Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith
I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad cynnydd gan Pennaeth yr
Amgylchedd ar y gwaith o adolygu darpariaeth cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd
ynghyd a’r camau nesaf bydd yr Adran yn gweithredu arnynt. Nodwyd bod yr
adolygiad yn rhoi cyfle i’r Cyngor dreialu ffyrdd amgen o ddiwallu anghenion
trafnidiaeth. Ategwyd nad oedd y rhwydwaith presennol wedi ei datblygu ers
degawdau ac nad oedd unrhyw dystiolaeth bod y gwasanaeth wedi ei adolygu’n
gynhwysfawr yn ystod y cyfnod yma. Nodwyd bod cymorth gan Trafnidiaeth Cymru i
gyflawni’r ddarpariaeth gyda’r weledigaeth bod Traws Cymru yn darparu’r prif
goridor teithio gyda dibyniaeth ar y gwasanaethau lleol i gysylltu.
Amlygwyd bod buddsoddiad amser ac ymdrech
wedi ei neilltuo ar gyfer casglu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod penderfyniadau
yn cael eu selio ar yr angen ac yn cael eu blaenoriaethu ar sail gwerth
cymdeithasol. Casglwyd gwybodaeth drwy ffurf holiadur ac fe dderbyniwyd 2021 o
ymatebion. Adroddwyd bod gwaith cychwynnol wedi ei wneud ar ddadansoddi’r
ymatebion fydd yn sail i’r camau nesaf
- adolygu addasrwydd
y rhwydwaith cludiant presennol
- sicrhau bod y
gwasanaeth yn cwrdd ar angen yn y modd mwyaf cost effeithiol
- blaenoriaethu’r
siwrneiau / llwybr ar sail gwerth cymdeithasol (gwaith wedi ei gomisiynau gan
Prifysgol Bangor)
Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Gruffydd
Williams bod Cynghorwyr Dwyfor, mewn ymateb i adolygiad blaenorol, wedi gwneud
cais i warchod y gwasanaeth rhag toriadau a sicrhau cadw pobl yng nghefn gwlad,
nododd Pennaeth yr Amgylchedd nad oedd bwriad torri cyllideb cludiant cyhoeddus.
Ategodd, er yr heriau i gynnal y gwasanaeth, y prif nod yw cwrdd ar angen yn y
modd mwyaf cost effeithiol.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
· Croesawu’r
adolygiad strategol a’r weledigaeth o wella’r defnydd yn y gobaith o weld
gwelliant yn y gwasanaeth cludiant cyhoeddus
· Bod y dulliau
casglu gwybodaeth wedi bod yn briodol a’r ymateb i’r holiaduron wedi bod yn
galonogol - angen adeiladu ar hyn a dadansoddi’r data i gwrdd ar angen
· Croesawu
ystyriaeth defnyddio llai o fysiau mawr - hyn yn gam adeiladol ymlaen
· Angen sicrhau bod
trefniadau galw am wasanaeth yn hyblyg; bod datrysiadau i bob sefyllfa. Awgrym
i dreialu’r trefniadau er mwyn sicrhau llwyddiant
· Bod angen egluro a
thrafod unrhyw ystyriaethau o newid gyda thrigolion yn eu cymunedau - awgrym i rannu’r wybodaeth yn y papurau bro
· Bod angen
trefniadau marchnata effeithiol
· Bod angen
cydweithio a chefnogi gwasanaethau lleol, e.e., O Ddrws i Ddrws, a oes modd
defnyddio tocyn mantais ar gyfer gwasanaethau lleol?
· Bod angen ystyried
effaith ôl troed carbon - hybu pobl i ddefnyddio bysiau
· Rhaid sicrhau
mai’r daith sydd yn flaenoriaeth ac nid y cerbyd / adnodd
· Os defnyddio
cerbydau llai, bydd angen ystyried yr effaith ar gwmnïau bysiau mawr
· Angen sicrhau bod
pob cefnogaeth ar gael i ddeiliaid tocyn mantais adnewyddu eu cardiau erbyn
1/1/2020
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r effaith
ar gwmnïau bysiau, amlygwyd mai’r bysiau mawr fydd asgwrn cefn y gwasanaeth
gyda cherbydau llai yn bwydo i mewn i’r gwasanaeth hwnnw.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag adnewyddu
tocynnau mantais, amlygwyd bod yr Adran yn gwneud pob ymgais i gefnogi
Trafnidiaeth Cymru o weinyddu’r gwaith o adnewyddu tocynnau. Ategwyd bod
swyddogion y gwasanaeth yn cynnal cyfarfodydd ar draws y sir, yn ymateb i
ymholiadau ffôn ac yn cynnig cyngor ac arweiniad ar sut i adnewyddu tocyn drwy
gais papur neu ar-lein. Nodwyd bod y cerdyn mantais newydd yn ddiogelach ac yn
arbed twyll.
PENDERFYNWYD,
- Derbyn yr adroddiad a llongyfarch yr Adran ar y
gwaith ymgysylltu a wnaed i gasglu barn trigolion
- Argymell i’r gwasanaeth ystyried yr effaith hir
dymor ar dorri gwasanaethau yng nghefn gwlad
- Argymell i’r gwasanaeth sicrhau hyblygrwydd yn y
trefniadau newydd e.e., sicrhau bod gwasanaeth ‘Ateb y Galw’ yn hyblyg a bod
cerbydau o faint digonol yn ymateb i’r galw
- Argymell i’r
gwasanaeth ystyried cydweithio gyda chwmnïau lleol / gwasanaethau eraill
- Argymell yr
angen i farchnata'r gwasanaeth yn
effeithiol ar ei newydd wedd
- Argymell bod cyfle i ystyried yr effaith
amgylcheddol fel rhan o’r adolygiad
Dogfennau ategol: