I dderbyn ymateb i’r cwestiynnau sydd wedi eu
cynnwys yma a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf.
Cofnod:
Roedd cwestiynau
ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan amryw o Gynghorau Cymuned a chafwyd
yr atebion isod:
1 |
Cyngor Tref Porthmadog - i
Trafnidiaeth Cymru |
1.1 |
Pa ddatblygiadau sydd ar y
gweill ar y trenau i sicrhau gwasanaeth dwyieithog? |
|
Nodwyd bod ymdrechion yn
cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod staff yn medru ynganu enwau lleoedd
Cymraeg yn gywir, gan gynnwys cynnig gwersi Cymraeg. |
1.2 |
Pam fod yna gymaint
o drenau yn cael eu gohirio
mor aml ac yn rhedeg yn
hwyr? |
|
Trafodwyd y mater yma eisoes yn y cyfarfod. |
1.3 |
Pa bryd maent am roi darpariaeth ychwanegol ar
y trenau i fedru cario mwy
o feiciau? |
|
Trafodwyd y mater yma a derbyniwyd ymateb yn gynharach yn y cyfarfod |
1.4 |
Beth yw eu trefniadau nhw ynglŷn â chasglu sbwriel ar hyd y lein
gan nodi problemau ger Cambrian Terrace ym Mhorthmadog.? (Nodwyd y gallai’r
sbwriel fynd i mewn i’r
Cyt a chreu problemau amgylcheddol). |
|
Nodwyd fod sbwriel yn cronni yn
broblem, ac ‘roedd angen sicrhau cydweithio holistig rhyngasiantaethol er mwyn datrys y broblem. ‘Roedd angen hefyd atal
i deithwyr ollwng sbwriel, yn ogystal â stopio tipio slei bach. Byddai
ymdrechion yn cael eu gwneud
yn y dyfodol er mwyn lleihau’r
gwastraff fyddai’n cael ei gynhyrchu
gan deithwyr, a byddai cynllun o fabwysiadu gorsafoedd yn cael ei
gynnig maes o law. |
1.5 |
Oes yna gynlluniau i gynnig gwasanaeth
cyflym rhwng Pwllheli ac Amwythig yn y bore a gyda’r nos fel bod modd
gwneud y siwrne mewn dwy awr
yn lle tair? |
|
Nodwyd fod y syniad yma wedi ei
gynnig yn y gorffennol, ond wedi wynebu gwrthwynebiad
gan ddefnyddwyr gorsafoedd bach y lein. |
1.6 |
Ydi’n bosib cael darpariaeth bwyd a diod o Bwllheli i Fachynlleth? |
|
Nodwyd fod ymdrechion ar wait hi sicrhau darpariaeth yn y gorsafoedd mwy, a byddai gwelliannau pellach yn cael
eu cynnig yn y flwyddyn newydd. |
1.7 |
Pam nad ydi pobl
sydd efo cardiau teithio am ddim yn cael
eu defnyddio ar Reilffordd Cambrian trwy’r flwyddyn fel mae defnyddwyr
y trên rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno ? |
|
Nodwyd nad oedd yn bosib cynnig
yr un hawl gan fod y trenau
ar Reilffordd y Cambrian yn rhy llawn
yn yr haf. |
2 |
Cyngor Tref Criccieth - i
Trafnidiaeth Cymru |
2.1 |
A fedrwn gael diweddariad os gwelwch yn dda
am gynlluniau'r gweithredwr
trenau ar gyfer stesion Criccieth |
|
Nodwyd y byddai’r orsaf yn derbyn yr
un sylw a’r gorsafoedd eraill yn unol â chynlluniau
uwchraddio Trafnidiaeth Cymru. |
2.2 |
(i
Network Rail) Mae consyrn ynglŷn
â chyflwr rhai o’r llwybrau cerdded o gwmpas stesion Criccieth: Yr angen i
wella cynnal a chadw'r llwybrau canlynol: y llwybr cul o’r maes
parcio i’r stesion a hefyd yr ugain llath
gyntaf o lwybr rhif 1 tuag at gyfeiriad Ysgol Treferthyr. |
|
Nodwyd nad oedd sicrwydd ynglŷn a
pherchnogaeth tir ym maes parcio gorsaf Criccieth, ond bod Network Rail wedi gwneud gwaith
yno yn y gorffennol. Byddai Network Rail yn edrych ar y llwybrau ac yn asesu pa waith oedd
angen ei wneud. |
3 |
Cynghorydd Owain Williams –
i Trafnidiaeth Cymru |
3.1 |
Tra mae’r gwelliannau yn y gwasanaeth cyfathrebu drwy’r Gymraeg i’w groesawu
- a oes modd cael gwell
ynganu o enwau llefydd a gorsafoedd yn ein hiaith?
Buasai defnyddio siaradwyr sy’n rhugl yn gychwyniad
- wedi’r cyfan pe bai'r un gwallau
yn y Saesneg...be fuasai’r ateb? |
|
Nodwyd fod ymdrechion yn cael eu gwneud
yn y maes er mwyn sicrhau
ynganiad cywir i enwau lleoedd.
‘Roedd gwaith ymchwil wedi ei wneud hefyd
er mwyn defnyddio technoleg debyg i ‘alexa’
er mwyn creu system hyblyg oedd wedi ei
recordio yn barod. |
4 |
Roger Goodhew, Cymdeithas
Teithwyr Rheilffordd Amwythig i Aberystwyth – i Trafnidiaeth Cymru |
|
A oes unrhyw gymhelliant i’r
gweithredwyr trenau ddatblygu gwasanaeth trên uniongyrchol i’r canolfannau llywodraeth
yng Nghaerdydd a Llundain? |
|
Nodwyd nad oedd
cymhelliant ar hyn o bryd. Fodd bynnag ‘roedd Trafnidiaeth Cymru yn
agored i gynnig datblygiadau yn seiliedig ar alw. Ychwanegwyd fod peth galw
wedi ei gofnodi ar gyfer gwell cysylltiadau a Manceinion. ‘roedd y gwasanaeth
wedi gwella yn y blynyddoedd diweddar, a byddai’n parhau i wella a datblygu.
Fodd bynnag, byddai’n rhaid adeiladu’n raddol ac ‘roedd yn debygol byddai
Trafnidiaeth Cymru yn gweithio ar gysylltu Caerdydd yn well i weddill Cymru. |
Penderfynwyd: Diolch am y cwestiynau ac am yr atebion ffafriol a gafwyd gan
y swyddogion.
Dogfennau ategol: