Newid defnydd adeilad amaethyddol i weithdy
mecanig trin peiriannau cychod (Defnydd Dosbarth B1).
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig
Cofnod:
Newid defnydd adeilad amaethyddol i weithdy mecanig
trin peiriannau cychod (Defnydd Dosbarth B1).
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn
gais ôl-weithredol. Eglurodd bod y safle gerllaw adeiladau cyn fferm Tal y Bont
Uchaf, a oedd yn cynnwys tŷ sylweddol, anecs ac
adeiladau allanol a oedd yn adeilad rhestredig (Gradd II). Nododd bod yr
adeilad mewn ardal wledig oddeutu 1.2 km i’r dwyrain o ffin ddatblygu Pentref
Lleol Llandygai fel y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a
Môn (CDLl).
Nododd bod Polisi Strategol 13 o’r CDLl yn
anelu tuag at hwyluso twf economaidd trwy gefnogi sawl agwedd o'r economi leol
gan gynnwys cefnogi ffyniant economaidd cymunedau gwledig a hwyluso twf ar
raddfa briodol trwy ail-ddefnyddio adeiladau a oedd yn bodoli'n barod mewn
ardaloedd gwledig. Eglurodd bod y bwriad yn cwrdd â meini prawf Polisi CYF6 o’r
CDLl a oedd yn annog caniatáu ail ddefnyddio ac
addasu adeiladau gwledig ar gyfer defnydd busnes.
Tynnodd sylw mai’r ddwy prif elfen, a fyddai’n gallu effeithio ar
fwynderau cymdogion oedd materion sŵn a thrafnidiaeth. Nododd y cyflwynwyd
adroddiad sŵn gyda’r cais a bod yr adroddiad yn dod i’r casgliad nad oedd
y gweithdy’n achosi niwed arwyddocaol i fwynderau cymdogion o safbwynt
sŵn. Eglurodd bod yr ymgeisydd yn y broses o brynu Fferm Tal y Bont Uchaf
a’r adeiladau cysylltiedig â phetai hynny’n digwydd, mater i’r perchennog
fyddai rheoli’r sŵn, fel na fyddai’n effeithio ei eiddo ei hun.
Argymhellwyd, pe caniateir y cais, y dylid cynnwys amod yn clymu’r caniatâd
cynllunio i berchennog / preswylydd Fferm Tal y Bont Uchaf yn unig.
Amlygodd nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad, ond
y derbyniwyd cryn wrthwynebiad gan y gymuned leol yn honni bod y cynnydd yn y
drafnidiaeth eisoes yn niweidiol i ddiogelwch y ffordd a mwynderau lleol.
Nododd wrth ystyried defnydd blaenorol y safle at ddefnydd amaethyddol ‘doedd
dim i rwystro cerbydau amaethyddol / peirannau sylweddol rhag mynd a dod i’r
safle at y diben hwnnw.
Nododd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi tynnu’n ôl eu gwrthwynebiad i’r
cais. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Yn
manteisio ar yr hawl i
siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y busnes yn fusnes
arbenigol a oedd yn cyflogi 9 aelod o staff llawn amser;
·
Bod les safle blaenorol
y busnes wedi dod i ben, cynhaliwyd trafodaeth gyda swyddogion y Cyngor ag
eraill o ran safle amgen addas ond nid oedd un ar gael;
·
Bod y busnes wedi gorfod
ail-leoli ar fyr rybudd. Felly, yn anffodus roedd y cais yn gais ôl-weithredol;
·
Bod y teulu bellach yn
berchen y safle yn ei gyfanrwydd;
·
Bod y peiriannau’n
guddiedig a bod hyn yn bwysig gyda phroblemau lladrata yn y gorffennol;
·
Bod y safle yn gyfleus i
Porth Penrhyn ym Mangor, Y Felinheli a Marina Conwy, ac yn agos at yr A55;
·
Bod asesiad sŵn
manwl wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais, a oedd yn cadarnhau nad oedd effaith
andwyol ar drigolion lleol;
·
Ymgeisydd yn fodlon o
ran amod amser gweithio rhwng 8.00am a 4.30pm ac amod i glymu’r defnydd i
berchennog / preswylydd Fferm Tal y Bont Uchaf;
·
Bod yr ymgeisydd yn
barod i gyfarfod gyda’r aelod lleol a thrigolion cyfagos i drafod eu pryderon.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Dim yn gwrthwynebu’r
bwriad mewn egwyddor ac yn gefnogol i’r busnes a oedd yn creu swyddi;
·
Gerbron i gyflwyno
pryderon trigolion a oedd yn lleol i’r safle;
·
Bod Cyngor Cymuned
Llanllechid wedi cyflwyno sylwadau ar y cais, llawer ddim yn faterion cynllunio
ond nodir pryder o ran cynnydd mewn symudiadau traffig ers i’r busnes ail-leoli
i’r safle. Bod yr ymgeisydd i weld yn cydnabod y broblem drafnidiaeth gan
anogir osgoi defnyddio cerbydau mawr. Bod y ffordd i’r safle yn rhan o
rwydwaith beics ac nid oedd lle i
gerdded ar y ffordd pan fo fan neu lori yn teithio arno. Anghytuno bod y safle
yn hygyrch a bod yno newid arwyddocaol i’r drafnidiaeth;
·
Bod lori ar un achlysur
wedi taro ei ddrych ar y tŷ ger y fynedfa gan ychwanegu at bryder y teulu.
Roedd gyrwyr cerbydau yn flin oherwydd yr anawsterau. Bod y troad am lôn giatws yn dro siarp gyda gyrwyr yn gorfod mynd yn ôl ac
ymlaen sawl tro i gymryd y troad gan falu’r llain gwyrdd;
·
Wedi derbyn sylw gan
drigolyn, bod busnesau newydd yn datblygu’n organig ac yn tyfu ond gan fod y
busnes eisoes wedi ei sefydlu, roedd wedi effeithio ar fwynderau preswyl
trigolion lleol;
·
Bod newid ym math y
cerbydau, gyda thractorau yng nghyswllt y cyn-ddefnydd amaethyddol yn gallu
edrych dros y gwrychoedd. Nawr roedd gyrwyr cerbydau cario nwyddau yn
anghyfarwydd gyda’r ardal ac yn defnyddio’r lôn gul;
·
Dylai’r pwyllgor
ystyried gwrthod y cais ar sail Polisïau TRA4, PCYFF2 a PCYFF3 o’r CDLl;
·
Pe bwriedir caniatáu’r
cais, fe ddylid cynnal ymweliad safle cyn penderfynu.
(ch) Cynigwyd
ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Pe cynhelir ymweliad
safle, a fyddai’n bosib derbyn gwybodaeth o ran y math o drafnidiaeth, maint y
cerbydau a oedd yn cario nwyddau i’r safle a’u hamlder, er mwyn gweld yr
effaith?
·
Bod y busnes yn bodoli
ac wedi ail-leoli. Gwerthfawrogi pe cynhelir ymweliad safle er mwyn asesu’r
sefyllfa;
·
Nid oedd yr Uned
Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad. Roedd y defnydd amaethyddol wedi dod i
ben a’r busnes presennol yn cyflogi 9 aelod o staff llawn amser. A fyddai modd
gwneud gwelliannau i’r ffordd?
·
Ddim yn anghytuno mewn
egwyddor ond bod pryderon yr aelod lleol yn ei phryderu o ran trafnidiaeth drwm
ar lonydd cefn gwlad. Cefnogi cynnal ymweliad safle;
·
Bod y Cyngor Cymuned yn
gwrthwynebu’r bwriad yn gryf. Roedd newid defnydd o ddefnydd amaethyddol yn
golygu newid yn y drafnidiaeth. Bod angen rhoi sylw i bryderon lleol.
PENDERFYNWYD cynnal
ymweliad safle.
Dogfennau ategol: