skip to main content

Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Dylan Fernley

 

“Pa gamau mae’r Cyngor hwn yn bwriadu gymryd i hyrwyddo’r defnydd o gludiant cyhoeddus gan weithwyr?  A ddylem ni gymell y defnydd o fysiau a chosbi’r defnydd o geir gan y sawl sy’n byw ar lwybrau bws.  Onid drwg o beth yw talu i bobl yrru car pan mae yna gludiant cyhoeddus addas ar gael.”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd)

 

“Croesawir y cwestiwn yma, ac mae sicr lle i leihau teithiau swyddogion a lle i edrych ar drafnidiaeth mwy cost effeithiol a chynaliadwy i deithio o  gwmpas ein Sir.

 

Fel cam cyntaf, ‘rydym ar hyn o bryd yn adolygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Gwynedd a byddwn yn amlygu cyfleoedd i deithio rhwng swyddfeydd ardal y Cyngor.

 

Ar yr un pryd mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r gwasanaeth Trawscymru gyda’r gobaith o gael mwy o amlder rhwng Aberystwyth a Bangor. Bwriedir cael gwasanaeth cyflym rhwng Dolgellau a Bangor ar amseroedd brig. h.y. ni fydd y bws yn gwyro i bentrefi, sydd yn golygu y bydd hyn yn fwy deniadol i weithwyr.

 

Mae’r Cyngor a chwmni Arriva wedi bod yn cydweithio i gael tocyn rhatach i staff Cyngor Gwynedd sydd yn annog gweithwyr i deithio ar fws yn ardaloedd Bangor, Caernarfon a Bethesda lle mae’r cwmni yn rhedeg.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Dylan Fernley

 

“Beth ydym ni am wneud am y sefyllfa?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd)

“Diolch am roi her i ni fel Cyngor i edrych ar y mater.  Mae’n gwestiwn dilys iawn - pam na fedrwn ni ddyfeisio rhyw drefn sy’n annog, boed o’n weithwyr neu’n gynghorwyr, i ddefnyddio bws yn lle car, ac rwy’n meddwl bod yna le i ni edrych ar hynny.  Un broblem fawr, wrth gwrs, fel un sy’n byw mewn ardal hynod o wledig, yw nad yw’r drafnidiaeth gyhoeddus yn addas i bwrpas yn aml iawn i gyrraedd cyfarfodydd ar yr amseroedd iawn, ac yn y blaen, ac mae’n bosib’ y dylem fod yn edrych ar ein hamserlenni bysiau a threfnu ein cyfarfodydd i siwtio’r amserlenni bysiau hynny.  Rwy’n credu bod yna le i ni weithio ar hynny.  Ond, wrth gwrs, yn y pen draw, mae angen buddsoddiad sylweddol mewn creu system drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy, di-garbon, os medrwn ni, ac mae hynny’n golygu ein bod angen buddsoddiad sylweddol i wneud hynny, ac mi fuaswn i’n gefnogol i hynny.” 

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Paul Rowlinson

 

“Mae’n bum mlynedd ers i’r Cyngor basio’r cynnig isod (09.10.2014):

 

“O ganlyniad i’r ymosodiadau diweddaraf ar diriogaeth y Palesteiniaid sy’n byw ar Lain Gaza gan Wladwriaeth Israel, mae’r Cyngor hwn yn galw am waharddiad masnachu ar Israel ac yn condemnio’r gor-ymateb a’r mileindra a ddefnyddiwyd.

 

Ymhellach i hyn, ’rydym yn cadarnhau a thanlinellu penderfyniad y Cyngor hwn i beidio buddsoddi yn Israel na sefydliadau’r wlad honno.

 

Credwn os bydd Gwynedd yn arwain y ffordd bod gobaith i gynghorau eraill yng Nghymru a thu hwnt ddilyn ein hesiampl.”

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

• Cefnogwyd y cynnig a llongyfarchwyd yr aelod am ddod â’r mater gerbron.

• Nodwyd ei bod yn bwysig bod Cyngor Gwynedd yn edrych allan ar y byd ac yn ceisio dylanwadu gorau y gallai ar sefyllfa fel hyn.

• Pwysleisiwyd bod angen gwneud yn glir bod y cynnig yn condemnio Gwladwriaeth Israel, ac nid y Grefydd Iddewig.”

 

A fedr yr Arweinydd ein diweddaru ar sut mae’r Cyngor wedi gweithredu ar y cynnig? Er enghraifft, a yw’r Cyngor wedi negyddu neu wrthod unrhyw fuddsoddiadau neu fasnach o ganlyniad; a yw’r Cyngor wedi osgoi buddsoddi neu fasnachu gyda chwmnïau sydd yn gweithredu yn Israel; a gododd unrhyw faterion cyfreithiol neu unrhyw anawsterau eraill wrth weithredu’r polisi; ac a yw’r Cyngor wedi sicrhau bod ei holl gontractwyr yn gweithredu’r polisi?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Bydd rhai ohonom yn cofio'r cynnig yma ac yn cofio canlyniad y cynnig.  Nid yw’r Cyngor wedi buddsoddi mewn cronfeydd o Israel gan nad oeddent yn cyfarfod â’r meini prawf ariannol a sefydlwyd yn y Strategaeth Buddsoddi a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

 

Yn dilyn pasio’r cynnig yma yn 2014, fe heriwyd ei gyfreithlondeb gan y Jewish Human Rights Watch yn yr Uchel Lys.  Aed a heriau cyfreithiol tebyg yn erbyn Cynghorau Abertawe a Chaerlŷr.  Dyfarnwyd o blaid y Cyngor yn y Llys ar y sail nad oedd y cynnig wedi effeithio ar ein penderfyniadau buddsoddi.  Er hynny, mae’r gyfraith yn glir na chaniateir i’r Cyngor ddyfarnu contract ar sail tarddiad cenedlaethol neu diriogaethol y contractwr, y cyflenwad neu wasanaeth.

 

Yn gryno felly mi rydym ni yn gweithredu yn unol â’r penderfyniad ond rhaid i ni fod yn wyliadwrus wrth wneud hynny, nad ydym yn gwneud unrhyw beth anghyfreithlon.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Paul Rowlinson

 

“Ydych yn ymwybodol bod cynghorau eraill wedi dilyn ein hesiampl, ac os felly, pa rai?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Yn amlwg, rydym ni’n ymwybodol bod Cyngor Abertawe a Chyngor Caerlŷr, oedd yn rhan o’r un gwrandawiad â ni yn yr adolygiad barnwrol hwnnw.  Rydym yn deall bod cyrff cyhoeddus yn Llundain, Dwyrain Sussex, Caergaint, Winchester, Bryste, Sheffield, Caeredin a Chyngor Dinas Dulyn wedi galw hefyd am waharddiad masnachu ag Israel a bod nifer o gynghorau mewn gwledydd ar draws Ewrop yn gyffelyb felly.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Aeron Jones

 

Sut mae’r Aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am blant a phobl ifanc yn rhagweld fod yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu ymdopi gyda heriau sy’n wynebu ein plant a phobl ifanc yn y dyfodol oherwydd ansicrwydd sy’n digwydd ledled Cymru a Phrydain yn bresennol?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

“Cwestiwn penagored iawn.  Gallwn eich cadw chi yma am rai oriau yn canmol yr hyn sy’n mynd ymlaen yn y Gwasanaeth Plant, ac yn y blaen, ond rwyf am fanteisio ar y cyfle i ddiweddaru ac uchafu materion sy’n heriol ar hyn o bryd i ni yn y gwasanaeth.  Petai gennyf fwy o amser, byddwn yn eich diweddaru ar yr hyn sy’n mynd ymlaen yn y Gwasanaeth Plant ac rwy’n meddwl efallai bod yna neges yma y byddwn yn gwerthfawrogi ac yn croesawu unrhyw ymholiad gan aelodau ynglŷn â’r Gwasanaeth Plant oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae’n gyfrifoldeb i ni i gyd oherwydd rydym ni i gyd yn rhieni corfforaethol.  Felly, rwy’n gobeithio y bydd y neges yna dod trwodd i chi.

 

Fodd bynnag, rwyf am symud ymlaen, ac am gymryd y cyfle cyn dod i’r ateb yn ffurfiol, i restru rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd.  Fel rydych i gyd yn ymwybodol, rwy’n siŵr, mae yna gynnydd cyffredinol yn y galw am wasanaeth yr adran ac mae yna gynnydd bron yn ddyddiol yn nifer y plant sy’n derbyn gofal.  Mae diffyg lleoliadau maeth a phreswyl addas i blant a phobl ifanc sydd angen llety oddi wrth eu cartref teuluol yn arwain at gynnydd mewn lleoliadau anrheoledig, sef llefydd rydym ni’n gorfod darganfod ar y munud olaf i roi’r plant ynddynt i wneud yn siŵr eu bod yn saff.  Mi roddaf enghraifft i chi o’r gwasanaeth yn gwneud dros 130 o alwadau ffôn i geisio dod o hyd i lety i un ferch ifanc; neb yn fodlon ei derbyn, ac yn y diwedd yn gorfod mynd â hi a’i rhoi mewn tŷ dros y penwythnos hefo ein staff.  Felly, dyna un her arall sy’n ein hwynebu.  Mae’r cynnydd yn y cymhlethdodau o achosion lle mae yna nifer o blant yn dod i’n sylw yn hwyr yn y dydd, h.y. dydyn nhw ddim ar ein radar ni o gwbl, a mwyaf sydyn, mae yna rywbeth yn digwydd yn y teulu ac mae’r plant yma’n dod i’n gofal.  Felly mae hynny’n dipyn o her.  Her arall sydd gennym ydi bod yna asiantaethau eraill yn encilio oddi wrth eu cyfrifoldebau oherwydd diffyg adnoddau ar amser o lymder.  Felly, mae hynny’n rhoi her ychwanegol ar y Gwasanaeth Plant.  Her arall yr ydym yn ei chanol hi ar hyn o bryd, ac amserol iawn i mi adrodd ar hyn, ydi’r her a disgwyliad Llywodraeth Cymru i gael lleihad yn y niferoedd o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, gan ganolbwyntio ar awdurdodau lleol.  Rydym i gyd yn cytuno bod angen symud ymlaen i gael lleihad, ond mae’r Llywodraeth, ar hyn o bryd, yn ceisio mynnu rhoi targed i ni, sef ffigur o faint o blant ddylem ni leihau bob blwyddyn.  Rydym ni’n un o 5 cyngor trwy Gymru sydd, ar hyn o bryd, yn gwrthod hyn oherwydd rydym ni’n teimlo ei fod yn rhoi ein plant mewn lle nad ydym eisiau iddyn nhw fod a hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar ein staff.  Felly, mae hwnnw hefyd yn her ar hyn o bryd.  Mae’r galwadau yn gynyddol ar ein gweithwyr cymdeithasol yn ystod achosion gofal.  Mae amserlenni sy’n cael eu gosod arnynt gan y llysoedd, ac yn y blaen, yn codi anawsterau mawr o ran asesu plant ac unigolion.  Am y tro cyntaf ers dros ddegawd rydym ni’n cychwyn gweld sgil effeithiau o fethu penodi staff i swyddi.  Mae hynny’n gynyddol bryder i ni ac rydym, wrth gwrs, yn ceisio gwneud rhywbeth am hynny wrth wynebu’r her yna.

 

Mae’r Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd wedi ymateb i heriau newydd megis materion cam-fanteisio ar blant yn rhywiol, cam-fanteisio ar blant yn droseddol, ymddygiad rhywiol niweidiol a phroblemus drwy gydweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu ymarfer sydd yn uchafu sgiliau staff i ddelio gyda’r meysydd anodd yma. Yr ydym yn rhan o rwydwaith rhanbarthol a chenedlaethol sydd yn cyfrannu i’r datblygiadau hyn ac yn arwain y maes mewn nifer o feysydd megis diogelu.  Yr ydym yn rhagweld fod angen datblygu gwasanaethau penodol ar gyfer rhai o’r meysydd heriol yma, ac mae cynlluniau ar waith ar hyn o bryd, er enghraifft, i ddatblygu tîm aml asiantaethol i weithio ym maes ymddygiad rhywiol niweidiol ac mae’r gwasanaeth yn rhedeg prosiect peilot penodol ar gyfer rhanbarth y Gogledd i wella a datblygu ymarfer amddiffyn plant effeithiol. Mae’r gwasanaeth yn hyderus eu bod yn adnabod anghenion a heriau yn effeithiol, ac yn uchelgeisiol ar gyfer datblygu cynlluniau newydd i ymateb i’r heriau hyn.  Mae’r Gwasanaeth Plant wedi llwyddo i gadw gweithlu sefydlog ers nifer o flynyddoedd gyda swyddogion proffesiynol yn aros yn y gwasanaeth ac yn magu profiad a hyder yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Yr ydym yn cynnig cyfleoedd i staff ddatblygu yn y maes ac yn buddsoddi yn helaeth mewn hyfforddiant proffesiynol.  Mae staff y gwasanaeth yn brofiadol ar bob haen o arweinyddiaeth ac rwyf am gloi trwy nodi beth mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ddweud yn eu hadroddiad yn Awst 2018 - ‘ gwelsom fod gan wasanaethau plant Gwynedd gryfderau sylweddol ac roedd ganddynt weithlu ymrwymedig a chadarn sydd yn ymateb i lwyth gwaith cynyddol o ran cymhlethdod a maint. …...  Roedd staff yn dangos ymrwymiad i hyrwyddo’r canlyniadau gorau ar gyfer plant a’u teuluoedd’.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Aeron Jones

 

“Fedar yr Aelod Cabinet gadarnhau nad oes yna fwy o deuluoedd ar hyn o bryd yn dioddef camweinyddu gan y Cyngor hwn fel a ddigwyddodd i Mr a Mrs A, fel maent yn cael eu diffinio yn adroddiad diweddar yr Ombwdsmon, gan fod eu plentyn hwy yn awr yn oedolyn ac felly’n rhy hwyr i dderbyn y cymorth roedd ei angen ar y pryd? Mae gennym yma arbenigwyr, yn ôl y sôn, ar awtistiaeth a fethodd roi beth oedd ei angen i blentyn Mr a Mrs A.”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

“Nid ydym yn, nac erioed wedi, honni ein bod yn berffaith.  Mae ein gweithwyr yn ymdrin â sefyllfaoedd anodd teuluoedd.  Maent yn ymdrin â phlant mewn peryg’.  Maent yn ymdrin â theuluoedd sydd mewn argyfwng, felly, fel roeddwn yn dweud, nid ydym yn honni ein bod yn berffaith.  Ond fel Aelod Cabinet dros y gwasanaeth a hefyd, fel Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu a’r Panel Rhiantu Corfforaethol, rwy’n hollol hyderus bod gennym brosesau mewn lle ar gyfer edrych ar achosion o’r math yma, ac yn bwysicach byth, ein bod yn gallu dysgu o unrhyw achos sydd wedi codi.  Rwy’n meddwl bod yr elfen yma o ddysgu yn bwysig iawn.  Felly, hoffwn gadarnhau i chwi i gyd bod diogelwch a datblygiad plant a phobl ifanc Gwynedd yn flaenoriaeth i ni bob amser a bod llais y plentyn yn ganolog i hyn.  O ran rhoi unrhyw sylw ar adroddiad yr Ombwdsmon, byddai’n amhriodol i mi wneud sylw ar hyn o bryd oherwydd bod 'na fwy nag un achos Ombwdsmon ac nid wy’n siŵr at ba un mae’r aelod yn cyfeirio.”

 

(4)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Mae Ffordd Osgoi Bontnewydd a Chaernarfon yn datblygu’n sydyn.  A yw’r Aelod Cabinet yn cytuno gyda mi bod angen sicrhau bod unrhyw gynllun llwybr beicio yn sgil ‘Active Travel’ yn cael ei wireddu cyn gynted â phosib’ yn ardal Bethel, gan fod datblygiadau’r ffordd yn croesi’r llwybr beicio a fwriedir?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd)

 

“Rwy’n falch iawn fod y cynllun hir-ddisgwyliedig ar gyfer adeiladu ffordd osgoi wedi cychwyn o’r diwedd ac mae’n ymddangos ei fod yn gyrru ymlaen yn gyflym ar hyn o bryd.

 

Roeddem eisoes wedi adnabod adeiladu llwybr beicio a cherdded rhwng Bethel a Chaernarfon a Llanrug a Chaernarfon ar ein Mapiau Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol. Felly, mae wedi bod yn ddyhead gennym i weld y llwybr yn cael ei adeiladu.

 

Rwy’n cytuno gyda chwi fod gennym ni gyfle euraidd nawr i wireddu’r cynllun cyn gynted â phosib yn sgil adeiladu’r ffordd osgoi a gallaf gadarnhau fod yr Adran Amgylchedd eisoes mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i geisio gyrru’r cynllun yma yn ei flaen, a chynllun i adeiladu llwybr rhwng Llanrug a Caernarfon, yn ogystal.

 

Yn ddelfrydol, hoffwn weld y cynllun yn cael ei adeiladu fel rhan o’r cynllun ffordd osgoi. Yn ogystal ag arwain at arbedion cost, byddai ei adeiladu fel rhan o'r cynllun mwy yn lleihau'r aflonyddwch cyffredinol i draffig lleol. Rydym eisoes wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a yw hyn yn ymarferol bosib’ ac rydym yn aros am eu hateb.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Gofynnaf i’r Arweinydd a’r Adran Drafnidiaeth sicrhau bod popeth yn barod a bod unrhyw arian, neu unrhyw wybodaeth, sydd ei angen gan y Llywodraeth yn cael ei gwestiynu yn syth gan yr adran i gael symud ymlaen cyn gynted â phosib’?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd)

 

“Mi wnaf gael cyfarfod gyda’r adran i weld beth sy’n bosib’ ei wneud i yrru’r cynllun yn ei flaen, fel rydym i gyd yn obeithiol y gallwn wneud a dweud y gwir.”

 

(5)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Louise Hughes

 

“Unwaith eto, dros gyfnod yr haf, derbyniodd cannoedd o gerbydau ddirwyon parcio am barcio ar ochr yr A4086 ym Mhen y Pass.  Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn ymwybodol o’r broblem ers blynyddoedd, ond hyd yma, nid oes yna unrhyw ddatrysiadau ymarferol wedi’u rhoi mewn lle.  Ni allwn barhau i ddirwyo ymwelwyr yn y modd yma.  Sut mae’r Adran yn bwriadu unioni’r sefyllfa a rhoi darpariaethau parcio diogel mewn lle?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd)

 

Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o ymwelwyr i gyffiniau Gogledd Eryri yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o gwmpas ardal Yr Wyddfa.  Mae hyn wrth gwrs yn galonogol o bersbectif twristiaeth ond mae problemau yn codi, yn enwedig ar y dyddiau fwyaf prysur wrth geisio ymdopi gyda’r niferoedd.

 

Gan fod llawer yn dewis defnyddio eu cerbydau personol i gyrraedd yr Ardal ac i deithio o gwmpas yr atyniadau, mae delio gyda’r galw enfawr am barcio yn dasg sydd bron yn amhosib’.  Mae cyfrifoldeb arnom i geisio sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd mor ddiogel â phosib’, a dyna pam mae gwaharddiadau parcio a chyflymder yn cael eu gosod.

 

Wrth ystyried yr A4086 o gwmpas Pen y Pass a Phen y Gwryd, mae gwaharddiadau ‘Clir ffordd’ eisoes wedi'u gosod yno.  Cadarnhaf fod yr arwyddion yn cydymffurfio gyda safonau priffyrdd cyfredol; er hynny, mae niferoedd eithaf uchel ar brydiau yn parhau i barcio yno.  Mae gennym gyfrifoldeb i orfodi er mwyn diogelu’r cyhoedd, a cheisiwn wneud hynny i gyfleu neges i eraill i beidio â pharcio yno.

 

Mae’n hanfodol felly bod ardaloedd Pen y Gwryd a Phen y Pass yn cael eu rheoli i’r lefel briodol, yn enwedig dros gyfnodau gwyliau. Mae’r Adran yn ymwybodol o’r sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol ac wrth gwrs mae dwy ochr i hyn.  Mae llawer o’r rhai sy’n derbyn tocyn yn aml yn anniddig ond mae angen iddynt werthfawrogi rhwystredigaeth pobl leol ynglŷn â’r trafferthion mae’r parcio anghyfreithlon yn ei greu.

 

Mae trafodaethau yn parhau gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Sir Conwy yn ogystal â phartneriaid eraill, i geisio annog mwy o ddefnydd o gludiant cyhoeddus ac i ystyried cyfleoedd i greu fwy o gapasiti parcio.”