Agenda item

I dderbyn adroddiad gan Sam Hadley, Network Rail.

Cofnod:

Croesawyd Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru, i'r cyfarfod ac fe adroddodd ar y materion isod:

 

o   Fod Perfformiad ar y rheilffyrdd heb fod yn ddigon da dros yr haf, gyda phroblem ysbeidiol wedi ei chanfod gyda’r system signalau oedd bellach wedi ei datrys.

o   Mynegodd bosibilrwydd o gynnal ymweliad i grŵp bychan er mwyn gweld y ganolfan signalau ym Machynlleth, neu drefnu cyflwyniad ar gyfer cyfarfod y Gynhadledd yn y dyfodol.

o   Roedd tywydd garw hefyd wedi bod yn broblem, gyda phroblemau mewn ardaloedd eraill wedi cael effaith ar wasanaethau Rheilffordd Arfordir y Cambrian. Cydnabu rwystredigaeth defnyddwyr y rheilffordd, gan nodi fod Network Rail yn monitro mannau problemus yn ofalus, gan weithio ar ddatrysiadau hirdymor.

o   ‘Fod trefniadau monitro perfformiad bellach yn monitro yn fwy manwl gan ganolbwyntio ar amseroedd cyrraedd gorsafoedd unigol yn hytrach na dechrau a gorffen taith.

o   ‘Roed y newid yma wedi arwain at wneud newidiadau bychain yn lleol er mwyn gwella effeithlonrwydd.

o   Fod model busnes newydd wedi ei ddatblygu, gan ennill mwy o hyblygrwydd er mwyn targedu gwariant yn y mannau oedd ei angen.

o   Fod gwelliannau a wnaethpwyd yn dilyn Hydref 2018 wedi dwyn ffrwyth, gan arwain at lai o ddifrod i olwynion a chadw mwy o gerbydau yn weithredol. Golyga hynny yn ei dro na fyddai cerbydau yn cael eu tynnu oddi ar Reilffordd y Cambrian a’u dargyfeirio i liniaru prinder mewn ardaloedd eraill.

o   Fod Adolygiad Williams yn debygol o adrodd wedi’r etholiad, gyda rhagdybiaeth o newidiadau sylweddol i’r rheilffyrdd.

o   Wal y Friog - Fod swyddog o Network Rail wedi bod i gyfarfod y gymuned, bod cynlluniau wedi eu datblygu ar y cyd gyda’r Cyngor i wneud y gwaith. Nad oedd dyddiad wedi ei osod eto.

o   Croesfan Talwrn Bach - Roedd gwaith wedi ei gynllunio ar gyfer blwyddyn 3 o’r cyfnod ariannu presennol, sef 2021-22. ‘Roedd hefyd angen cynnal cydweithio gyda thirfeddianwyr lleol.

o   Pont Afon Artro - Dangoswyd lluniau o’r gwaith, oedd wedi achosi cau'r lein dros dro. Nododd fod nifer uchel o bontydd pren ar Reilffordd Arfordir y Cambrian, a bod Network Rail yn defnyddio’r gwaith cynnal a chadw er mwyn datblygu technegau i’w defnyddio ar Bont Abermaw.

o   Ymddiheuro bod gwybodaeth wedi ei yrru yn uniaith Saesneg i fudd-ddeiliaid yn ddiweddar, a bu iddo ymddiheuro gan fynegi syndod ei fod wedi digwydd mewn ardal mor Gymreig.

 

 

 

Cwestiynau a sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

o   O ran Pont Artro, oni fyddai wedi bod yn fuddiol i wneud gwaith ar bontydd Tŷ Gwyn a Llandanwg ar yr un pryd?

 

Mewn ymateb nododd Sam Hadley fod hynny’n awgrym synhwyrol, a’i fod yn tybio bod rheswm synhwyrol dros wneud y gwaith ar y bont yma’n unig. ‘Roedd Network Rail wedi gweld wrth wneud gwaith ar lein Dyffryn Conwy ei fod yn gost effeithiol gwneud nifer o ddarnau o waith cynnal a chadw ar yr un pryd ar ran o’r lein.

 

o   Sut wasanaeth fyddai’n cael ei gynnal ar ddydd Sul i’r dyfodol?

o   Fyddai teithio am ddim gyda thrwydded yn parhau?

o   Fyddai Rheilffordd y Cambrian yn parhau i golli eu cerbydau i rannau eraill o Gymru?

 

Mewn ymateb nododd Sam Hadley byddai gwasanaeth trên y Sul yn newid o 3 i 5 trên y dydd, gyda chynnydd pellach yn y dyfodol. Byddai teithio gyda thrwydded yn parhau yn dymhorol yn unig oherwydd diffyg capasiti ar y trenau i’w gynnal trwy’r flwyddyn. Ychwanegodd y byddai’r achlysuron ble byddai cerbydau yn cael eu colli i rannau eraill yn lleihau wrth i gerbydau gael eu huwchraddio mewn ardaloedd eraill, a bod cerbydau sy’n gweddu’n dda i Reilffordd y Cambrian yn aros arni.

 

Diolchwyd am yr adroddiad