn grantiau i unioni’r sefyllfa’n fuan ym mis Ebrill. Pe byddai’r Cyngor wedi benthyg arian, yna byddai costau ynghlwm, felly dyma oedd y dull mwyaf cost effeithiol i ariannu costau penodol.

·      Bod y Cyngor wedi ymateb i’r wasg ar y mater buddsoddiadau pensiwn. Eglurodd bod buddsoddiadau pŵl yn cynnwys nifer o gwmnïau gyda rhai cwmnïau megis Airbus, Siemens a Volkswagen hefo cyfran fach o’u gwaith yn ymwneud â’r sector amddiffyn. Pwysleisiodd nad oedd y Cyngor yn targedu buddsoddiadau o’r fath, ond gyda rheolwyr asedau'r Gronfa Bensiwn yn buddsoddi ar draws y farchnad stoc roedd yn anochel bod rhai cwmnïau gydag elfennau o’u gwaith ynghlwm â’r sector amddiffyn. Nododd bod y sawl gyflwynodd gais Rhyddid Gwybodaeth wedi arwain y wasg i ganfyddiad camarweiniol.

 

Holodd yr aelod ymhellach a oedd y Cyngor yn cymryd bob cam i atal buddsoddiadau o’r fath. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid bod y Pwyllgor Pensiynau, yn ei gyfarfod ar 8 Tachwedd 2018, wedi cymeradwyo Datganiad Strategaeth Buddsoddi a oedd yn cynnwys egwyddorion buddsoddi diwygiedig. Nododd y byddai’r Pwyllgor Pensiynau yn ei gyfarfod yn y prynhawn yn ystyried dyrannu 12% o’r Gronfa Bensiwn i gronfa ecwiti goddefol carbon isel. Pwysleisiodd nad oedd yn bosib rhagdybio penderfyniad y Pwyllgor Pensiynau, ond bod symudiad clir tuag at fuddsoddi mwy cyfrifol. Nododd yr aelod ei fod yn croesawu’r symudiad at fuddsoddi yn fwy moesegol.

 

Nododd aelod, yn dilyn dyfarniad achos cyfreithiol McCloud a gwrthodiad apêl y Llywodraeth, bod y Llywodraeth yn ail-edrych ar sefyllfa cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus gyda chostau o oddeutu £4 biliwn ynghlwm a’i fod yn debygol y byddai goblygiadau. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid bod adolygiad y Llywodraeth ar ddigwydd a bod holl gyflogwyr Cronfa Bensiwn Gwynedd yn ffodus nad oedd rhaid adnabod rhwymedigaeth wrth gefn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt taliadau i’r cyn Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol, nododd y Pennaeth Cyllid bod pecyn diswyddo wedi ei gyflwyno i’r cyn Pennaeth fel rhan o adolygiad rheolaethol y Cyngor, roedd yn ei dro wedi cyflawni arbediad ariannol go sylweddol.

 

PENDERFYNWYD derbyn y fersiwn cyn archwiliad o Ddatganiad o Gyfrifon y Cyngor  am 2018/19 a nodi y byddai’r fersiwn terfynol gerbron y Pwyllgor yn ei gyfarfod arbennig ar 13 Medi 2019.

Dogfennau ategol: