skip to main content

Agenda item

I dderbyn adroddiad blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2018/19

Cofnod:

a)    Nodyn gan y Cadeirydd – y Cynghorydd John Pughe Roberts

 

Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn. Mynegodd y Cadeirydd bod 2018/19 wedi bod yn flwyddyn drosiannol gyda 60% o asedau’r gronfa bellach wedi eu trosglwyddo i gronfeydd Partneriaeth Cymru. Nodwyd y cafwyd dychweliadau buddsoddi o 7.6% am y flwyddyn gan asedau’r Gronfa o’i gymharu ar’ gyfartaledd o 6.6% a ddychwelwyd gan gronfeydd CPLlL (a chwartil uchaf o 7.2%). O ganlyniad roedd cyfanswm gwerth y Gronfa yn codi i fwy na 2 biliwn ar 31 Mawrth 2019. Ategwyd bod twf parhaus mewn gwerth asedau yn parhau’n galonogol a’r gronfa mewn sefyllfa gymharol ffafriol gyda’r Actiwari wedi cyhoeddi bod y Gronfa bellach wedi’i ariannu 108% yn y Prisiad ar 31/03/2019. 

 

Eglurwyd, er bod sefyllfa cyflogwyr unigol yn y Gronfa yn wahanol, yn gyffredinol mae cryfder y Gronfa wedi caniatáu cymryd agwedd hyblyg tuag at gyfraddau cyfraniadau cyflogwyr fydd yn effeithiol o Ebrill 2020. Amlygwyd bod y mwyafrif o’r cyflogwyr wedi derbyn hysbysiad o’u lefel cyfraniadau pensiwn diwygiedig, fydd yn eu cynorthwyo gyda’r sefyllfa ariannol yn wyneb y gwasgu parhaus ar wariant cyhoeddus.

 

Diolchwyd i’r holl swyddogion sydd yn gweinyddu’r Gronfa, gyda sylw arbennig i Nicholas Hopkins (Rheolwr yr Uned Weinyddu) a Caroline Roberts (Rheolwr Buddsoddi). Ategwyd bod Nick Hopkins a Caroline Roberts yn ymddeol a dymunwyd ymddeoliad hapus i’r ddau. Cyhoeddwyd bod Meirion Jones wedi ei benodi fel Rheolwr newydd ar gyfer yr Uned Weinyddu a Delyth Jones-Thomas wedi ei phenodi fel Rheolwr Buddsoddi. Llongyfarchwyd y ddau ar eu penodiadau. Diolchwyd i Tony Deakin sydd yn sefyll i lawr fel aelod o’r Bwrdd Pensiwn ers iddo ymddeol am ei gyfraniad i waith y Bwrdd a llongyfarchwyd Osian Richards ar gael ei ethol yn gadeirydd newydd y Bwrdd.

 

b)    Nodyn gan Gadeirydd y Bwrdd Pensiwn (2018/19)  - Mr Tony Deakin

 

Cyfeiriwyd at adroddiad blynyddol Bwrdd Pensiwn y Gronfa oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ynghyd a phrif swyddogaethau’r Bwrdd fel corff sydd yn monitro ac adolygu penderfyniadau’r Pwyllgor Pensiynau a gwaith yr Uned Weinyddu. Mynegodd, o gymharu â chronfeydd eraill, bod y drefn yn llwyddo yng Ngwynedd a bod y Bwrdd wedi cynorthwyo a chyfrannu at lwyddiant y Gronfa. Tynnwyd sylw at y cynllun gwaith a sylw penodol i enghreifftiau o fewnbwn y Bwrdd i fuddsoddi cyfrifol a threfniadau olyniaeth staffio. Nodwyd yr angen i annog cyflogwyr i fabwysiadu meddalwedd technoleg gwybodaeth i-Connect er mwyn sicrhau data glan a chywir i’r dyfodol. Tynnwyd sylw at yr angen a pharodrwydd y Bwrdd i fynychu hyfforddiant er mwyn cadw i fyny gyda gwybodaeth a materion cyfredol. Cymerodd y cyfle i longyfarch Meirion Jones a Delyth Jones-Thomas ar eu penodiadau ac i’w olynydd, Osian Richards, fel Cadeirydd y Bwrdd Pensiwn 2019/20

 

c)    Cyflwyniad y Pennaeth Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2018/19

 

Adroddwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd mewn sefyllfa gymharol iach gyda gwerth y gronfa wedi cynyddu yn raddol ers 2010, a chynnydd sylweddol o £505m ers y prisiad diwethaf yn 2016. Nodwyd fod y gyfran o’r Gronfa gyfan roedd wedi’i ariannu wedi cynyddu o 84% 2010, i 85% 2013, 91% ym Mhrisiad 2016, a 108% ym Mhrisiad 2019.  Eglurwyd fod cyfran o’r cynnydd yn 2016/17 oherwydd cyfraddau cyfnewid arian, gan fod y Gronfa wedi’i brisio yn nhermau punnoedd, ac asedau wedi’u rhestru yn nhermau doleri, ac yn y blaen.  Fodd bynnag, dangoswyd fod y mwyafrif o’r symudiad mewn gwerth y Gronfa yn wir gynnydd yn nhermau arian lleol.

 

Er gwaethaf sefyllfa ariannol foddhaol y Gronfa, awgrymwyd nad yw’r sefyllfa byd eang yr un mor gadarnhaol. Cyfeiriwyd at batrymau buddsoddi yn newid, gyda llawer o fuddsoddwyr cyffredinol, ar wahân i gronfeydd pensiwn, yn cymryd risgiau i elwa yn y tymor byr, yn hytrach na buddsoddi cyfrifol hirdymor gydag ymgysylltiad a pherchnogaeth.

 

Mewn ymateb i argyfwng newid yr hinsawdd amlygwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd bellach yn buddsoddi 12% o werth y gronfa (£260m) yng nghronfa Carbon Isel BlackRock. Cafodd y penderfyniad i gadarnhau’r buddsoddiad yma ei wneud yn ffurfiol yng nghyfarfod 29 Gorffennaf 2019 o’r Pwyllgor Pensiynau. Roedd y buddsoddiad hwn mewn asedau cynaliadwy yn ganlyniad o benderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Pensiynau yn Nhachwedd 2018 i ddiwygio Datganiad Strategaeth Buddsoddi'r Gronfa i nodi egwyddorion buddsoddi cyfrifol, gan gynnwys “angen i ystyried y risgiau penodol sy'n codi o newid yn yr hinsawdd wrth ystyried buddsoddiadau”. Ategwyd bod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i arwain o'r blaen wrth wneud yr hyn sydd yn bosib sicrhau gweithredu  cyfrifol, o ystyried yr effaith y bydd gweithredoedd yn ei gael ar genedlaethau'r dyfodol. Eglurwyd sut bydd olrhain y Mynegai Carbon Isel MSCI yn buddsoddi mewn cwmnïau fydd ag allyriadau carbon isel, tra hefyd yn sicrhau dychweliadau ariannol cyffelyb i’r Mynegai Byd-eang safonol, a bodloni’r ddyletswydd ymddiriedol i staff, pensiynwyr a chyflogwyr y cynllun.  Adroddwyd bod Rheolwyr Cronfa Bensiwn Gwynedd ac aelodau’r Pwyllgor Pensiynau yn hyderus y byddai buddsoddi 12% (£260m ar hyn o bryd) o'r Gronfa Bensiwn mewn cronfa ecwiti  carbon isel yn gosod cydbwysedd cyfrifol ac yn tanlinellu’r ymrwymiad i ddyfodol mwy gwyrdd.

 

Nodwyd nad oedd mynegai o'r fath yn bodoli ar gyfer pob ffactor amgylcheddol, cymdeithasol neu lywodraethu arall, megis osgoi buddsoddi mewn cwmnïau sy’n cynhyrchu arfau.  Eglurwyd bydd y Pwyllgor Pensiynau yn ystyried cerbydau buddsoddi cyfrifol eraill, os a phan fydd y rhain ar gael yn y dyfodol. Ategwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn cyd-fuddsoddi fel un o 8 aelod o Bartneriaeth Pensiynau Cymru, gyda phartneriaid eraill, megis cronfeydd Abertawe a Chaerdydd, sy’n rhannu’r awydd i leihau'r amlygiad carbon mewn buddsoddiadau yn y dyfodol. I’r perwyl hyn, roedd Partneriaeth Cymru wedi comisiynu ymgynghorwyr Russell Investments i ddyfeisio tros-haen (‘overlay’ uwchben detholiadau stoc ein rheolwyr asedau).

 

Diolchwyd i bawb am eu cefnogaeth yn ystod 2018/19.

 

 

PENDERFYNWYD DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA BENSIWN AM 2018/2019

Dogfennau ategol: