Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a
materion gweithredol yr harbwr.
·
Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn
diweddaru’r pwyllgor ar faterion yr Harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref
2019 a mis Mawrth 2020.
·
Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion
Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Hydref 2019 a
mis Mawrth, 2020, gan gynnwys materion cynnal a chadw.
Dosbarthwyd:-
·
Manylion ffioedd a thaliadau Harbwr Porthmadog
ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2020 ac Ebrill 2021, ynghyd â’r ffioedd lansio
ar gyfer cychod pŵer a chychod personol ar gyfer yr un cyfnod.
·
Llythyr Tŷ’r Drindod dyddiedig 10 Hydref
2019, yn sgil eu harchwiliad blynyddol o gymorthyddion mordwyo yn yr Harbwr a
dynesfa’r sianel rhwng 14 ac 16 Hydref, 2019.
Nododd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig fod y rhan fwyaf o’r gwaith
oedd angen sylw wedi’i gwblhau bellach, ond gofynnodd i’r aelodau roi gwybod pe
byddent yn sylwi bod bwiau wedi symud o’u lleoliad cywir.
Cyfeiriodd y
Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig at y tywydd garw diweddar gan nodi y bu’n
anarferol iawn gweld cymaint o stormydd yn cyrraedd un ar ôl y llall mewn
cyfnod mor fyr. Yn ffodus iawn, roedd
cyfeiriad y gwynt wedi bod yn ffafriol y tro hwn, ac ni chafwyd unrhyw ddifrod
yn yr Harbwr, ac eithrio bod ychydig o flociau wedi’u codi a rhai bwiau wedi’u
symud. Roedd staff y gwasanaeth wedi bod
ar alwad, yn gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn, a diolchwyd iddynt am eu
hymrwymiad y tu hwnt i’w swyddi.
Gofynnwyd pa mor
bryderus oedd y gwasanaeth ar adeg y stormydd diweddar. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol a
Pharciau Gwledig fod y ffaith bod y gwynt cryfaf wedi taro ar benllanw uchel
wedi bod yn fater o bryder, ond y byddai’r sefyllfa wedi bod yn llawer gwaeth
petai cyfeiriad y gwynt wedi bod yn llai ffafriol i Borthmadog. Cadarnhawyd nad oedd yna unrhyw beth penodol
y gallai’r pwyllgor wneud am y sefyllfa, ac eithrio gadael i’r swyddogion wybod
os oeddent yn pryderu am unrhyw beth, a phwysleisiwyd bod y digwyddiadau tywydd
eithriadol hyn yn amlygu bod dyletswydd ar bawb i warchod yr amgylchedd.
Adroddodd y
Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig ymhellach:-
·
Iddo gael trafodaeth gyda Chyngor Tref Cricieth
yn sgil eu cais i’r Cyngor ystyried dulliau amgen o gadw rheolaeth ar gychod
pŵer yn dilyn digwyddiad. Roedd
rhwystredigaeth y Cyngor Tref yn ddealladwy, ond roedd y Cyngor Tref hefyd yn
deall pa mor gyfyngedig oedd pwerau’r Cyngor.
Rhoddwyd addewid y byddai’r gwasanaeth yn cryfhau eu goruchwyliaeth ac
yn ceisio gwella’r cymorthyddion mordwyo yn y bae. Derbynnid hefyd bod yna fusnesau yn ddibynnol
ar y cychod ac roedd y swyddog yn falch o’r cyfle i drafod y mater gyda’r
Cyngor Tref.
·
Na dderbyniwyd unrhyw fater diogelu harbwr gan
unrhyw aelod dros y 6 mis diwethaf.
Gofynnwyd i’r aelodau gysylltu pe dymunent gopi o’r cod, gan hefyd roi
gwybod pe byddai ganddynt fater i’w godi.
·
Bod y crynodeb o’r cyllidebau’n amlygu effaith
y lleihad yn y gofyn (i ddod â chychod i mewn i’r harbwr / rhoi cychod ar
angorfa) ar yr incwm. O’r targed incwm
am y flwyddyn o £73,000, £60,000 yn unig oedd wedi’i dderbyn hyd yma, ac nid
oedd yna lawer o botensial i wneud rhagor o incwm dros y mis nesaf. Golygai hynny orfod gwneud arbediad o £13,000
i gwrdd â’r diffyg, a gan na ddymunid torri ar y ffactorau oedd yn effeithio ar
ddiogelwch yr harbwr, bwriedid edrych ar y gyllideb harbyrau yn ei chyfanrwydd
er mwyn oedd yna lefydd yn gwneud yn well na’r disgwyl, neu feysydd oedd yn tanwario. Rhagwelid gorwariant o tua £10,000 erbyn
diwedd y flwyddyn o gymharu â’r targed o £13,000. Byddai’n dda gostwng y ffigur i £0 fel bod y
gwasanaeth yn talu am ei hun. Nodwyd
hefyd y rhoddid cyfleoedd i’r sector hwylio drwy gael eraill i gynnal prosiectau
yn yr harbyrau.
Mewn ymateb i
gwestiwn, eglurodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig, er y ceisiwyd cefnogi
digwyddiadau yn yr Harbwr yn y gorffennol, megis yr Ŵyl Fwyd, y
rhybuddiwyd trefnwyr digwyddiadau masnachol o’r fath y byddai’r Cyngor yn codi
ffi arnynt eleni oherwydd y costau ynghlwm â chlirio’r safle, ayb. Cytunodd aelodau ei bod yn briodol i beidio
codi ffioedd neu i gynnig ffioedd rhatach i ddechrau, ond y dylai digwyddiadau
fod yn gyfrifol am ysgwyddo’r gost ar ôl sefydlu eu hunain.
Holwyd a oedd
angen blaengynllunio ar gyfer y lleihad yn y defnydd o gychod hwylio a’r
cynnydd yn y defnydd o gychod pŵer?
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig fod hyn yn
dueddiad cenedlaethol. Roedd pobl sy’n
hwylio yn dueddol o fod yn bobl hŷn, ac roedd yn anodd cael pobl ifanc i
mewn i’r maes gan fod yna fwy o bwyslais ar weithgareddau antur erbyn hyn. Roedd y lleihad wedi sefydlogi bellach, ac
nid oedd yna dir ym Mhorthmadog ar gyfer y gwasanaethau eraill. Eglurwyd ymhellach bod argymhelliad i
gynyddu’r ffi lansio cychod pŵer i £15 yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond
na fyddai’r tocyn ffi blynyddol yn codi.
Gan gyfeirio at
angen y Grid Cenedlaethol i gludo trawsnewidydd mawr drwy Harbwr Porthmadog ar
long, er mwyn ei gludo ymlaen i orsaf bŵer Trawsfynydd ar hyd y ffordd,
nododd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig y bu mewn trafodaethau’n ddiweddar
gyda’r Grid Cenedlaethol ac Adran Briffyrdd Llywodraeth Cymru ynglŷn â
dulliau amgen o ddod â’r trawsnewidydd i’r lan.
Trafodwyd yr opsiwn o ddefnyddio traeth Morfa Bychan i’r diben hwn. Roedd arolygon topograffig a hydrograffeg
wedi dangos y byddai angen llanw o 4.5 metr neu uwch, a gan y byddai’r llong yn
bellach allan i’r môr na’r disgwyl, byddai angen mwy o drac i gyrraedd
ati. Nodwyd hefyd y byddai angen
trwydded forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru i osod trac ar y traeth a’i godi
wedyn, ac y byddai yn ei le am 24 - 48 awr yn unig. Roedd yn ymddangos bod y Grid Cenedlaethol yn
cynhesu at y syniad hwn, ond ni ellid cadarnhau beth fyddai’r trefniadau ar hyn
o bryd. Gobeithid dod i benderfyniad
erbyn yr wythnos ddilynol, gan weithio gyda’r cwmnïau wedyn.
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â maint y lori fyddai’n cludo’r trawsnewidydd ar hyd y ffordd,
eglurodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n rhaid cau’r ffordd am
gyfnod, gan symud unrhyw rwystrau ar ochr y lôn. Hefyd, byddai’n rhaid i’r daith ddigwydd yn
ystod golau dydd gan fod rhaid i’r gweithwyr fedru gweld popeth fyddai’n
digwydd o’u cwmpas.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â phwy fyddai’n gyfrifol am gost y gwaith, nododd y
Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig na ragwelai na fyddai’r cwmni yn ysgwyddo’r
gost, a’i fod yn sicr na fyddai’r gost yn disgyn ar Gyngor Gwynedd na’r Clwb
Hwylio.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag amseriad y gwaith, eglurodd y Rheolwr Morwrol a
Pharciau Gwledig ei bod yn debygol y byddai’n digwydd tua diwedd Ebrill /
dechrau Mai. Cadarnhaodd y byddai’n
trafod y gofynion o safbwynt cau ffyrdd, ac ati, ym Morfa Bychan gyda’r aelod
lleol.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd
rhoi gwybod i aelodau’r pwyllgor hwn unwaith y bydd dyddiad y gwaith a’r
trefniadau wedi’u cadarnhau, gan hefyd ymgysylltu’n llawn â’r trigolion lleol a
rhoi ystyriaeth hefyd i anghenion mynediad y gwasanaethau brys. Cadarnhaodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau
Gwledig y byddai’n gwarchod diddordebau pawb fel aelodau lleol ac fel aelodau
o’r pwyllgor.
Nodwyd y byddai
angen i’r Adran Briffyrdd rybuddio pobl sy’n parcio ar ochr y ffyrdd i symud eu
ceir ymlaen llaw. Nodwyd hefyd bod angen
cofio am bobl Dwyrain Porthmadog gan fod cau’r ffordd yn mynd i effeithio ar
bobl.
Yn wyneb y ffaith
y byddai cau ffyrdd, ac ati, yn digwydd ar adeg brysur yn y dref, holwyd a oedd
yna gyfle i gymdeithasau’r dref gyflwyno bid am arian o gynllun buddion
cymunedol y National Grid? Awgrymwyd y
gellid o bosib’ gyflwyno cais drwy’r Cyngor Tref. Nododd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig y
byddai’n codi hyn er mwyn gweld beth fyddai’n bosib’.
Nododd y Rheolwr
Morwrol a Pharciau Gwledig y bu camsyniad yn y wasg yn ddiweddar, ac er
eglurder, cadarnhaodd nad oedd dyfodiad y trawsnewidydd yn gysylltiedig ag
unrhyw gynlluniau i sefydlu gorsaf niwclear fechan yn Nhrawsfynydd.
Nododd yr aelod
lleol ei fod yn falch o weld yr arwyddion diogelwch ychwanegol wrth ddynesu at
y traethau ger Borth y Gest, er y bu rhywfaint o wrthwynebiad iddynt yn
lleol. Diolchodd y Rheolwr Morwrol a
Pharciau Gwledig i’r aelod lleol am ei gefnogaeth gyda’r arwyddion a’r wal
fôr. Diolchodd hefyd i aelodau’r
pwyllgor am eu cefnogaeth a’u parodrwydd i gydweithio.
PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: