· Bysiau - diweddariad
· Tocynnau Mantais
· Trafnidiaeth Addysg
· Adolygiadau Trafnidiaeth Cyhoeddus
(ynghlwm)
Penderfyniad:
Nodwyd a derbyniwyd
yr adroddiad.
COFNODION:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Iwan Prys Jones a Peter Daniels
PENDERFYNWYD
Nodwyd
a derbyniwyd yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi'r problemau sydd wedi codi o ran y drefn ail ddyrannu tocynnau
teithio mantais am ddim sydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2019. Mynegwyd fod y
wefan er mwyn ail gofrestru wedi cwympo a phwysleisiwyd fod angen gwneud
rhywbeth dros y Gogledd. Er hyn, nodwyd fod Trafnidiaeth Cymru wedi nodi y bydd
mwy o adnoddau i gynorthwyo’r cynghorau ac y bydd y wefan yn ôl ar lein cyn
diwedd yr wythnos. Pwysleisiwyd fod llawer o effaith wedi bod ar y cynghorau.
Pwysleisiwyd
fod Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd newid i’r oedran y bydd pobl yn gallu
ymgeisio am y Tocynnau Teithio Mantais am ddim ac o ganlyniad fod nifer uwch o
bobl wedi ymgeisio cyn i’r oedran newid. Mynegwyd fod problemau wedi codi ar
lein ac yn nad yw pawb yn ymwybodol o’r newid. Nodwyd fod y sefyllfa yn un
anodd gan fod Trefniadaeth i Gymru ar-lein a bod ymgeiswyr yn cael eu cyfeirio
at eu cynghorau lleol er mwyn cael cymorth i fynd ar-lein. Gan fod y wefan wedi
cwympo mae ffurflenni papur ar gael dros dro. Mynegwyd fod gan y cynghorau
capasiti i gynorthwyo i raddau o ran os wedi colli eu tocynnau neu ag anableddau
ond fod ail ymgeisio am y tocynnau a niferoedd llawer uwch. Nodwyd sut mae
gwahanol awdurdodau wedi delio a’r mater.
Pwysleisiwyd
fod y mater hwn yn un sydd yn datblygu, a bod Trafnidiaeth Cymru wedi nodi y
bydd adnoddau ychwanegol yn cael ei gynnig dros dro. Nodwyd y bydd yr
Is-grŵp yn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn nodi fod pryder am y mater
yn y tymor hir o ran tocynnau teithio. Penderfynwyd fod angen holi Llywodraeth
Cymru am gynllun tymor hir a beth fydd effaith hyn ar Lywodraeth Leol, os bydd
popeth yn ei le erbyn amser diwedd mis Rhagfyr ac os yw’r ddeddf cydraddoldeb
wedi ei ystyried.
Newidiadau
i’r Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus
Nodwyd
ym mis Ionawr y bydd ofyniad Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn cael
ei ymestyn i bob coets sydd yn codi pryderon gan nad oes gan lawer o goets
fynediad i gadeiriau olwyn. Holwyd os bydd yn effeithio trafnidiaeth ysgolion a
nodwyd na fydd oni bai fod awdurdodau yn codi ffi am gael trafnidiaeth.
Mynegwyd fod pob awdurdod am gael ei daro efallai ddim yn ariannol ond yn
wleidyddol.
Mynegwyd
mai’r prif fater yw nad oes digon o gerbydau ar gael gyda’r mynediad fydd ei angen. Nodwyd beth
oedd rhai awdurdodau yn ei wneud ond pwysleisiwyd y bydd yn codi problemau.
Esboniwyd i raddau fod dau opsiwn i dalu am gerbydau newydd neu i beidio codi
ffi ond mynegwyd fod effaith os yn gwneud yr ail elfen. Trafodwyd efallai yn ei
fod yn syniad i anfon llythyr ar y Gweinidog i gael cyfnod trosiannol er mwyn
rhoi cyfle i’r awdurdodau i weithio ac i weld sut mae am effeithio rhai
ysgolion sydd â chytundebau preifat. Pwysleisiwyd y bydd mwy o effaith ar
ardaloedd gwledig felly bydd angen gwneud asesiad effaith ar ddisgyblion.
Nodwyd
y bydd modd cyfuno'r ddau fater - Newidiadau i’r Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth
cyhoeddus a’r Tocynnau Teithio Manteisio am ddim i un llythyr i Lywodraeth
Cymru.
Adolygiad
o’r Rhwydwaith Bysiau Rhanbarthol
Mynegwyd
fod angen adnodd ychwanegol i edrych ymhellach i mewn i hyn a bod briff wedi ei
greu ac y bydd yn cael ei anfon allan yn yr wythnosau nesaf. Ychwanegwyd y bydd
yr adolygiad yn cael ei ariannu gan arian Lywodraeth Cymru ar gyfer Cydlynu
Bysiau yn Rhanbarthol. Pwysleisiwyd gobeithio y bydd modd i’r adolygiad weld os oes datrysiadau i’r problemau sydd
i’w gweld yn y rhanbarth.
Tynnwyd
sylw ar y Papur Gwyn Trafnidiaeth gan nodi ei fod yn canolbwyntio ar reoli
rhwydwaith bysiau. Ychwanegwyd y bydd angen edrych ymhellach i’r Papur Gwyned
newydd sydd yn fod i’w gyflwyno ym mis Hydref.
Dogfennau ategol: