I ystyried cais gan Mr C
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Hefyd
yn bresennol : Owain Williams (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd –
swyddog cyfrifol am arwain yr erlyniad Medi 2016) ac Alun Merfyn Roberts
(Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd - arsylwi)
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am
gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Mynegodd ei fod wedi bod drwy
gyfnod anodd yn ddiweddar gyda thor priodas, ei fab wedi bod mewn damwain
ddifrïol a marwolaeth un o’i frodyr. Nododd,er nad oedd yn chwilio am esgus bu
iddo adael i bethau lithro o ran gweinyddu a rhedeg ei fusnes tacssi. Ategodd
ei fod yn yrrwr da a'i fod yn dymuno dychwelyd i Ogledd Cymru i weithio.
Dadleuodd na ddylai gael ei feirniadu ar un camgymeriad ac yntau wedi bod yn
yrrwr tacsi difai.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
b) PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen
gais yr ymgeisydd
·
sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad
·
sylwadau llafar a gyflwynodd y
swyddog gorfodaeth yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
ch) Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn (Mehefin
1979) gan Lys Ieuenctid Lerpwl ar un cyhuddiad o
ddwyn, yn groes i Adran 1 Deddf Lladrata 1968. Derbyniodd ryddhad amodol am 12
mis (collfarn 1). Yn mis Awst 1984 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys
Ynadon Wirral ar un cyhuddiad o ddwyn o
gerbyd yn groes i Ddeddf Lladrata 1968. Cafodd ddirwy o £50.00 a gorchymyn i
dalu iawndal o £12.00 (collfarn 2). Yn mis Tachwedd 1986 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Birkenhead ar ddau gyhuddiad
o hawlio budd-dal plant drwy dwyll, yn groes i adran 11 Deddf Budd-dal Plant
1975. Derbyniodd ddirwy o £60.00, a gorchymyn i dalu costau o £30.00 ac iawndal
o £ 8.00 (collfarn 3).
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn yng Ngorffennaf 1991 gan Lys Ynadon
Dolgellau ar 3 chyhuddiad – un o rwystro’r heddlu, yn groes i Adran 51 (3)
Deddf yr Heddlu 1964, a dau gyhuddiad o dderbyn eiddo trwy dwyll yn groes i Adran
15 Deddf Lladrata 1968. Am y cyhuddiad cyntaf cafodd ddirwy o £100 a gorchymyn
i dalu costau o £20.00. Ar gyfer y ddau gyhuddiad arall, derbyniodd ddau
ryddhad amodol 12 mis a gorchymyn i dalu iawndal o £195.00 (collfarn 4).
Ym Medi 1991 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys
Ynadon Wirral ar un cyhuddiad o ddifrod troseddol yn groes i Adran 1 Deddf
Difrod Troseddol 1971. Gorchmynnwyd iddo dalu iawndal o £212.13 (collfarn 5).
Yn Nhachwedd 1998 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Ynys Môn ar
gyhuddiad o ffugio dogfen ar wahân i bresgripsiwn ar gyfer cyffur rhestredig yn
groes i Adran 1 Deddf Ffugio 1981. Derbyniodd ddirwy o £40.00 a gorchymyn i
dalu costau o £35.00 (collfarn 6).
Ym Medi 2000 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys
Ynadon Meirionnydd ar un cyhuddiad o yfed a gyrru, yn groes i Adran 5 Deddf
Traffig Ffyrdd 1988. Derbyniodd ddirwy o £100.00, gorchymyn i dalu costau o
£35.00, a’i wahardd rhag gyrru am 18 mis (collfarn 7).
Canfuwyd yr ymgeisydd yn
euog i 3 cyhuddiad (Ebrill 2017) gan Llys Ynadon Caernarfon mewn erlyniad a
ddygwyd gan Gyngor Gwynedd (collfarn 8) mewn perthynas â chaniatáu i gerbyd
anrhwyddedig o’i feddiant gael ei yrru heb drwydded gyfredol na pholisi
yswiriant dilys wrth gludo plant ysgol yn unol â Chytundeb Cludiant, yn groes i
Adran 46 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a Deddf
Traffig Ffordd 1988. Am y troseddau hyn derbyniodd ddirwy o £200 a 6 phwynt
cosb ar ei drwydded. Yn dilyn y digwyddiad anfonwyd sawl llythyr at yr
ymgeisydd yn cynnig cyfle iddo egluro amgylchiadau’r digwyddiad ond darganfuwyd
bod yr ymgeisydd wedi symud i fyw o’r ardal. Mae’n ofynnol o dan ddarpariaethau
Adran 44 o Ddeddf Cymalau Heddlu’r Dref 1847 fod perchennog cerbyd hacni yn
hysbysebu’r Cyngor o newid preswylfa. Derbyniodd ddirwy o £40 am y cyhuddiad
yma.
d) Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i
berson sydd â chollfarn am drosedd
ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn
rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a
dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae
cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae
paragraff 2.3 yn nodi bod ‘hysbysiadau cosb benodedig’ yn cael eu cynnwys fel
‘materion eraill i’w hystyried’. Nodir paragraff 2.4, pan fydd ymgeisydd
wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w
(h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r
gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae adran 6 o’r
Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1
nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn
rheolaidd y byddai Is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny
sydd â throseddau yn ymwneud a thrais. Ym mharagraff 6.2 nodir y byddai un sydd wedi'i gael yn euog o droseddau'n ymwneud â
thrais yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag
collfarn(au) o'r fath am 3 blynedd o
leiaf. Fe nodir ym mharagraff 6.5 o’r Polisi y bydd cais am drwydded fel
rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad
cyffredin sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Mae'r paragraff yn
rhestru troseddau ac mae difrod troseddol a rhwystro yn cael ei gynnwys yn y
rhestr. Fe nodir ym mharagraff 6.6 y bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os
oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd, neu
fater arall i’w ystyried yn gysylltiedig â hynny, o fewn y 10 mlynedd diwethaf.
Ystyriwyd paragraff 8.0
o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi
y cymerir golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud ag anonestrwydd. Mae
paragraff 8.2 yn nodi y byddai cais fel arfer yn cael ei wrthod os bydd gan yr
ymgeisydd gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai na 3 blynedd
cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill,
twyll budd-dal, ffugio a bwrgleriaeth
Mae paragraff 11.1 o
bolisi'r Cyngor yn ymwneud ag yfed a gyrru ac yn nodi na fyddai collfarn unigol
yn arwain at wrthod cais (neu ddiddymu trwydded bresennol) ar yr amod bod 3
mlynedd wedi mynd heibio ers i’r gwaharddiad ddod i ben.
Ystyriwyd paragraff
12.2 sydd yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y
troseddau mae ‘defnyddio cerbyd sydd heb gael ei yswirio yn erbyn risgiau
trydydd parti’ yn cael ei gynnwys. Nodir ym mharagraff 12.3 y byddai cais fel
arfer yn cael ei wrthod os yw’r ymgeisydd wedi cyflawni trosedd traffig
difrifol unigol ac nad ydyw wedi bod yn rhydd o gollfarn am o leiaf 6 mis.
Mae paragraff 16.1 o
bolisi'r Cyngor yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r
polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu sydd yn dangos
diffyg parch at les eraill ac eiddo. O
dan y Polisi rhaid bod 10
mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.
dd) Daeth yr Is-bwyllgor i benderfyniad
·
bod collfarnau 1,
2, 3, 4 (cyhuddiadau 2 a 3) a 6 yn ymwneud
a throseddau o anonestrwydd. Fodd bynnag, gan fod y gollfarn ddiwethaf wedi
digwydd ym 1998, dros 20 mlynedd yn ôl (sydd tu hwnt i’r cyfnod 3 blynedd), nid oedd paragraff
8.2 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais. Gall, er hynny, fod
yn sail i wrthod mewn cyfuniad a chollfarnau eraill yn rhinwedd paragraff 16.1.
·
bod collfarnau 4
(cyhuddiad 1) a 5 yn ymwneud â throseddau o drais. Fodd bynnag, gan fod y
gollfarn ddiwethaf wedi digwydd ym 1991, dros 27 mlynedd yn ôl (sydd tu hwnt
i’r cyfnod 10 mlynedd), nid oedd paragraff 6.6 o'r Polisi yn goroesi ac felly
nid yn sail i wrthod y cais. Gall, er hynny fod yn sail i wrthod mewn cyfuniad
a chollfarnau eraill yn rhinwedd paragraff 16.1
·
bod collfarn 7 yn ymwneud ag yfed a gyrru. Gan fod y gwaharddiad wedi dod
i ben yn 2002 fan bellaf, nid oedd paragraff 11.1 o’r Polisi yn goroesi ac
felly nid yn sail i wrthod y cais. Gall, er hynny fod yn sail i wrthod mewn
cyfuniad a chollfarnau eraill yn rhinwedd paragraff 16.1
·
bod collfarn 8
(cyhuddiad 2) yn ymwneud â throsedd traffig ddifrifol. Dadleuodd yr ymgeisydd
ei fod wedi’i yswirio er gwaethaf pledio'n euog ac fe gyflwynodd lythyr gan ei
yswirwyr yn cefnogi hyn. Er hynny, ni fu i’r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth ei
fod wedi cymryd camau i apelio neu wrthdroi'r gollfarn trwy'r Llys. Yn ogystal,
ystyriwyd paragraff 2.4 sydd yn nodi yn glir na ellir adolygu rhinweddau'r
gollfarn. Fodd bynnag, gan fod y gollfarn wedi digwydd dros 6 mis yn ôl, nid
oedd paragraff 12.3 yn berthnasol, er y gall fod yn sail i wrthod mewn cyfuniad
a chollfarnau eraill yn rhinwedd
paragraff 16.1
Wrth ystyried y collfarnau, roedd yr Is bwyllgor o’r farn bod troseddu dro
ar ôl tro yn dangos diffyg parch at les eraill neu am eiddo. O ganlyniad roedd
paragraff 16.1 o’r polisi yn berthnasol. Amlygodd y Cyfreithiwr nad yw darpariaethau'r Polisi yn orfodol a bod modd gwyro oddi
ar yr argymhellion os yw ffeithiau'r achos yn cyfiawnhau hynny. Rhoddwyd sylw
arbennig i'r pwyntiau bwled ym mharagraff 4.2 o’r adroddiad, sydd yn
cynnwys difrifoldeb y troseddau, perthnasedd, dyddiad y cafodd y drosedd ei
chyflawni, dyddiad y gollfarn ac oedran yr ymgeisydd ar adeg y gollfarn, y
ddedfryd a roddwyd gan y Llys ac os yw’r troseddau yn perthyn i batrwm o
droseddu, yn ogystal ag unrhyw ffactorau perthnasol eraill.
Eglurodd yr ymgeisydd ei fod yn mynd trwy gyfnod personol anodd yn ystod y
cyfnod a arweiniodd at gollfarn 2017. Er bod yr Is bwyllgor yn cydymdeimlo
gyda’r ymgeisydd roedd rhaid iddynt flaenoriaethu ac amddiffyn diogelwch y
cyhoedd. Wedi ystyried yr amgylchiadau yn llawn, nid oedd yr Is bwyllgor wedi
eu hargyhoeddi bod hwn yn achos lle gellid cyfiawnhau gwyro oddi wrth y Polisi
Roedd yr
Is-bwyllgor o'r farn nad oedd yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol, i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.