Agenda item

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

Cofnod:

         

          Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth yr Adran Amgylchedd yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo cynnig gan y diwydiant tacsi i adolygu’r uchaf bris y gall ei godi am deithiau mewn cerbyd hacni yn y Sir. Amlygwyd ei bod yn ofynnol i unrhyw gais am newid i’r uchaf bris gael ei gyflwyno gan y diwydiant a chadarnhawyd bod cais diweddar i adolygu’r prisiau, wedi ei gyflwyno gan Mr J Pritchard, perchennog cwmni tacsi lleol. Ategwyd nad oedd cais i adolygu’r uchaf bris wedi ei dderbyn ers 2011 a phwysleisiwyd nad oedd yr uchaf bris yn berthnasol i deithiau mewn cerbydau hurio preifat.

 

          Cyfeiriwyd at dabl yn yr adroddiad oedd yn cymharu prisiau cyfatebol am daith 2 filltir. Nodwyd bod y cynnydd arfaethedig wedi ei gyfrifo drwy ychwanegu chwyddiant ar gyfartaledd o 2.6% y flwyddyn at bris taith y filltir a bennwyd yn 2011. Awgrymwyd, o fewn y diwydiant mai prisiau’r teithiau sydd yn gyrru’r gystadleuaeth a mynegwyd mai annhebygol fyddai i bob cwmni godi eu prisiau.

 

          Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol 11eg o Ebrill 2019, fe benderfynwyd derbyn y cynnig arfaethedig i godi uchaf bris a ellid ei godi am daith mewn cerbyd hacni yn unol â’r argymhelliad, yn ddarostyngedig i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus statudol. Adroddwyd bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal ac fe dderbyniwyd 4 ymateb gan unigolion o’r diwydiant tacsi ac un aelod o’r cyhoedd. Ategwyd na ddaeth yr uchaf bris arfaethedig i rym yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus oherwydd bod ymatebion wedi eu derbyn i’r ymgynghoriad. Cyfeiriwyd at yr ymatebion oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad er mwyn i’r Pwyllgor eu hystyried cyn dod i benderfyniad terfynol ar yr uchaf bris.

 

          Diolchwyd am yr adroddiad a croesawyd y cynnig i osod uchaf bris

 

   Nododd un aelod ei fod yn cytuno gyda’r cynnig mewn ymateb i osod y filltir gyntaf yn £3.60 ac yna 30c am bob un rhan o 10 milltir ar ôl hynny oherwydd cymhleth fyddai gosod y cloc tacsi fel arall. Mewn ymateb i un o’r ymatebion ynglŷn â bod ffi baeddu tacsi yn rhy isel (£45) ac y dylid ystyried ei gynyddu i o leiaf £70, dadleuwyd bod modd talu am lanhau car yn lleol am o leiaf £40 ac felly ystyriwyd y cynnydd i £70 yn ormod. Nododd y Rheolwr Trwyddedu, petai’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r cynnig i godi’r uchaf bris, byddai’r ffi glanhau yn aros yn £45.

 

Mewn ymateb i sylw bod angen sicrhau tegwch i gwmnïau yng nghefn gwlad yn ogystal a chwmnïau mewn trefi / dinasoedd, derbyniwyd mai anodd yw cael mynediad at wasanaethau yng nghefn gwlad, ond nad oes rheidrwydd i gwmnïau godi eu prisiau – uchaf bris sydd yn cael ei osod. Nodwyd y byddai modd i gwmnïau ymateb yn well i gystadleuaeth gyda’r rhyddid yma.

 

Gwnaed sylw pellach bod uchaf bris arfaethedig Gwynedd yn parhau yn gystadleuol ymysg uchaf brisiau Siroedd eraill y Gogledd a bod hyn i’w groesawu.

 

   PENDERFYNWYD, WEDI YSTYRIED YR YMATEBION A DDERBYNIWYD YN YSTOD Y CYFNOD YMGYNGHORI, CYMERADWYO’R CYNNIG I GODI’R UCHAF BRIS GALL Y DIWYDIANT TACSI GODI AM DEITHIAU MEWN CERBYD HACNI YN Y SIR.

 

Dogfennau ategol: