skip to main content

Agenda item

I dderbyn adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

 

Cofnod:

·         Cod Morwrol Diogelwch Porthladdoedd

Yn dilyn penderfyniad gan y Pwyllgorau Ymgynghorol bod eitem ar y Cod Diogelwch yn destun eitem agenda pob cyfarfod o’r Pwyllgorau Ymgynghorol cyflwynwyd diweddariad ar y materion cod diogelwch. Eglurwyd bod y Gwasanaeth Morwrol a Pharciau Gwledig yn adolygu’r Cod Diogelwch ar gyfer harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd yn rheolaidd er sicrhau fod holl systemau diogelwch yr harbyrau yn cyd-fynd a gofynion y cod,  disgwyliadau cwsmeriaid a chydymffurfio a gofynion Iechyd a Diogelwch.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Prif Archwiliwr Arolygaeth Asiantaeth Forwrol a Gwarchodwyr y Glannau wedi cynnal adolygiad dilynol o drefniadau a systemau diogelwch harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd yn Mawrth 2019. Cafwyd cadarnhad bod y Cyngor yn cydymffurfio gyda’r disgwyliadau. Amlygwyd nad oedd unrhyw fater neu achos o bryder wedi ei gyflwyno at sylw’r gwasanaeth gan Aelodau o’r Pwyllgor Harbwr yn gysylltiedig â chyfrifoldebau a dyletswyddau statudol yr Harbwr, hyd yma yn 2019.

 

·         Carthu

Yn dilyn gwahoddiad am dendrau ar 'Gwerthwch i Gymru', adroddwyd bod y gwaith o adnewyddu Grwyn y Crud wedi ei gynnig i gwmni Jennings am oddeutu £225,000. Nodwyd, er cwblhau'r gwaith rhagbaratoi angenrheidiol ar gyfer cyflwyno cais am drwydded forol i Gyfoeth Naturiol Cymru, nid oedd y drwydded wedi ei derbyn (er bod drafft o’r cadarnhad wedi ei dderbyn). Atgoffwyd yr Aelodau ei fod yn hanfodol derbyn Trwydded Forol oherwydd bod ôl troed y grwyn yn ymestyn ymhellach na’i ôl troed presennol. Nodwyd nad oedd bwriad ymestyn y trwyn (byddai hyn yn golygu costau ychwanegol a chyfyngiad amser o hyd at 10 mlynedd). Ategwyd bod y cynllun yn ddyluniad da a’r newyddion yn galonogol. Bydd y grwyn gwreiddiol yn cael ei chwalu a’r grwyn newydd yn cael ei hadeiladu o garreg.

Mewn ymateb i’r cynllun datganwyd siom nad oedd modd strwythuro ac ehangu trwyn y grwyn fel datrysiad delfrydol ac yn unol â’r wir angen. Er yn derbyn bod angen dechrau ar y gwaith, awgrymwyd hefyd ceisio cynllunio ymlaen ar gyfer datrysiad tymor hir. Cynigiwyd cysylltu gyda’r Aelod Cynulliad Dafydd Elis Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (etholaeth Dwyfor a Meirionnydd) i dynnu sylw at reolau caeth Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd a rhwystrau mewn deddfau a pholisïau amgylcheddol ar gyfer adeiladu grwyn effeithiol. Ategwyd bod yr Harbwr yn adnodd gwerthfawr i ddenu twristiaid i’r ardal ac o fudd economaidd i’r Sir.

 

·         Lagŵn Distyllu

Amlygwyd bod oddeutu 18,000 ciwb o waddod wedi ei garthu o fasn y sianel ar harbwr a bod angen ystyried dulliau amgen o’i waredu cyn dechrau'r ymgyrch nesaf.

 

·         Gwaith Carthu

Bod cwmni ‘Royal Smals’ wedi cwblhau’r gwaith carthu yn y sianel fordwyo ac ym masn yr Hafan/Plas Heli. Adroddwyd mai £140,000 oedd pris y gwaith - y cwmni wedi gweithio mewn dull effeithiol a didrafferth heb amharu ar waith yr harbwr mewn unrhyw ffordd.

 

·         Tomen Dywod

Adroddwyd bod y domen dywod ger ceg yr Harbwr bron yn llawn ac nad oedd modd ymgymryd ag unrhyw waith carthu sylweddol ychwanegol hyd fod y tywod a gro wedi ei waredu o’r safle. Nodwyd bod y Cyngor yn y broses o hysbysebu cyfleoeddi gwmnïau brynu’r tywod drwy 'Gwerthwch i Gymru'. Nodwyd hefyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ail leoli’r tywod ar draethau cyfagos Abererch a Thraeth Cruggan. Ategwyd mai Cyngor Gwynedd fyddai’n gorfod symud y tywod pe bae’r penderfyniad i wneud hynny.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiadau.

 

Dogfennau ategol: