Agenda item

Rheilffordd Ffestiniog, Ffordd Santes Helen, Caernarfon, LL55 2PF

 

I ystyried y cais

COFNODION:

1.         Rheilffordd Ffestiniog, Ffordd Santes Helen,   Caernarfon

 

Ar ran yr eiddo:                     Mr Stephen Greig (Rheolwr Gorsaf Caernarfon)

 

Eraill a wahoddwyd:             Mr Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer gorsaf Rheilffordd Caernarfon, Ffestiniog a Rheilffordd Ucheldir Cymru, Ffordd Santes Helen, Caernarfon.  Gwnaed y cais mewn perthynas ag adeilad aml-ddefnydd sydd yn cynnwys siop, swyddfa docynnau ar gyfer y rheilffordd a chaffi. Y bwriad yw gwerthu alcohol ar ac oddi ar yr eiddo, dangos ffilmiau a dramâu, cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio, perfformiadau dawns ac adloniant tebyg.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r amcanion hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Nodwyd bod sylw wedi ei dderbyn gan Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu cynnwys amod i’r ymgeisydd osod system Teledu Cylch Cyfyng ar yr eiddo ynghyd ag ychwanegu cymal ‘gyda 14 diwrnod o rybudd i’r Heddlu a’r Awdurdod Lleol’ yn adrannau A,B,E,F,G,H,J a L lle cyfeirir at ‘amseroedd ansafonol’.

Argymhellwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn unol â’r hyn a gytunwyd gyda’r Heddlu ac yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Bod bwriad cynnal system camerâu teledu cylch cyfyng

·         Mai ar gyfer digwyddiadau arbennig (ee teithiau trenau Y Nadolig, swper gwirfoddolwyr) fyddai amseroedd ansafonol

·         Ei fod yn derbyn yr amodau a gynigiwyd gan yr Heddlu

 

c)         Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais. Ategodd bod amodau wedi eu cynnig i’r ymgeisydd a bod angen ffurfioli’r amodau hynny. Cynigiwyd amod yn ymwneud a gosod teledu cylch cyfyng ar yr eiddo ynghyd ag ychwanegu cymal ‘gyda 14 diwrnod o rybudd i’r Heddlu a’r Awdurdod Lleol’ yn adrannau A,B,E,F,G,H,J a L lle cyfeirir at ‘amseroedd ansafonol’. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno derbyn yr amodau hyn ar y drwydded

d)         Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

dd)       Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog          Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar yr ymgeisydd yn y gwrandawiad.      Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl            ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu y cais 

 

a)            Derbyniwyd nad oedd yr Heddlu yn gwrthwynebu’r cais ond yn argymell amodau ychwanegol mewn perthynas â Theledu Cylch Cyfyng. Yn nhyb yr Is-bwyllgor roedd yr  amodau hyn yn rai rhesymol a chymesurol ac yn gam rhyngweithiol tuag at hyrwyddo’r amcanion trwyddedu o atal trosedd ac anhrefn. Roedd yr ymgeisydd wedi cadarnhau ei fod yn cytuno â’r sylwadau.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais am drwydded fel y’i diwygiwyd, gyda chynnwys yr amodau arfaethedig oddi wrth yr Heddlu yn gydnaws â’r amcanion trwyddedu.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol.

 

 

Dogfennau ategol: