Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Catrin Wager

Penderfyniad:

Penderfynwyd gweithredu argymhellion ymchwiliad gweithgor Pwyllgor Craffu Cymunedau sy'n cynnwys y canlynol

  • Defnyddio pwerau Deddf Gwarchod yr Amgylchedd (1990) Adrannau 46 i 47ZA sy’n ymwneud a chynhwysyddion gwastraff, i ddirwyo trigolion a busnesau sy’n gwaredu eu gwastraff ar y diwrnod anghywir neu yn y ffordd anghywir fel mater o flaenoriaeth
  • Ymgymryd ag ymgyrch hyrwyddo sirol i godi ymwybyddiaeth o’r trefniadau gwastraff ac ailgylchu gyda ffocws penodol ar Ddinas Bangor a chydnabod y gwahaniaethau daearyddol a demograffig yn y sir ar wahanol adegau o’r flwyddyn.
  • Gosod sticeri “QR  code” ar gynhwysyddion ailgylchu er mwyn darparu mynediad 24 i drigolion ar eu diwrnodau casglu gwastraff c ailgylchu a gwybodaeth am eitemau y gellir eu hailgylchu.
  • Ffurfioli trefniadau cydweithio rhwng Adrannau’r Cyngor.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o’r Gwasanaeth Casgliadau Clinigol a’r Gwasanaeth Casglu Arbennig sydd ar gael i helpu pobl hyn a phobl anabl i waredu eu gwastraff. Bydd modd gwneud hyn fel rhan o’r ymgyrch hyrwyddo ehangach.
  • Hyrwyddo rhwydwaith presennol o Ganolfannau Ailgylchu a chynnal ymgyrch benodol ar gyfer y Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus.

Dogfennau ategol: