Agenda item

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Grisiau’r Môr

 

Nododd Cynrychiolydd Cyngor Tref Porthmadog y dymunai godi mater ynglŷn â Grisiau’r Môr ar gais unfrydol y Cyngor Tref yn eu cyfarfod y noson cynt, gan adrodd yn ôl i’r Cyngor Tref ar y mater yn eu cyfarfod nesaf.  Nododd y Cadeirydd nad oedd gwrthwynebiad i drafod hyn.

 

Eglurodd Cynrychiolydd y Cyngor Tref fod llythyru wedi bod ers cryn amser rhwng y Cyngor Tref a’r Uned Forwrol a Pharciau Gwledig a Chlwb Hwylio Porthmadog ynglŷn â mynediad i’r cyhoedd i Risiau’r Môr.  Pwysleisiodd fod y grisiau hyn yn rhan o etifeddiaeth a hanes tref Porthmadog a bod y Cyngor Tref yn gryf o’r farn bod angen gwarchod traddodiad oes o hawl pobl leol i fwynhau Grisiau’r Môr.  Cyfeiriodd at y gwaith o adeiladu mynediad i pontwns i lawr Grisiau’r Môr rhwng 2002 a 2004, gan bwysleisio fod llythyr a dderbyniodd y Cyngor Tref gan y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig dyddiedig 16 Medi, 2019 yn nodi “pan ddatblygwyd y cynllun gosod pontŵn gwreiddiol gan glwb hwylio, bu i’r Gwasanaeth Morwrol a Pharciau Gwledig sicrhau na fyddai’r datblygiad yn cyfyngu mynediad at y dŵr ger safle’r Grisiau Llechi [Grisiau’r Môr]”.  Roedd y llythyr hefyd yn nodi “gwerthwyd hyn i’r Clwb Hwylio, ac mae’n bosib’ bod hyn wedi’i gofnodi mewn cyfarfod o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog”. 

 

Nododd ymhellach fod y giât fetel gydag arwydd ‘Dim mynediad heibio’r pwynt yma’ arni yn gwrthddweud cyfarwyddyd yr Uned Forwrol a Pharciau Gwledig, ar adeg cynllun gosod y pontŵn gwreiddiol, bod mynediad i’r cyhoedd yn parhau.  Yn wir, roedd bellach yn amhosib’ cael mynediad i’r grisiau hanesyddol gwreiddiol eu hunain oherwydd bod Pont Mynediad y pontŵn wedi ei adeiladu ar eu pennau, ac roedd angen cywiro hyn.

 

Nododd y Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden fod y Clwb Hwylio wedi ysgrifennu at y Cyngor Tref dair gwaith yn egluro’n union beth yw’r sefyllfa, a bod yr arwydd yn nodi’n glir bod gan unrhyw un sy’n defnyddio’r harbwr hawl i gael mynediad i’r dŵr i lwytho / dadlwytho cychod, ayb.

 

Nododd Cynrychiolydd y Cyngor Tref fod yr arwydd yn dweud “Arwydd diogelwch - mynediad preifat - Pontŵn at ddefnydd defnyddwyr yr Harbwr yn unig - dim pysgota na chrabio”.  Nid oedd y geiriau ‘mynediad preifat’ na’r giât haearn yn gwahodd mynediad i’r pontŵn, hyd yn oed i ddefnyddwyr cychod, ac roedd yn gwneud i bobl deimlo fel eu bod yn tresbasu ar eiddo preifat. 

 

Mewn ymateb, eglurodd y Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden fod yr arwydd yn dweud ‘mynediad preifat’ oherwydd bod y ramp ym mherchnogaeth y Clwb Hwylio, a hwy hefyd oedd yn gyfrifol am ei archwilio, ei gynnal a’i gadw a’i yswirio.  Gan hynny, roedd yn ofynnol gosod rhyw fath o gyfyngiad ar bwy fyddai’n cael mynd yno, ond ategodd y ffaith bod gan unrhyw un sy’n defnyddio’r harbwr hawl i fynd i lawr i’r dŵr.

 

Esboniodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig fod yr Uned wedi cydweithio gyda’r Clwb Hwylio, y pwyllgor hwn a Phwyllgor Ardal Dwyfor ers blynyddoedd ynglŷn â’r mater hwn.  Nododd fod y grisiau gwreiddiol (sydd ym mherchnogaeth Cyngor Gwynedd) yn cael eu gorchuddio gan lanw ar adegau, ac felly’n llithrig ac roedd sawl damwain wedi bod yma.  Er na ddymunid cau’r grisiau, roedd rhaid bod yn wyliadwrus.  Eglurodd ymhellach, pan ddatblygwyd y cynllun, bod cytundeb y byddai un pontŵn yn cael ei neilltuo ar gyfer cychod sy’n ymweld â’r harbwr i lwytho / dadlwytho, ac nid oedd y sefyllfa honno wedi newid.  Efallai bod cyfle i ail-edrych ar eiriad yr arwydd gyda’r Cyngor Tref a’r Clwb Hwylio, ond pwysleisiodd, cyn belled ag roedd mynediad cyhoeddus yn y cwestiwn, mai mynediad at ddefnydd yr harbwr yn unig oedd yn cael ei ganiatáu. 

 

Nododd Cynrychiolydd y Cyngor Tref y dylid diogelu’r grisiau yn hytrach na’u cau i ffwrdd a’u rhoi i ffwrdd i glwb preifat.  Ychwanegodd, a derbyn bod y pontŵn wedi ei adeiladu yma, a bod y penderfyniad wedi ei wneud flynyddoedd yn ôl drwy gytundeb ac ymgynghoriad, nad oedd y sefyllfa bresennol yn dderbyniol.

 

Nododd y Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden fod y cynllun wedi’i gymeradwyo gan Cadw gan bod y waliau yn rhestredig.

 

Pwysleisiwyd ei bod yn hanfodol bod y gwasanaethau brys yn gallu cael mynediad at y dŵr.

 

Cynigiodd Cynrychiolydd y Cyngor Tref fod y giât yn cael ei thynnu i ffwrdd a bod arwydd yn cael ei osod yn pwysleisio bod angen mynediad i’r gwasanaethau brys.  Pwysleisiodd unwaith yn rhagor na ellid cau mynediad cyhoeddus.

 

Mewn ymateb, nododd y Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden nad oedd tynnu’r giât yn opsiwn a phwysleisiodd fod defnyddwyr yr harbwr yn llwyr ymwybodol bod mynediad iddynt fynd a dod yn rhwydd fel y mynnont.

 

Nododd Cynrychiolydd y Cyngor Tref nad oedd pawb yn ymwybodol o hynny.

 

Awgrymodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig y gallai’r Cyngor Tref gynnig geiriad amgen ar gyfer yr arwydd, ond pwysleisiodd na fyddai’r pontŵn na’r Bont Mynediad yn cael eu tynnu i ail-agor y grisiau, gan fod y sefyllfa bresennol yn fwy diogel na’r hyn oedd yno gynt.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Gynrychiolydd y Cyngor Tref, cadarnhaodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd yna hawl tramwy cyhoeddus y tu hwnt i’r giât, eithr mynediad i ddefnyddwyr yr harbwr yn unig.  Nododd y Cynrychiolydd Hamdden na chredai y byddai newid geiriad yr arwydd yn gwneud gwahaniaeth gan fod yr arwydd presennol yn datgan yn glir bod mynediad i bobl sydd angen llwytho / dadlwytho eu cychod.

 

Nododd y Cadeirydd ei bod yn amlwg bod dryswch ynghylch pwy sydd â’r hawl i ddefnyddio’r ramp o dan wal yr Harbwr a gofynnwyd i’r Cynrychiolydd adrodd yn ôl i’r Cyngor Tref ar yr hyn a drafodwyd yn y pwyllgor hwn.