Cyflwyno adroddiad ysgrifenedig gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.
Cofnod:
Tywysodd
y Swyddog
·
Bod lleihad yn y nifer o angorfeydd
blynyddol o gymharu â 2014,
oedd yn adlewyrchu’r
economi ehangach;
·
O ran y Cod Diogelwch
·
Y gwerthfawrogir sylwadau ar gynnwys y Cod gan yr aelodau;
·
Bod y gwasanaeth yn awyddus i
ddatblygu Mesuryddion Perfformiad mewn perthynas â rheolaeth yr harbyrau ac y gwahoddir syniadau neu awgrymiadau cychwynnol gan yr aelodau;
·
Cyfeiriwyd at absenoldeb aelod o staff oherwydd salwch a nodwyd bod Cymorthyddion Harbwr yn llenwi’r bwlch
er ceisio sicrhau gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos
ar gyfer defnyddwyr;
·
Bod oedi o ran symud y deunydd a garthwyd yn yr
Harbwr oherwydd y disgwylir am gadarnhad o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd y gobeithir cwblhau’r gwaith erbyn diwedd
Mawrth 2016;
·
Ystyrir neilltuo cyllid o £50,000 yn flynyddol ar gyfer
gwneud gwaith carthu yng Ngheg
yr Harbwr a gobeithir gwneud y gwaith blwyddyn nesaf, yr un adeg
a symud y deunydd a garthwyd yn yr
Harbwr;
·
Manylwyd ar gyfrifon
2014-15 yr Harbwr a’r Hafan;
·
Bwriedir cynyddu ffioedd yr Hafan
ar gyfer blwyddyn ariannol 2015-16 yn unol â chwyddiant
a rhewi ffioedd yr Harbwr Allanol
er mwyn annog
unigolion i gymryd angorfa;
·
Bod pryderon o ran
diogelwch a chostau cynnal offer rheoli cwch yr harbwr
ac asesir opsiynau o ran ei newid;
·
Yn dilyn derbyn pryderon
o ran ansawdd y disel coch a ddarperir yn yr Harbwr
gan Gymdeithas Masnachwyr
·
Gwneir gwaith i leihau’r bwnd
a diffinio llwybr cyhoeddus wrth ymyl Plas Heli
gan osod ffens o ran diogelwch. Ymgynghorwyd efo Swyddog Llwybrau’r Cyngor a oedd yn
gefnogol i’r bwriad;
·
Aseswyd opsiynau talu ar
gyfer defnyddwyr yr Harbwr a ffafrir
Standing Order yn hytrach
na Debyd
Uniongyrchol. Nodwyd yr edrychir ar
yr opsiwn o dalu Standing Order dros gyfnod o 12 mis yn hytrach na 7 mis os arwyddir cytundeb
cyn canol mis Chwefror.
Tynnodd
y Swyddog
Gofynnwyd
yn ogystal i’r aelodau am eu barn o ran addasu ardal parth cyflymder
uchaf ardal traeth Glandon er hwyluso gweithgareddau
hamdden. Nododd yr aelodau bod angen bod yn ofalus
o ran diogelwch defnyddwyr
a dylid ystyried y posibilrwydd o greu ardaloedd nofio dynodedig.
PENDERFYNWYD bod y Swyddog
Manylodd Rheolwr Harbwr Pwllheli ar y rhaglen waith
cynnal a chadw a gofynnwyd i aelodau
hysbysu’r gwasanaeth o unrhyw waith arall
sydd angen ei wneud.
Gofynnwyd
am farn yr aelodau o ran symud angorfeydd yr harbwr
allanol o ardal 5 i 6 i ardal
7 yn wyneb y ffaith bod yr ardal
wedi cau i fyny yn
sylweddol a’r costau o ran eu cynnal a chadw. Nodwyd y byddai symud yr
angorfeydd yn cynyddu lled y sianel.
Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Hafan
Pwllheli y dylid rhoi amser i aelodau drafod y mater efo’u mudiadau.
PENDERFYNWYD
bod mudiadau unigol yn cysylltu efo’r Gwasanaeth
Yn
ystod y cyfarfod ymatebwyd i sylwadau’r
aelodau gan y swyddogion fel a ganlyn:
·
O ran gwaddod yn cynyddu yn
fynedfa’r Harbwr, nodwyd bod banc yn ffurfio tu
allan i’r fynedfa ac asesir y sefyllfa gan fyddai’n
bosib i’r gwaddod symud yn
ddibynnol ar y tywydd;
·
Bod nifer isel o unigolion
yn cael trafferth
i ddod i
mewn i’r Harbwr;
·
Mewn ymateb i sylw gan
aelod bod golau diogelwch cwmni Blue Water Marine yn
gallu dallu unigolion yn ceisio
dod i mewn
i’r Harbwr, gofynnwyd i gynrychiolydd
Cymdeithas Masnachwyr
·
Yr edrychir i mewn
i gostau uwch yng nghyswllt
nwy a thrydan yn yr Hafan;
·
Ychwanegir colofn i’r adroddiadau
cyllidol er mwyn cynnwys ffigyrau’r
flwyddyn ariannol flaenorol yn y dyfodol;
·
Er ceisio denu mwy o unigolion
yr ystyrir llunio pecynnau arbennig.
Rhoddwyd diweddariad ar
weithgareddau a gynhaliwyd ym Mhlas Heli ers ei agoriad gan gynrychiolydd Clwb
Hwylio Pwllheli, sef:
·
Optimist European
Championships,
·
Optimist UK Championship,
·
29er UK Championship,
·
29er World
Championships,
·
Fireball
World Championships,
·
IRC Welsh National Championships.
Diolchwyd a
llongyfarchwyd cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a’r holl staff am eu gwaith a
llwyddiant y gweithgareddau.
Adroddodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned yn dilyn cyflwyno sylwadau a
wnaed gan yr aelodau yn y gweithdy lle ystyriwyd y Strategaeth Garthu drafft
i gwmni ARUP Associates, bod gwaith asesu
effaith wedi ei baratoi. Nodwyd bod trafodaethau yn parhau gyda Chyfoeth Naturiol
Cymru ac edrychir ar sefydlu hawliau awdurdod harbwr rhag gorfod llenwi
ffurflenni cais am hawliau unigol.
Ychwanegwyd y cynhelir cyfarfod efo cwmni ARUP Associates
yr wythnos nesaf ac y cylchredir yr adroddiad terfynol i aelodau’r Pwyllgor
Ymgynghorol.
Dogfennau ategol: