Adroddiad gan Jane Richardson – Cadeirydd Grŵp Swyddogion Gweithredol y Bwrdd Uchelgais.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Jane Richardson, Cadeirydd y Grŵp
Swyddogion Gweithredol.
PENDERFYNWYD
1.
Derbyn yr adroddiad ar
y Rhaglen Waith yn amodol fod statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith yn
cael ei adolygu a’i ddiweddaru erbyn y cyfarfod nesaf, a gofyn i’r Grŵp
Swyddogion Gweithredol ail-edrych ar ffurf y tabl pan fydd y Cyfarwyddwr Rhaglen
mewn lle.
2.
Cadarnhau y bwriad i
ail-hysbysebu swydd Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes.
3.
Cymeradwyo’r Cynllun
Trosiannol.
4.
Awdurdodi’r Corff
Atebol i ymrwymo i brydles ar swyddfa yng Nghanolfan Fusnes Conwy yn unol â’r
adroddiad, a chytuno â thelerau eraill yn unol â chyngor Pennaeth Eiddo’r Corff
Atebol, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Cyllid Statudol.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Diweddaru ar gynnydd tasgau’r
Rhaglen Waith a sicrhau bod cynnwys y tabl yn fwy
eglur.
Adrodd ar y Cynllun Trosiannol
fel dogfen gefnogol i’r Rhaglen
Waith nes bydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn cychwyn
y swydd.
Mae’r Bwrdd Uchelgais angen adnabod gofod
swyddfa addas ar gyfer y Swyddfa
Rhaglen.
TRAFODAETH
Ymhellach i baratoi’r adroddiad,
nododd Cadeirydd y Grŵp Swyddogion Gweithredol fod Llywodraethau Prydain a Chymru bellach yn fodlon gyda
Phenawdau’r Telerau a’u bod yn aros
am gadarnhad o amgylch y trefniadau ar gyfer
arwyddo Penawdau’r Telerau yn ffurfiol. Roedd datganiad i’r wasg
wedi ei ddrafftio
ac roedd datganiad mewnol yn cael
ei baratoi hefyd.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Nododd
Arweinydd Cyngor Sir Fflint
na dderbyniodd
wahoddiad i gyfarfod cyntaf yr is-grŵp Trafnidiaeth.
·
Nododd
Prif Weithredwr Cyngor
Gwynedd na dderbyniwyd pŵl digonol o ymgeiswyr ar gyfer swydd
Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes. Argymhellwyd ail-hysbysebu’r swydd, gan hysbysu’r sawl
sydd wedi ymgeisio eisoes y bydd eu cais
yn dal i gael ei ystyried. Cytunwyd i ail-edrych ar yr
hysbyseb a’r wybodaeth ynglŷn â’r rôl i
sicrhau eu bod yn taro’r nodyn
cywir. Pwysleisiwyd pwysigrwydd penodi person sy’n arweinydd ac yn adnabyddus yn yr
ardal ac yn rhanbarthol ac awgrymwyd cynnal trafodaeth Chadeirydd y Bwrdd Cysgodol i weld sut mae denu ymgeiswyr. Anogwyd y gymuned fusnes i hyrwyddo’r cyfle
hwn hefyd.
·
Nodwyd
bod y swyddogion yn anelu at gyflwyno’r Cynllun Busnes am arian ESF i
WEFO erbyn 31 Hydref, ond holwyd beth
fyddai’n digwydd i’r arian petai
Prydain yn gadael yr Undeb
Ewropeaidd ar y dyddiad hwnnw. Gofynnwyd i Gadeirydd y Grŵp
Swyddogion Gweithredol drafod hyn gyda’i
chyd-swyddog yng Nghyngor Conwy sy’n arbenigo ar faterion
Brexit.
·
Mynegwyd
pryder nad
oedd y sector breifat yn deall yr
amserlen, ac er eu bod yn barod
i gychwyn ar eu cynlluniau,
nid oedd modd iddynt ddatblygu’r
modelau busnes pum achos ar
gyfer prosiectau’r Cynllun Twf hyd
oni fo Penawdau’r
Telerau wedi eu harwyddo’n ffurfiol. Nodwyd bod yr oedi wedi’i
greu gan y ddwy Lywodraeth a bod Cynllun Twf y Gogledd
wedi wynebu mwy o rwystrau na chynlluniau
tebyg mewn rhanbarthau eraill. Pwysleisiwyd bod angen cyfathrebu’r neges ynglŷn â’r amserlen i’r
gymuned fusnes a chytunodd Cadeirydd y Grŵp Swyddogion Gweithredol i gynnwys
nodyn ar hynny yn y datganiad
i’r wasg.
·
Nodwyd
bod y wybodaeth yng ngholofnau’r tabl sy’n nodi’r cynnydd
ar y gwahanol gynlluniau ar y rhaglen waith yn
amwys a galwyd am adolygu ffurf y ddogfen, gan, o bosib’, ei gosod
allan ar fwy o ffurf naratif. Cytunwyd i basio’r sylw
yma ymlaen i’r Grŵp Gweithredol.
·
Nodwyd
nad oedd
y rhaglen waith yn cyfeirio at y broses yn dilyn arwyddo
Penawdau’r Telerau ac y byddai’n fuddiol cael gwybod beth
yw’r amserlen dros y 12 mis nesaf.
·
Mynegwyd
pryderon ynglŷn â’r bylchau yn
y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sydd allan i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd,
a chytunwyd i gynnwys y mater ar raglen cyfarfod 15 Tachwedd o’r Bwrdd.
·
Awgrymwyd
bod y Cynllun Trosiannol yn fwy o gynllun
gwaith na
chynllun trosiannol. Eglurwyd y byddai’r ddogfen yn esblygu i
fod yn gynllun
gwaith maes
o law, ond y byddai’n weithredol am ychydig fisoedd yn unig.
Dogfennau ategol: