skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2019 o’r Gyllideb Refeniw, gan: 

1)    Nodi fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, a chan fod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi galw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn cael gwell dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb, fel sydd yn digwydd ym maes gofal Plant.

2)    Gofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â'r Pennaeth Adran Plant a Theuluoedd, i fynd at wraidd gorwariant yr Adran a chymryd camau i ddod a’r sefyllfa o fewn rheolaeth ac o fewn y gyllideb erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gan adrodd i'r Cabinet ar y cynllun ymateb.

3)    Caniatáu yr Adran Amgylchedd i neilltuo (£220k) o danwariant yr adran yn dilyn adolygiad barnwrol diweddar o gynllun cyfalaf yn ymwneud â Ffordd fynedfa Llanbedr, o ganlyniad i resymau tu hwnt i reolaeth y Cyngor, gan ei roi mewn cronfa benodol i'r pwrpas.

4)    Gweithredu’r trosglwyddiadau canlynol ar gyllidebau Corfforaethol, 

-       (£240k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

-       (£995k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a chadw.

-       tanwariant net o (£1,632k) ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i leddfu'r risg gorwariant adrannau'r Cyngor yn 2019/20.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas

            PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cyflwyno adolygiad diwedd Awst ar gyfer cyllideb refeniw’r Cyngor. ‘Roedd yr adolygiad yn dangos darlun cymysg gan adrodd fod rheolaeth ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau’r Cyngor. Fodd bynnag amlygwyd y pwysau oedddd ar rai o’r adrannau yn dilyn gwerth £32 Miliwn o arbedion ers 2015 wedi ei gyplysu gyda chynnydd yn y galw am wasanaethau.

Oherwydd graddfa’r gorwariant a ragwelwyd yn yr adrannau Plant (£2.9 miliwn) ac Oedolion (£1.6 miliwn) daethpwyd i’r canlyniad bod angen mynd i wraidd eu hanallu i gadw at eu cyllidebau. Nodwyd bod galw uwch na’r disgwyl ar wasanaethau y ddwy adran, ac ‘roedd yr adran Oedolion hefyd wedi methu gwireddu gwerth bron i filiwn o bunnau o arbedion. Er mwyn ceisio dod a’r sefyllfa o dan reolaeth ‘roedd y Prif Weithredwr eisioes wedi cynull cyfarfodydd gyda’r adrannau er mwyn dechrau ar y gwaith yma, gyda’r bwriad o adrodd yn ol i’r Cabinet maes o law.

Ychwanegwyd bod oddeutu £733k o orwariant gan yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Nid oedd fodd bynnag yn achosi pryder ga ei fod yn cynnwys costau trosiannol oedd yn deillio o newid trefniadau ym maes gwastraff.

‘Roedd yn ddarbodus trosglwyddo arian oedd ar gael oherwydd tanwariant ar gyllidebau Corfforaethol er mwyn lleddfu’r risg gorwariant ar gyfer adrannau’r Cyngor ar gyfer 2019/20.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd pryder am y lefel o orwariant yn yr adrannau Plant ac Oedolion, gan nodi mai dyma oedd canlyniad blynyddoedd o lymder a gwasgfa ariannol.

¾    Nodwyd pryder bod y cynnydd yn y galw yn annisgwyl o uchel yn y sector gofal.

¾    Nodwyd bod yma neges glir i Lywodraeth Cymru yn dilyn blaenoriaethu’r Gwasanaeth Iechyd yn 2019/20. ‘Roedd angen setliad gwell i’r Cyngor er mwyn ymdopi gydag effaith chwyddiant a chynnydd mewn galw.

¾    Er bod y Cyngor wedi ymdopi gyda’r arbedion a’r cynnydd yn y galw, nid oedd sicrwydd fod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi hynny.

Awdur:Ffion Madog Evans

Dogfennau ategol: