Agenda item

a)    Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhalliwyd 26.03.19 fel rhai cywir

 

b)    Materion yn codi

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26ain Mawrth, 2019, fel rhai cywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:

(a)           Digwyddiadau

 

Adroddwyd bod y gweithgareddau a’r digwyddiadau allweddol a gynhaliwyd ar y traeth gan FLAG (Fisheries Local Action Group) wedi bod yn llwyddiannus ac wedi codi ymwybyddiaeth.  Diolchwyd i bawb oedd wedi bod yn rhan o’r trefniadau ac i unrhyw syniadau ar gyfer digwyddiadau i’r dyfodol gael eu hanfon at Alison Kinsey

 

(b)           Ffordd y Compownd

 

Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf i sefydlu rheolaeth addas ar gyfer y safle, nododd Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned bod adolygiad i orchmynion parcio'r Sir yn cael ei gynnal. Ategodd bod rhestr ddrafft o safleoedd wedi eu hadnabod a bod Ffordd y Compownd wedi ei gynnwys ar y rhestr honno. Amlygwyd bod Grŵp Tasg wedi ei sefydlu i gynorthwyo’r gwasanaeth cludiant gyda’r gwaith o ddadansoddi’r amrediad opsiynau ar gyfer rheoli parcio yn wyneb heriau ariannol incwm o feysydd parcio yn y dyfodol. Cynigiwyd rhoi diweddariad ar waith y Grŵp Tasg yn y cyfarfod nesaf

 

Cymeradwywyd yr adran forwrol am eu gwaith o gynnal a chadw Ffordd y Compownd ond gwarthus yw’r modd y mae defnyddwyr yn defnyddio’r safle. Nodwyd bod pum digwyddiad wedi bod ar y safle, ond diffyg tystiolaeth teledu cylch cyfyng i’r Heddlu gynnal ymchwiliad pellach. Cynigiwyd yr angen i gyfyngu’r defnydd i grŵp penodol o ddefnyddwyr neu ystyried opsiwn i’r dyfodol o dalu am ddefnyddio’r gofod.

 

(c)        Angorfeydd

 

Mewn ymateb i gofnod y cyfarfod diwethaf bod angen ceisio barn defnyddwyr ynglŷn â pham bod perchnogion angorfeydd yn ymadael, nodwyd mai anodd yw darganfod un ystadegyn dros y lleihad mewn defnydd. Ategwyd mai tebyg yw’r sefyllfa ar draws y wlad.

 

(ch)      Cyfleuster penodol ar gyfer beiciau dwr

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf bod angen ystyried dulliau o reoli a darparu cyfleuster penodol ar gyfer angori beiciau dwr, nododd yr harbwr feistr mai anodd fyddai dynodi safle a chyfleuster penodol ar eu cyfer. Y rhwystr pennaf yw’r llaid sydd yn rhwystro’r beiciau rhag angori a gellid ond angori wrth y llithrfa neu’r pontŵn ar adegau pan mae’r llanw yn caniatáu hynny. Yr ymddygiad a welir ar hyn o bryd yw gwthio’r beic ar y traeth a’i barcio yno. Amlygwyd bod y beiciau dwr yn cael eu defnyddio gan amlaf fel modd hwylus o gyrraedd y dref o feysydd carafanau cyfagos. Ategwyd bod modd ffurfio llwyfan glanio tu hwnt i’r morglawdd ond ni fyddai hyn mewn gwirionedd yn gyfleus. Nodwyd bod ymdrechion wedi ei gwneud i geisio hwyluso’r ddarpariaeth ond dim opsiynau amgen oni bai bod modd carthu’r harbwr.

 

Adroddwyd nad oedd beiciau dwr yn dod ag unrhyw incwm i’r harbwr a phetai beiciau dwr yn cael eu lansio oddi ar lithrfa byddai’r incwm yn mynd tuag at gyllid traethau. Nodwyd bod nifer yn lansio o feysydd carfanau cyfagos heb unrhyw reolaeth gadarn. Ategwyd nad yw beic dwr yn cael ei gydnabod fel cwch neu long ac felly’r ddeddfwriaeth sydd yn cwmpasu defnydd beic dwr yn niwlog.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned yn ddelfrydol, yn unol â’r trefniant, y dylai pob beic dwr gofrestru gyda’r Cyngor. Derbyniwyd y sylw bod angen cydweithio gyda meysydd carafanau ynglŷn â rheoli  / cofrestru beiciau dwr a bod ymweliadau i’r harbwr yn ddiogel gyda darpariaeth addas ar eu cyfer. Derbyniwyd nifer o gwynion dros yr Haf sydd wedi arwain at waith adolygu is ddeddfau ar gyfer rheoli beiciau dwr. Ategwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r Uned Gyfreithiol a defnyddwyr.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Pennaeth Cynorthwyol, nodwyd

 

·         Pryder bod gyrwyr beiciau dwr yn yfed ac yn gyrru

·         Bod rhaid addasu’r ddeddfwriaeth gan geisio rheolau sydd yn gyson â gyrru car

·         Bod angen gwell cydweithio rhwng y perchnogion parciau carafanau ar Gwasanaeth Morwrol i hyrwyddo agweddau diogelwch ac ymddygiad cyfrifol ar y dŵr

·         Awgrym y dylid hyrwyddo negeseuon drwy wefan PWC Gwynedd (clwb beiciau dwr)

·         Bod angen cyfeirio pryderon at yr Aelod Cynulliad Dafydd Elis Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (etholaeth Dwyfor a Meirionnydd)

 

Dogfennau ategol: