Newid defnydd adeilad amaethyddol i weithdy mecanig trin peiriannau cychod (Defnydd Dosbarth B1)
AELOD LLEOL: CYNGHORYDD DAFYDD MEURIG
Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol
Cofnod:
Newid
defnydd adeilad amaethyddol i weithdy mecaneg trin peiriannau cychod (Defnydd
Dosbarth B1)
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd
Roedd yr Aelodau
wedi ymweld ar safle
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod y cais yn ymwneud â throsi adeilad
amaethyddol presennol yn weithdy trin peiriannau cychod. Nodwyd ei fod yn gais
ôl weithredol gan i’r defnydd o’r adeilad eisoes fod wedi dechrau.
Eglurwyd bod y bwriad yn cynnwys defnyddio’r adeilad yn bennaf ar gyfer
trwsio a rhoi gwasanaeth i beiriannau cychod ynghyd â storio cyfarpar morwrol
ar gyfer gwerthiant ar-lein yn bennaf.
Amlygwyd bod y busnes yn cyflogi naw aelod staff llawn amser gyda’r
bwriad o wasanaethu hyd at bum cwsmer y diwrnod (a fydd yn mynychu’r safle trwy
apwyntiad yn unig). Fe fyddai pum gofod
parcio ar gyfer cwsmeriaid ar y safle, pump yn benodol ar gyfer staff a saith
gofod ar wahân ar gyfer parcio cyffredinol.
Fe fyddai hefyd gofod penodol ar gyfer cadw hyd at bedwar cwch ar y
safle. Dywed y Datganiad Cynllunio a gyflwynwyd, y disgwylir hyd at bum
cludiant nwyddau / cychod i’r safle bob wythnos yn ystod yr haf gyda llai yn y
gaeaf.
Lleolir y safle gerllaw adeiladau cyn fferm Tal y Bont Uchaf, sy’n cynnwys
tŷ sylweddol, anecs ac adeiladau allanol ac sy’n adeilad rhestredig (Gradd
II). Mae’r mynediad o’r ffordd gyhoeddus ar hyd trac preifat sydd ag oddeutu 120m ohono’n llwybr cyhoeddus. Mae’r adeilad mewn
ardal wledig oddeutu 1.2 km i’r dwyrain o ffin ddatblygu pentref Llandygai.
Gohiriwyd gwneud penderfyniad yng nghyfarfod Pwyllgor
Cynllunio ar 23/09/19 er caniatáu trefnu ymweliad safle ac er mwyn ymgymryd ag asesiad pellach o effaith mwynderol y drafnidiaeth sy’n
defnyddio’r safle ar yr ardal leol.
Amlygwyd nad oedd gan yr Uned
Drafnidiaeth wrthwynebiad i'r bwriad gan ddatgan na thybiwyd y byddai’r
datblygiad yn cael effaith andwyol ar unrhyw ffordd. Fodd bynnag, fe nodwyd bod cryn wrthwynebiad wedi dod o’r gymuned leol yn
honni bod y cynnydd sydd wedi digwydd yn y drafnidiaeth eisoes yn niweidiol i
ddiogelwch y ffordd a mwynderau lleol. (Dyma oedd sail cynnal ymweliad).
Wrth ystyried defnydd blaenorol yr adeilad at ddefnydd
amaethyddol nodwyd nad oedd dim i rwystro cerbydau /
peirannau sylweddol rhag mynd a dod i’r safle at y diben hwnnw. Yn ogystal, wrth ystyried natur gyfyngedig y
safle, ni ystyriwyd bod gofod digonol i ymestyn y
busnes y tu hwnt i’w ffiniau presennol ac felly bydd maint y safle ynddo’i hun
yn cyfyngu ar faint y drafnidiaeth.
Wedi pwyso a mesur
y cais a’r cynlluniau diwygiedig yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ynghyd
a’r holl sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori,
ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu gyda’r amodau perthnasol ac
na fyddai niwed annerbyniol yn deillio o’r datblygiad i
fwynderau cymdogion na’r ardal ehangach.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau
canlynol. Nododd ei fod yn Gadeirydd Cyngor Cymuned, yn cynrychioli preswylwyr
y lon sydd yn arwain at fynedfa'r busnes ac yn un o’r
preswylwyr hynny oedd wedi mynegi pryderon. Ategodd ei fod yn cefnogi
sylwadau'r Aelod Lleol a gyflwynwyd 23.9.19.
·
Cais
ôl weithredol sydd yn cael ei gyflwyno, felly preswylwyr yn gwybod beth yw
effaith y cais ar fwynderau preswylwyr lleol
·
Gwrthwynebu
ar sail effaith andwyol a sylweddol ar fwynderau preswyl i’r ardal gyfagos o
ganlyniad i symudiad y traffig (Polisi Cynllunio PCYFF2)
·
Bod
cynnydd sylweddol i draffig - dim am
gydnabod y log cludiant a gyflwynwyd gan nad oedd yn cydsynio gyda phrofiadau
preswylwyr
·
Preswylwyr
wedi gorfod newid patrymau cerdded
·
Llongyfarch
y cwmni ar eu llwyddiant. Er hynny, tynnwyd sylw at y datganiad cynllunio lle
amlygi’r bod bwriad i’r busnes barhau i dyfu a hynny yn y gobaith mewn stad
ddiwydiannol gyfagos
·
Gwrthod
ar sail effaith andwyol ar ddiogelwch defnyddwyr Lôn y Gatws. Cyfeiriwyd at
Polisi TRA4 lle nodi’r dylid gwrthod ar sail peri niwed annerbyniol i
weithrediad diogel ac effeithlon y briffordd. 4 preswylydd ifanc yn byw yma;
defnydd pramiau a hefyd yn llwybr beicio rhif 5 cenedlaethol
·
Derbyn
na all y cwmni reoli dewis gyrwyr pa ffordd a ddefnyddir i gludo nwyddau
·
Cais
yn groes i bolisi allweddol ar gyfer budd ardal wledig CYF6 ‘annog datblygiadau
ar raddfa fach ac sy’n gweddu ardal wledig’
·
Anghytuno
ar yr ymgais i gymharu traffig y busnes gyda thraffig amaethyddol
·
Ffermwyr
yn adnabod yr ardal ac yn fwy sensitif i anghenion trigolion lleol
c) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn
unol â’r argymhelliad
ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y busnes yn
cyflogi 9 o bobl, y safle yn daclus, dim pryderon sŵn
·
Pryderon ynglŷn â mynediad
·
Bod modd annog defnydd o gyfeiriad arall i gyrraedd y safle
sydd â mannau pasio a llai o effaith ar breswylwyr
·
Awgrym i osod arwyddion e.e., dim mynediad (i’r dde)
wrth adael y safle
·
Angen ystyried diogelwch cerddwyr a beicwyr
·
Er yn cefnogi
diwydiannau bach yng nghefn gwlad mae’n rhaid gwrando hefyd ar y pryderon
lleol. Os pryderon am ddiogelwch ac aflonyddwch, bydd angen cymryd sylw o
wrthwynebiadau cryf
·
Anodd gwahaniaethu rhwng trafnidiaeth busnes a
thrafnidiaeth ffarm o ran diogelwch.
d)
Cynigiwyd gwelliant i’r cynnig i ohirio’r penderfyniad
er mwyn cael cyfle i gynnal trafodaeth bellach gyda'r ymgeisydd i geisio
lliniaru’r pryderon fel na fydd unrhyw anhwylustod i’r trigolion lleol
dd) Mewn
ymateb i’r sylwadau nododd Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu bod dwy ffordd
yn arwain at y safle ac felly anodd fyddai i’r Uned Trafnidiaeth wrthwynebu’r
cais.
Mewn ymateb i’r
sylwadau nododd Pennaeth Cynorthwyol
Cynllunio ac Amgylchedd bod angen mesur yr effaith ar fwynderau preswylwyr yn
erbyn y budd economaidd. Ategwyd mai anodd fyddai rheoli cyfeiriad trafnidiaeth
y busnes heb orfod cyfyngu’r rhwydwaith i bawb. Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol lle amlygwyd bod yr ymgeisydd yn ceisio annog cwsmeriaid a chwmnïau
dosbarthu i ddefnyddio mynedfa Ponc y Lon. Nododd bod posib ystyried gosod
arwyddion o dan drefn rheoliadau trafnidiaeth, codi ymwybyddiaeth ac annog
defnyddwyr i newid cyfeiriad ond anodd fyddai gorfodi un
cyfeiriad.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer damweiniau
/ cwynion ar y ffordd, nododd y Rheolwr Cynllunio nad oedd gwybodaeth am
ddamweiniau wedi ei gyflwyno ond roedd yr Uned Gorfodaeth wedi derbyn cwynion.
Mewn ymateb i’r gwelliant, amlygodd yr Uwch
Gyfreithiwr mai gweithredoedd gwirfoddol i’r ymgeisydd ei ystyried oedd yn
amlwg ac nid materion fuasai yn cael eu gorfodi drwy orfodaeth neu amodau.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chlymu defnydd
i’r gweithredwr i leddfu pryderon i’r dyfodol petai’r defnydd diwydiannol yn
newid, amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod yr ymgeisydd bellach yn berchennog ar y
tŷ ac felly byddai modd gosod amod fel bod hyn yn parhau.
Nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd
bod ystyriaeth ddwys wedi ei roi i’r pryderon ac awgrymodd na
fyddai gwerth i drafodaethau pellach. Ategodd bod modd rhoi amod fyddai yn
clymu'r defnydd i’r gweithredwr ac y byddai modd dirprwyo’r hawl i drafod
cynllun gwirfoddol gyda phresenoldeb y swyddog trafnidiaeth.
e)
Pleidleisiwyd ar y gwelliant - disgynnodd y gwelliant
f)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais gan ychwanegu
amod clymu defnydd i’r gweithredwr
PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn
ddarostyngedig i’r amodau canlynol :
·
5 mlynedd
·
Datblygiad yn cydymffurfio gyda’r cynlluniau a
gymeradwywyd
·
Cyfyngu’r defnydd i Ddosbarth Defnydd B1
(diwydiant ysgafn) yn unig
·
Dim yn agored i’r cyhoedd nac i dderbyn cyflenwadau
y tu allan i oriau 08:00 – 16:30 (Llun i Gwener yn unig)
·
Amod(au) Cyfoeth Naturiol Cymru fel bo angen
·
Clymu’r defnydd busnes i’r eiddo a adnabyddir
fel Tal y Bont Uchaf
Dogfennau ategol: