I ystyried cais
gan Mr A
(copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am
gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod collfarn 1988 yn un
a ddigwyddodd pan oedd yn ei arddegau ac nad oedd wedi bod mewn unrhyw fath o
drwbl ers hynny. Ategodd nad oedd collfarn 1989 yn berthnasol iddo ef ac fe
gyflwynodd lythyr gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
(dyddiedig 26.9.19) yn cadarnhau hynny. Nododd hefyd y byddai tystysgrif
ddiwygiedig yn cael ei anfon ato.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen
gais yr ymgeisydd
·
sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
ch) Ym Medi 1988 canfuwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys
Ynadon Porthaethwy ar ddau gyhuddiad - un o ymosod yn achosi niwed corfforol yn
groes i adran 47 Deddf Troseddau Corfforol 1861, ac un cyhuddiad o affräe yn
groes i adran 3 Deddf Trefn Gyhoeddus 1986. Cafodd ddirwy o £400.00 a gorchymyn
i dalu costau o £47.00.
Yn ôl datganiad DBS yr ymgeisydd roedd ganddo gollfarn (Mawrth 1989) am dri
cyhuddiad o ddwyn o siopau, yn groes i adran 1 Deddf Lladrata 1968. Fodd
bynnag, cadarnhaodd yn y gwrandawiad bod y cofnod hwn wedi'i gynnwys mewn
camgymeriad a cyflwynodd lythyr i'r Is-bwyllgor gan y DBS yn cadarnhau bod y
datgeliad yn cynnwys gwall.
d) Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor
lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol
gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag
unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos
tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae
cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae adran 6 o’r
Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr
trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn rheolaidd y byddai
is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn
ymwneud a thrais. Ym mharagraff 6.2
nodir y byddai un sydd wedi'i gael yn euog o droseddau'n ymwneud â thrais yn
annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o'r fath
am 3 blynedd o leiaf. Fe nodir ym mharagraff 6.5 o’r Polisi y bydd cais am
drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried
am ymosodiad cyffredin sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Mae'r
paragraff yn rhestru troseddau ac mae ymosodiad cyffredin ac affräe yn cael ei
gynnwys yn y rhestr.
Ystyriwyd paragraff 8.0
o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi
y cymerir golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud ag anonestrwydd. Mae
paragraff 8.2 yn nodi y byddai cais fel arfer yn cael ei wrthod os bydd gan yr
ymgeisydd gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai na 3 blynedd
cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill,
bwrgleriaeth.
Mae paragraff 16.1 o
bolisi'r Cyngor yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r
polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu sydd yn dangos
diffyg parch at les eraill ac eiddo. O
dan y Polisi rhaid bod 10
mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.
dd) Daeth yr
Is-bwyllgor i benderfyniad bod troseddau 1988 yn droseddau o drais. Fodd
bynnag, gan fod y troseddau hyn wedi digwydd dros 30 mlynedd yn ôl, sydd tu
hwnt i’r cyfnod 3 mlynedd nid oedd paragraffau 6.2 a 6.5 yn goroesi, ac felly
nid yn sail i wrthod y cais. Wrth bwyso a mesur collfarn 1989 at ddibenion y
cais, nodwyd nad oedd y llythyr a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd (dyddiedig 26.7.19) yn nodi'r gwall yn briodol, ac felly derbyniwyd
datganiad yr ymgeisydd. Er hynny, gan fod y
drosedd wedi digwydd dros 30 mlynedd yn ôl ni fyddai wedi arwain at
wrthod y cais, naill ai ar ben ei hun o dan baragraff 8.2, neu mewn cyfuniad a
chollfarn 1988 o dan baragraff 16.1 oherwydd ei fod tu hwnt i’r cyfnodau
priodol.
Roedd yr
Is-bwyllgor o'r farn bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.