Agenda item

Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith

 

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd yn gofyn i’r Aelodau gynnig sylwadau ar gasgliadau allweddol yr Adroddiad Monitro Blynyddol (Drafft) cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, Y Cabinet ac yna Llywodraeth Cymru.

 

            Eglurwyd bod yr adroddiad monitro yn sail dystiolaeth bwysig ar gyfer adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol. Dros amser gall yr adroddiad monitro ddangos tueddiadau, adnabod unrhyw bolisïau sydd yn cyflawni ai peidio, ac amlygu unrhyw wagle neu ddiffyg o ran polisi. Nodwyd bod gan y Cynllun Datblygu Lleol fframwaith fonitro sydd wedi ei chytuno gyda’r Arolygydd yn ystod yr Archwiliad - ategwyd bod y fframwaith yn cynnwys 69 o ddangosyddion sydd yn adrodd ar 5 thema sydd yn y Cynllun.

 

            Cyfeiriwyd at gasgliadau allweddol yr adroddiad monitro ac adroddwyd, o’u hystyried, nid oedd tystiolaeth yn dangos bod angen adolygiad cynnar o’r Cynllun. Byddai adolygiad o’r Cynllun yn cael ei gynnal yn 2021 oni bai bod adroddiad monitro blynyddol yn nodi yn wahanol.

 

            Diolchwyd am y  wybodaeth

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Awgrym i gyflwyno cyfanswm y nifer tai sydd wedi ei hadeiladu fesul blwyddyn er mwyn rhoi cyd-destun i’r adroddiad

·         Bod angen adroddiad blaen, dealladwy yn crynhoi a symleiddio rhywfaint o’r wybodaeth dechnegol, ffeithiol

·         Bod angen rheolaeth o gynnydd mewn tai haf o ganlyniad i dai newydd yn cael eu hadeiladu. Er yn ymwybodol bod y Cabinet wedi cymeradwyo gwaith ymchwil all arwain at newidiadau i ddeddfwriaeth, awgrymwyd sicrhau bod cyswllt rhwng yr adolygiad monitro blynyddol a’r gwaith ymchwil

·         Bod yr adolygiad yn monitro adeiladau newydd ac nid y stoc tai

·         Bod angen adolygu niferoedd tai yn sgil penderfyniad Wylfa B. Nifer o’r dynodiadau bellach yn ‘ddi angen’

·         Angen cydlynu datblygiadau economaidd gyda datblygiadau tai yn well

·         Angen ystyried y term, ‘pobl leol’. Gwledydd eraill megis yr Eidal yn datblygu tai ar gyfer pobl leol yn unig – awgrym i edrych yn fanylach i gynlluniau tebyg

·         Rhaid rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg ar gyfer pob datblygiad ac nid ar gyfer adeiladu tai yn unig.

·         Bod angen ystyried sut i fesur effaith ar yr iaith Gymraeg

·         Cynnig bod datganiadau iaith yn cael eu cwblhau gan arbenigwyr cydnabyddedig priodol – awgrym i’r Cyngor roi arweiniad ar y rhai sydd yn gymwys i gwblhau datganiadau iaith

·         Awgrym i sefydlu gweithgor ymhen blwyddyn fel bod modd herio ymhellach a chael dadansoddi’n fanylach

·         Pwy fydd yn ymateb ar ran y Cyngor i’r ymgynghoriad ar y Fframwaith Cenedlaethol erbyn Tachwedd 1af 2019?

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ar awgrym y dylai datganiadau iaith gael eu cwblhau gan arbenigwyr cydnabyddedig priodol, mynegodd Rheolwr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd bod y Canllaw Cynllunio Atodol, Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy, sydd y cynnwys arweiniad ar gynllunio a’r iaith Gymraeg, yn cyfeirio at yr angen i’r datganiadau gael ei gwneud gan unigolyn cymwys. Cydnabuwyd bod y canllaw yn cynnwys gwybodaeth newydd i bawb a bod bwriad cynnal sesiynau gydag Aelodau a rhai ar wahân ar gyfer asiantwyr gan fod sawl un wedi mynegi diddordeb. Ategwyd y byddai’n fuddiol i arbenigwyr / asiantwyr allanol fynychu sesiynau rhannu gwybodaeth debyg i’r un a gyflwynwyd i’r Aelodau.  O ran yr awgrym y dylai’r Cyngor baratoi datganiadau ac asesiadau ieithyddol, pwysleisiwyd mai rôl y Cyngor fel Awdurdod Cynllunio Lleol yw  asesu ceisiadau cynllunio a’r holl asesiadau cysylltiedig ac nid paratoi rhannau o gais cynllunio ar ran datblygwr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â llunio ymateb i ymgynghoriad ar y Fframwaith Cenedlaethol, adroddwyd bod yr Uned Polisi yn cydgordio ymateb drwy ymgynghori gyda’r Adran Economi, yr Uned Iaith ac Adrannau eraill. Amlygwyd bod ymateb drafft wedi ei lunio a bod y Tîm Arweinyddiaeth wedi gwneud cais am weithdy i drafod y manylion yn llawnach. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet y byddai’r Cabinet yn ystyried yr ymateb

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â dangosydd D2 (caniatáu ceisiadau cynllunio lle mae angen mesurau lliniaru iaith Gymraeg) ‘nad oedd ceisiadau wedi cael caniatâd cynllunio ers mabwysiadu’r Cynllun ble bod angen mesurau i liniaru unrhyw niwed sylweddol i’r iaith Gymraeg’, eglurwyd, gan nad oedd niwed wedi ei adnabod yn y datganiadau iaith, nid oedd cyfiawnhad cynllunio i fesurau lliniaru. Ategwyd bod y datganiadau yn cael eu rhesymu a’u hasesu gan yr Uned Polisi a’r Uned Iaith ac y byddai mesurau lliniaru ond yn cael eu gosod petai’r dystiolaeth yn amlygu hynny.

 

            Croesawyd yr adroddiad.

 

            PENDERFYNWYD

·         Bod angen edrych yn fanylach ar drefniadau asesiadau iaith a datganiadau ieithyddol. Awgrymwyd cynnal sesiwn anffurfiol gydag Aelodau’r Pwyllgor i rannu gwybodaeth neu sefydlu gweithgor o Aelodau a Swyddogion i herio’r holl elfennau a dadansoddi’n fanylach. Petai gweithgor yn cael ei sefydlu, awgrymwyd y dylid ystyried gwahodd aelod o’r Pwyllgor Iaith i fod yn aelod o’r gweithgor.

·         Er derbyn bod angen i’r adroddiad gynnwys gwybodaeth ffeithiol a thechnegol, awgrymwyd yr angen i ystyried symleiddio’r ffurf y cyflwynir yr adroddiad yn ysgrifenedig.

·         Amlygu pryderon ynglŷn â dyfodol Wylfa a’r dynodiadau tai sydd bellach ynddiangen

- Bod angen adolygu’r niferoedd

- Bod angen sicrwydd bod caniatadau cynllunio yn ymateb i’r angen

·         Y gellid cydlynu datblygiadau economaidd gyda datblygiadau tai yn well

·         Bod cyfle i edrych ar yr hyn mae gwledydd eraill yn ei wneud yng nghyd-destun tai ar gyfer pobl leol

·         Bod gofyn i bob aelod godi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad sydd yn cael ei gynnal ar y Fframwaith Cenedlaethol (dyddiad cau 1.11.19)

 

 

Dogfennau ategol: