Cais ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol a
chodi gwesty gyda tŷ bwyta a bar atodol ynghyd â newidiadau i'r fynedfa,
creu llecynnau parcio a thirlunio a darparu lle biniau (cynllun diwygiedig).
AELOD LLEOL: Cynghorydd Nia Jeffreys
Cofnod:
Cais ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol a chodi
gwesty gyda thŷ bwyta a bar atodol ynghyd â newidiadau i'r fynedfa, creu
llecynnau parcio a thirlunio a darparu lle biniau (cynllun diwygiedig).
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y byddai’r gwesty yn 80 ystafell wely
dros 3/4 llawr, gyda thŷ bwyta a bar ar y llawr daear ac adnoddau
cysylltiol, ynghyd â 56 llecyn parcio a storfa beics. Nododd bod y safle mewn
lleoliad amlwg ar gyrion Porthmadog, a bod yr adeilad a oedd yn y gorffennol yn
swyddfa treth, yn weladwy wrth fynd dros Y Cob i gyfeiriad Porthmadog. ‘Roedd
rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Nododd bod egwyddor
y datblygiad yn dderbyniol oherwydd bod datblygu ar dir llwyd a darparu llety
wedi ei wasanaethu yn cael ei gefnogi gan bolisïau cynllunio lleol a
chenedlaethol.
Amlygodd bod amrywiaeth o adeiladau yng nghyffiniau’r safle a bod
nodweddion hanesyddol i rai adeiladau. Ni ystyriwyd fod unrhyw ffurf bendant yn
bodoli o fewn yr ardal gyfagos. Eglurodd bod yr adeilad presennol yn eithaf
sylweddol ei faint gyda thri llawr iddo a tho hip llechi, nid oedd unrhyw
nodweddion pensaernïol o ddiddordeb yn perthyn iddo. Nododd bod y bwriad yn
dangos adeilad wedi ei leoli ymhellach o’r ffordd gyhoeddus gyda’r maes parcio
i’r blaen. Ymhelaethodd y byddai’r datblygiad yn ei gyfanrwydd yn creu newid
gweledol amlwg ond ni ystyriwyd y byddai’r newid yn un annerbyniol. Roedd yn
bwysig nodi bod dynodiadau tirwedd a cadwraethol yn gyfagos i’r safle, ond bod
rhaid ystyried cyd-destun y safle ar gyrion tref brysur. Ni ystyriwyd bod y
bwriad yn newid sylweddol ar y sefyllfa bresennol a’i fod yn debyg mai lleol yn
unig fyddai’r effaith mwyaf. Nododd y credir na fyddai effaith y datblygiad yn
un annerbyniol o ystyried natur yr ardal, yr adeilad presennol a natur y
datblygiad.
Eglurodd bod y
safle wedi ei leoli yn agos i dai teras preswyl Tros y Bont (Britannia Terrace a Britannia Place).
Nododd nid oedd amheuaeth y byddai newid o’r hyn a oedd yn bodoli ar y safle,
ond o ystyried lleoliad, ffurf a maint yr adeilad presennol gyda’r hyn a
fwriedir, ni chredir y byddai’r newid yn un annerbyniol.
Nododd mai’r
materion a oedd yn pryderu trigolion lleol y mwyaf oedd effaith y datblygiad yn
lleol oherwydd maint y bwriad a’r hyn a welir fel diffyg darpariaeth parcio o
fewn y safle. Amlygodd bod Datganiad Trafnidiaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais
yn ogystal â chynlluniau manwl yn dangos llwybrau trafnidiaeth i mewn ac allan
o’r safle. Oherwydd y pryderon a amlygwyd, cynhaliwyd asesiad trylwyr o’r
bwriad gan yr Uned Drafnidiaeth a derbyniwyd cadarnhad nad oedd gan yr Uned
wrthwynebiad i'r bwriad.
Tynnodd sylw yn
dilyn derbyn Datganiad Ieithyddol bod yr Uned Iaith wedi datgan bod y bwriad yn
debygol o gael effaith gadarnhaol ar y dref a’r Iaith Gymraeg. Amlygodd bod y
Gwasanaeth Twristiaeth yn nodi bod darpariaeth o’r math yma o westy yn brin o
ystyried y nifer o ymwelwyr i’r ardal.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeiswyr y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y cais wedi ei
gyflwyno gan y tirfeddianwyr Mapeley Steps a Premier Inn;
·
Byddai’r bwriad yn
cefnogi’r economi leol gyda buddsoddiad o oddeutu £6 miliwn a chreu hyd at 30 o
swyddi yn uniongyrchol;
·
Disgwylir i ran helaeth
o’r swyddi fod ar gyfer pobl leol gyda’r cyfleon cyflogaeth yn cefnogi
cymunedau cynaliadwy lle gall yr Iaith Gymraeg barhau i ffynnu;
·
Bod ymchwil a
thystiolaeth yn dangos bod angen sylweddol am lety wedi ei wasanaethu o safon
uchel ym Mhorthmadog. Gyda dim ond un gwesty cadwyn cenedlaethol arall ym
Mhorthmadog;
·
Byddai’r bwriad yn
gwella proffil ymwelwyr i Borthmadog gan ddenu
ymwelwyr newydd heb effeithio’n uniongyrchol ar westai eraill yn y dref, fel y
gwelir o’r gwesty yn Noc Fictoria, Caernarfon;
·
Cynhaliwyd trafodaethau
o ran y nifer o lecynnau parcio ac yn hyderus bod y ddarpariaeth parcio ar y
safle yn ddigonol o ystyried lleoliad a hygyrchedd y datblygiad yn agos i ganol
y dref a’r nifer o feysydd parcio cyhoeddus gerllaw;
·
Gobeithio y byddai’r
Pwyllgor yn cefnogi’r bwriad a fyddai’n hwb enfawr i economi Porthmadog.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod rhan fwyaf o’r
gymuned yn gefnogol i’r cais ac yn croesawu swyddi newydd, ystafelloedd
ychwanegol a datblygiad y safle. Ond roedd nifer fechan yn nodi pryderon am y
datblygiad er ddim yn gwrthwynebu’r datblygiad;
·
Mai prif bryder
trigolion Britannia Terrace, Britannia Place a Surveyor’s Place oedd y ddarpariaeth parcio ar y safle oherwydd bod
parcio eisoes yn broblem yn yr ardal yma o Borthmadog;
·
Bod gan drigolion
oedrannus ac anabl gytundeb gyda’r cyn-berchnogion o ran parcio ar y safle a’u
bod yn siomedig bod y trefniant wedi dod i ben;
·
Ei fod yn bwysig bod y
cwmni yn dod i drefniant gyda’r Cyngor o ran dilysu parcio a bod arwyddion a
marchnata ar y we yn annog gwesteion i barcio ym maes parcio Llyn Bach neu faes
parcio Heol y Parc;
·
Annog y datblygwr i
ymgynghori ymhellach gyda thrigolion lleol o ran parcio er mwyn dod i
ddealltwriaeth;
·
Bod rhai trigolion yn
gofyn am gyfyngu’r oriau gwaith adeiladu i rhwng 9am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd
Gwener;
·
Dylid defnyddio
adeiladwyr a gweithwyr lleol yn ystod y cyfnod adeiladu a deunyddiau ac
arferion a oedd yn gyfeillgar i’r amgylchedd lle bod modd;
·
Bod 87% o bobl yn ward
Porthmadog yn deall neu yn medru siarad Cymraeg. Felly, roedd yn holl bwysig
bod yr Iaith Gymraeg yn amlwg ym mhob agwedd o’r gwesty a bod yr Iaith Gymraeg
yn iaith naturiol yn y gwesty o’r cychwyn fel yr oedd yn nhref Porthmadog;
·
Bod angen sicrhau bod ffaniau ac unedau awyru wedi eu gosod digon pell o dai
cyfagos;
·
Yn gyffredinol bod
cefnogaeth gref i’r datblygiad ond ei fod yn bwysig bod pryderon lleol yn cael
eu hystyried;
·
Bod y datblygiad yn
ddatganiad o hyder yn nhref Porthmadog;
·
Annog y cwmni i gefnogi
busnesau lleol yn y dref o ran cyflenwi cynnyrch. Ei fod yn bwysig bod cwmni
mawr fel hyn yn cefnogi busnesau bach a chadw’r budd yn lleol.
(ch) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y cais yn cynnig
cyfle ardderchog i Borthmadog yn enwedig o ran y
swyddi a fyddai’r datblygiad yn eu creu;
·
Dim yn anghytuno mewn
egwyddor i’r bwriad, roedd y safle yn lleoliad ardderchog a chyfleus ar gyfer
gwesty ond bod angen ystyried pryderon o ran y ddarpariaeth parcio ar y safle
ar gyfer gwesteion a staff. Nid oedd y gwasanaeth trenau mor aml â hynny ac fe
allai’r datblygiad olygu mwy o anawsterau parcio i’r dref o ystyried y sefyllfa
parcio bresennol. Efallai bod modd i un ai cynyddu’r ddarpariaeth parcio neu
leihau’r nifer o ystafelloedd yn y gwesty er mwyn dod dros y broblem;
·
Byddai’r adeilad wedi ei
osod yn ôl gyda dyluniad mwy meddal na’r adeilad presennol, felly byddai’n llai
ymwthiol. Eisiau gweld darpariaeth gwefru ceir trydan ar y safle;
·
Bod yr adeilad presennol
yn wag a bod angen y math yma o ddatblygiad ym Mhorthmadog. Pryder o ran y
ddarpariaeth parcio. Gobeithio y byddai’r staff yn lleol a bod yr Iaith Gymraeg
yn rhan naturiol o’r busnes gan sicrhau bod arwyddion yn ddwyieithog. Bod yr
aelod lleol yn gofyn i’r ymgeiswyr brynu cynnyrch yn lleol, yn syniad da ond
gwestai cenedlaethol yn dueddol o brynu mewn swmp a ni ellir rhoi pwysau arnynt
i brynu’n lleol yn anffodus. Byddai’r datblygiad yn creu swyddi a oedd yn hynod
o bwysig;
·
Pe caniateir y cais, a
ellir gosod amod yng nghyswllt bod yr Iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio gan y
staff, yn enwedig staff y dderbynfa?
·
Dylid gofyn i’r
ymgeiswyr ystyried defnyddio lliwiau Cymru ar yr arwyddion;
·
Bod mynediad i faes
parcio cyhoeddus drwy gefn y safle, mai cyfnodau o 2 i 3 noson oedd ymwelwyr yn
debygol o aros ac fe fyddai’r datblygiad yn fuddiol i siopau yn y dref ac yn
dod a gwaith i’r ardal;
·
Cefnogol i’r cais gyda
sylwadau’r asiant yn cadarnhau ymwybyddiaeth y datblygwr o bwysigrwydd yr Iaith
Gymraeg yn yr ardal. Bod y ddarpariaeth parcio ar y safle yn ddigonol gyda
chyswllt trên ar Reilffordd Arfordir y Cambrian a
meysydd parcio cyhoeddus gerllaw. Bod yr amseroedd gweithio a argymhellir o dan
amod 13 yn oriau rhesymol. Roedd gwir angen datblygiad o’r fath yn yr ardal.
(c) Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y swyddogion:
·
Bod yr
asesiad trafnidiaeth wedi dod i’r casgliad bod 56 man parcio yn ddarpariaeth
ddigonol ar gyfer y safle o ystyried cynaliadwyedd y safle. Roedd y safle wedi
ei leoli ar gyrion y dref, meysydd parcio cyhoeddus gerllaw, cysylltiadau
cludiant trên a bws ynghyd â lôn beics tu ôl i’r safle. O ystyried mai caniatâd
ar gyfer gwesty oedd dan sylw a thueddiad i westeion barcio a chadw car dros
nos, y gallai’r meysydd parcio ymdopi â’r gofyn ychwanegol. Roedd dros 400 o
lecynnau parcio mewn meysydd parcio cyfagos felly nid oedd y datblygiad yn
debygol o greu problemau parcio ar strydoedd cyfagos;
·
Bod y
dymuniad i sicrhau bod yr Iaith Gymraeg yn rhan naturiol o’r gwesty o’r cychwyn
cyntaf yn hynod bwysig. Roedd yn anodd amodi o ran pwy a gyflogir a’u hiaith.
Argymhellir gosod amod o ran sicrhau bod yr arwyddion yn ddwyieithog ac fe
ellir rhoi nodyn, pe caniateir y cais, yn nodi pwysigrwydd cysylltu gyda Hunaniaith (y Fenter Iaith leol) cyn datblygu’r safle er
cael mwy o ddealltwriaeth o Gymreictod yr ardal;
·
Gellir cynnal
trafodaeth gyda’r ymgeiswyr o ran dyluniad arwyddion ar y safle.
PENDERFYNWYD
caniatáu’r cais.
Amodau:
1. Amser
2. Cydymffurfio gyda chynlluniau
3. Holl ddeunyddiau i’w cytuno cyn eu gosod
4. llechi naturiol
5. Tirlunio
6. Priffyrdd/parcio
7. Dŵr Cymru
8. Bioamrywiaeth
9. Gwarchod llwybr cerdded/beicio
10. Archaeoleg
11. Cyfoeth Naturiol Cymru
12. Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu
13.
Datganiad Dull Adeiladu/amser gweithio
14. Arwyddion
dwyieithog
15. Cytuno
manylion cyfyngu ffenestri i agor/gwydr afloyw
16. Cynllun
goleuo
17. Cadw
ardal cadw biniau/gwasanaethau yn glir
18. Triniaethau
ffin (yn enwedig o ystyried yr adeiladau rhestredig) y safle ar gyrion tref
19. Cytuno
ar fath/ffurf a lleoliad y paneli solar cyn eu gosod
20. Nodyn
draenio cynaliadwy.
Nodyn: Pwysigrwydd cysylltu gyda Hunaniaith (y Fenter Iaith leol) cyn datblygu’r safle er
cael mwy o ddealltwriaeth o Gymreictod yr ardal.
Dogfennau ategol: