Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

Cofnod:

Croesawyd y swyddogion canlynol o Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod i roi gair o gyflwyniad ar y cychwyn ac i ateb cwestiynau’r aelodau.

 

·         Alan Hughes (Arweinydd Archwilio Perfformiad Llywodraeth Leol)

·         Jeremy Evans (Rheolwr Archwilio Perfformiad Llywodraeth Leol)

 

Yn dilyn y cyflwyniad, rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau ar gynnwys yr adroddiad.

 

Gan gyfeirio at yr Archwiliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (tudalen 27 o’r rhaglen), oedd yn manylu ar y graddau mae’r Cyngor wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth sefydlu’r Gwasanaeth Ieuenctid newydd, codwyd pryder gan sawl aelod ynglŷn â chasgliad y Swyddfa Archwilio bod y Cyngor angen gwneud mwy o waith i sefydlu’r pum ffordd o weithio yn llawn.  Cwestiynwyd sylw’r Archwilwyr bod darpariaeth y gwasanaeth wedi’i hysgogi’n bennaf gan gyfyngiadau ariannol yn hytrach na dealltwriaeth o’r galw hirdymor am y gwasanaeth. 

 

Pwysleisiodd y cyn-Aelod Cabinet fu’n gyfrifol am gychwyn y broses o ad-drefnu’r Gwasanaeth Ieuenctid mai diben yr ail-fodelu oedd edrych ar y tymor hwy, gan ystyried sut i foderneiddio’r gwasanaeth a’i wneud yn fwy cynaliadwy ac yn fwy addas ar gyfer anghenion pobl ifanc heddiw ac i’r dyfodol.  Roedd hefyd o’r farn bod ystyriaeth wedi’i roi i’r pum ffordd o weithio a’r amcanion llesiant a chyfeiriodd at yr ymgynghori gyda’r bobl ifanc a’r cydweithio gyda mudiadau lleol eraill yn y maes ieuenctid fel rhai enghreifftiau o hynny.

 

Ategwyd sylwadau’r cyn-Aelod Cabinet ac eraill gan yr Arweinydd a bwysleisiodd ei bod yn amlwg bod yna deimlad cryf iawn ymhlith yr aelodau bod canfyddiad y Swyddfa Archwilio yn hollol anghywir.  Dadleuodd y gellid dweud bod pob newid mae’r Cyngor wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf wedi’i ysgogi gan doriadau ariannol.  Er hynny, roedd y Cyngor wedi bod yn canfod ffyrdd newydd o weithio sy’n cyfarch gofynion y Ddeddf Llesiant, ac roedd y Gwasanaeth Ieuenctid yn enghraifft glasurol o hynny ac wedi’i ganmol fel model effeithiol ac arloesol a ddylai fod yn esiampl i gynghorau eraill ei ddilyn.  Ychwanegodd fod yr hyn roedd yr aelodau wedi’i glywed yn tanseilio eu hymddiriedaeth yn y Swyddfa Archwilio i ddod i’r casgliadau cywir a galwodd am ddeialog rhwng y Cyngor a’r Swyddfa Archwilio ar y pwynt penodol yma er mwyn symud ymlaen i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio Perfformiad Llywodraeth Leol fod gan y Swyddfa Archwilio safbwynt gwahanol i’r Cyngor ar y mater penodol hwn.  Eglurodd fod trafodaethau wedi’u cynnal gyda nifer o swyddogion gwahanol o fewn y Cyngor wrth fynd drwy’r broses a bod tystiolaeth y Swyddfa Archwilio yn seiliedig ar y cyfweliadau hynny.  Roedd hefyd yn fodlon â thrylwyredd y gwaith a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn.  Er hynny, roedd yn cydnabod y gallai ail-ymweld â’r sefyllfa arwain at farn wahanol a gellid rhoi ystyriaeth i gynnal adolygiad dilynol ar y pwynt yma yn y dyfodol, gan gynnal trafodaethau llawnach gyda’r swyddogion, defnyddwyr y gwasanaeth a’r cyn-Aelod Cabinet fel rhan o’r gwaith hwnnw.

 

Gan gyfeirio at yr adolygiad Darparu Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig: Trosglwyddo Asedau Cymunedol (tudalen 45 o’r rhaglen), holwyd beth oedd y meddylfryd y tu cefn i drafod y ffaith bod asedau cynghorau sir yn mynd am y nesaf peth i ddim i’r gymuned, gan fod hynny’n lleihau’r potensial o gael incwm i mewn i’r Cyngor Sir i gynnal y gwasanaethau sydd gennym.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio Perfformiad Llywodraeth Leol y byddai’n mynd â’r cwestiwn yn ôl i’r tîm prosiect fu’n gyfrifol am gynhyrchu a llunio casgliadau’r adroddiadau yn yr atodiadau i’r Adroddiad Gwella Blynyddol ac yn darparu ateb ysgrifenedig i’r aelod a gododd y mater.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Gwella Blynyddol 2018/19, yn amodol ar drafodaethau pellach ar rai eitemau o fewn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: