I ystyried cais gan Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y
byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygwyd bod y
drosedd wedi digwydd ers i’r ymgeisydd fod yn ei arddegau. Ategywd bod yr ymgeisydd
wedi bod yn gweithio yn y maes gofal ers dros 12 mlynedd a bellach eisiau newid
cyfeiriad.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r
ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y
cais.
b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen
gais yr ymgeisydd
·
sylwadau
llafar a gyflwynodd cynrychiolydd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
Yn Chwefror 2005
derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Ynys Môn ar un cyhuddiad o
fwrgleriaeth a dwyn o eiddo preswyl, yn groes i Adran 9(1) Ddeddf Lladrata
1968. Cafodd orchymyn goruchwyliaeth am 18mis. Yn ddiweddarach yn Mai 2005,
derbyniodd ddwy gollfarn gan Lys Ynadon Ynys Môn am ddwyn gan berson, eto, yn
groes i Adran 1 Deddf Lladrata 1968. Ar gyfer y collfarnau cafodd orchymyn
goruchwyliaeth, gorchymyn i dalu iawndal a chostau. Cafodd y ddau orchymyn
goruchwyliaeth eu diddymu yn gynnar ar sail ymddygiad da.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r
nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei
wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw
gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei
fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr
ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Ystyriwyd paragraff 8.0
o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi
y cymerir golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud ag anonestrwydd. Mae
paragraff 8.2 yn nodi y byddai cais fel arfer yn cael ei wrthod os bydd gan yr
ymgeisydd gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai na 3 blynedd
cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill,
bwrgleriaeth a lladrata.
Daeth yr Is-bwyllgor i benderfyniad bod y troseddau yn ymwneud a
throseddau o anonestrwydd. Fodd bynnag, gan fod y gollfarn ddiwethaf wedi
digwydd yn 2006, dros 13 mlynedd yn ôl (sydd tu hwnt i’r cyfnod 3 blynedd), nid oedd paragraff
8.2 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais.
Roedd yr
Is-bwyllgor o'r farn bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol, i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.