Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.
Cofnod:
Cyflwynodd y
Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn
diweddaru’r pwyllgor ar faterion yr Harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth
2019 a mis Hydref 2019. Gwahoddwyd
adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr Harbwr.
Dosbarthwyd y
canlynol yn y cyfarfod:-
·
Crynodeb o gyllideb yr Harbwr a’r sefyllfa
ariannol bresennol hyd at ddiwedd Medi, 2019.
·
Drafft o’r ffioedd a’r taliadau arfaethedig ar
gyfer Harbwr Porthmadog yn 2020/21 (yn cynnwys a heb TAW). Nodwyd y byddai’r drafft yn cael ei gyflwyno
i’r Aelod Cabinet ym mis Rhagfyr.
Nodwyd
bod y ffigurau cofrestriadau cychod pŵer a chychod dŵr personol yng
Ngwynedd ym mharagraffau 2.4 a 2.6 o’r adroddiad yn wahanol i’r hyn a nodwyd yn
y tablau yn yr atodiadau i’r adroddiad.
Eglurwyd na pharatowyd y ddau set o wybodaeth ar yr un adeg, ond y
byddai’r ffigurau’n cael eu cysoni erbyn y cyfarfod nesaf.
Nododd
y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig bod aelod wedi holi sut roedd y Cyngor am
ddelio gyda phroblem y cynnydd yn y mwd / tywod sy’n casglu ochr y trên bach
o’r Harbwr. Eglurwyd, er bod gan Gyngor
Gwynedd, fel yr Awdurdod Harbwr, yr hawl i garthu’r Harbwr, nad oedd gorfodaeth
arno i wneud hynny. Roedd y gwaith o
garthu unrhyw harbwr yn hynod gymhleth a chostus. Bu rhywfaint o waith carthu’r Harbwr yn 1994,
gan gludo’r mwd oddi yno i safle gwaredu cyfagos, ond gan fod hynny bellach yn
groes i reoliadau Ewrop, byddai’n rhaid cludo’r deunydd i safle tua 15 milltir
i’r Gogledd o Gaergybi. Er bod y
trefniadau, y lefelau incwm a’r hawliau mewn lle i garthu harbyrau Pwllheli a
Chaernarfon, ni ragwelid y byddai’n bosib’ gwneud y math yma o waith ym
Mhorthmadog, Abermaw nac Aberdyfi. Mewn
ymateb i gwestiwn pellach gan yr aelod, eglurodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau
Gwledig nad oedd y cynnydd yn y mwd / tywod yn yr Harbwr yn arwain at golli
llefydd i angori mwy o gychod gan fod yna lawer o gapasiti yn yr Harbwr ar hyn
o bryd i gymryd angorfeydd. Holwyd ai
perchnogion y tai ar ochr bela’r Harbwr oedd â hawl ar yr angorfeydd yno. Mewn ymateb, nodwyd bod sedd y Cynrychiolydd
Buddiannau Perchnogion Tir ar y pwyllgor hwn yn wag ar hyn o bryd a bod
ganddynt hawl i enwebu cynrychiolydd i ddod i’r cyfarfodydd.
Cyflwynodd yr Uwch
Swyddog Harbyrau adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a
Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Mawrth 2019 a mis
Hydref, 2019, gan gynnwys materion cynnal a chadw.
Dosbarthwyd y
canlynol yn y cyfarfod:-
·
Drafft o’r Is-ddeddfau Harbwr a gofynnwyd i
aelodau’r pwyllgor gyflwyno unrhyw sylwadau fyddai ganddynt ar yr is-ddeddfau
drafft cyn 31 Rhagfyr, 2019. Nodwyd bod
copi electroneg o’r ddogfen ar gael petai’r aelodau’n dymuno hynny.
·
Rhaglen waith cynnal a chadw Harbwr Porthmadog
yn ystod y cyfnod Hydref 2019 –Chwefror 2020.
Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Nodwyd y byddai adroddiad Tŷ’r Drindod, yn
sgil eu harchwiliad blynyddol o gymorthyddion mordwyo yn yr Harbwr a dynesfa’r
sianel rhwng 14 ac 16 Hydref, yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y pwyllgor
ym mis Mawrth.
·
Adroddwyd bod yr Uned wedi cael sioc yn
ddiweddar o dderbyn sylwadau gan Glwb Hwylio Porthmadog ynglŷn â diffyg
cynnal a chadw cymorthyddion mordwyo yn yr Harbwr. Darllenwyd llythyr y Clwb Hwylio i’r aelodau
oedd yn cyfeirio at gam-leoli cymorthyddion ac arafwch cyfleu negeseuon i
forwyr a phwysleisiwyd bod yr Uned yn rhyddhau rhybudd i forwyr yn rheolaidd
pan fydd y sianel yn newid. Eglurwyd y
cysylltwyd yn ôl â’r Clwb Hwylio yn awgrymu eu bod yn trafod y materion hyn
gyda’u cynrychiolydd ar y pwyllgor hwn, gyda’r bwriad iddo ymhelaethu ar y
sefyllfa yn y cyfarfod hwn. Cadarnhaodd
y Cynrychiolydd na ofynnwyd iddo godi’r mater ac ychwanegodd y Rheolwr Morwrol
a Pharciau Gwledig nad oedd unrhyw forwr arall, na Thŷ’r Drindod wedi codi
pryderon.
·
Diolchwyd i’r Clwb Hwylio am gynnig lle i
gadw’r cwch Dwyfor wrth y pontŵn sydd ym mherchnogaeth a rheolaeth y Clwb.
·
Rhoddodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig
diweddariad i’r aelodau o’r sefyllfa yn dilyn achos diweddar o yrru beiciau
modur dŵr yn anghyfrifol ac yn ymosodgar yng Nghricieth. Nodwyd y deellid bod yr heddlu yn parhau i
ymchwilio i’r digwyddiad. Nododd
Cynrychiolydd y Cyngor Tref iddo yntau weld beicwyr dŵr yn ymddwyn yn
beryglus yn ddiweddar a holodd beth ddylai aelodau o’r cyhoedd wneud mewn
sefyllfa o’r fath, lle mae’r sefyllfa’n amlwg yn beryglus, ond ddim yn argyfwng
sy’n teilyngu galw 999. Mewn ymateb,
nododd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n cynghori pobl i ffonio
Galw Gwynedd, yr Harbwrfeistr neu’r Swyddog Morwrol ym Mhwllheli, gan nodi
dyddiad, amser a lleoliad y digwyddiad peryglus, a gofynnwyd i’r aelodau
ledaenu’r neges yma.
·
Nododd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig iddo
dderbyn llythyr gan Gyngor Tref Cricieth yn galw am wahardd badau dŵr
personol yn gyfan gwbl rhwng Porthmadog a Phwllheli. Roedd eisoes wedi egluro wrth y Cyngor Tref
nad oedd gan Gyngor Gwynedd y pwerau i wneud hynny, y byddai’n anodd iawn ei
reoli ac y byddai yna effaith economaidd hefyd.
Fodd bynnag, roedd wedi addo i’r Cyngor Tref y byddai’n dod â’r mater
gerbron y pwyllgor hwn. Nododd ymhellach
y byddai angen mwy o swyddogion i wneud y gwaith goruchwylio ac i weithio y tu
allan i oriau arferol. Roedd y Cyngor yn
dibynnu ar y cyhoedd i gadw llygaid ar bethau, ond roedd nifer y cwynion sy’n
dod i law yn isel iawn o gymharu â’r niferoedd sy’n mwynhau’r gweithgaredd
yma. Hefyd, er bod yna Is-ddeddfau yng
Nghricieth a Morfa Bychan, nid oedd hynny’n bod mewn llefydd eraill ar hyd yr
arfordir. Gofynnwyd i bawb adrodd os
ydynt yn gweld unrhyw ddigwyddiad afresymol.
Cytunwyd i hysbysu Cyngor Tref Cricieth bod y pwyllgor hwn wedi trafod
eu llythyr gan awgrymu iddynt eu bod yn cryfhau’r Is-ddeddfau presennol.
Mewn ymateb i
ymholiad, eglurwyd y ceisiwyd hybu twf economaidd y dref yn y gorffennol drwy
beidio codi ffioedd am gynnal digwyddiadau yn yr Harbwr. Fodd bynnag, roedd y gost o lanhau a thacluso
ar ôl digwyddiadau yn golygu y byddai’n rhaid ail-edrych ar hyn ar gyfer
2020. Cadarnhawyd ei bod yn arferol i
godi ffioedd ar gwmnïau ffilm a theledu a bod rhaid i’r cwmnïau hynny gael
caniatâd y Cyngor yn y lle cyntaf i ffilmio.
PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: