skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Gareth Griffith

Penderfyniad:

Cytunwyd i fabwysiadu’r cynllun teithio amgen i staff, a chwtogi cyllidebau adrannol fel a ganlyn i adlewyrchu lefel cytunedig yr arbedion perthnasol (cyfanswm £117,998) –

 

Addysg   £9,775

Amgylchedd   £8,772

Cefnogaeth Gorfforaethol   £7,064

Cyllid   £2,379

Economi a Chymuned   £6,526

Oedolion   £33,183

Plant   £31,463

Priffyrdd a Bwrdeistrefol   £3,463

Tîm Arweinyddiaeth   £1,159

Ymgynghoriaeth   £13,130

Tai ac Eiddo   £1,084

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i fabwysiadu’r cynllun teithio amgen i staff, a chwtogi cyllidebau adrannol fel a ganlyn i adlewyrchu lefel cytunedig yr arbedion perthnasol (cyfanswm £117,998) –

 

Addysg   £9,775

Amgylchedd   £8,772

Cefnogaeth Gorfforaethol   £7,064

Cyllid   £2,379

Economi a Chymuned   £6,526

Oedolion   £33,183

Plant   £31,463

Priffyrdd a Bwrdeistrefol   £3,463

Tîm Arweinyddiaeth   £1,159

Ymgynghoriaeth   £13,130

Tai ac Eiddo   £1,084

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cynllun hwn yn cael ei arwain gan yr adran Amgylchedd ond ei fod yn effeithio ar waith y Cyngor i gyd. Nodwyd cefndir yr eitem gan esbonio ei fod yn deillio o ymgynghoriad gan ymgynghorwyr arbenigol o’r enw Edge Public Solution yn 2014. Ategwyd fod yr adroddiad  yn 2014 yn mynegi fod arbediad o 15% yn bosibl ar y gyllideb teithio staff a bod y Cyngor wedi dechrau cynllunio ar y sail yma.

 

Pwysleisiwyd nad oedd y gwaith a wnaethpwyd i’r Adroddiad yn 2014 wedi ei  seilio ar waith trylwyr ac o ganlyniad fod gwaith pellach wedi ei wneud gan y Cyngor. Mynegwyd fod yr adran wedi bod yn edrych ar wahanol ffyrdd o gyfathrebu ac i bwysleisio mai’r ffordd amlycaf i wneud arbediad yw i staff beidio gwneud y daith o gwbl. Amlygwyd y ffyrdd gwahanol o  deithio i wahanol gyfarfodydd a oedd yn cynnwys cludiant gyhoeddus a cheir pwl.

 

Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i gyfathrebu gyda’r adrannau ac mae enghreifftiau ble mae adrannau wedi rheoli teithiau yn well ac wedi sicrhau cost y filltir o 35c drwy geir pwl. Tynnwyd sylw at y tabl yn yr adroddiad sydd yn nodi targedau’r adrannau. Esboniwyd fod rhai swyddi yn cael ei eithrio megis Gofalwyr Cartref a bod y rhain wedi cael ystyriaeth yn yr hafaliad. Mynegwyd felly y bydd yr arbediad oddeutu £120,000 sydd yn llawer yn is nac y ffigwr a welwyd yn yr adroddiad yn 2014.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd ei bod yn bwysig fod rhai swyddi yn cael eu heithrio fel gofalwyr cartref gan mai rhain yw asgwrn cefn y Cyngor ac yn swyddi 'na fyddai modd eu gwneud drwy ddulliau dechnegol.

¾    Diolchwyd am yr adroddiad a derbyniwyd fod yr arbediad yn llawer is na’rswm gwreiddiol. Holwyd pam fod y Cyngor wedi defnyddio ymgynghorwyr allanol. Nodwyd fod profiadau yn gymysg gydag ymgynghorwyr allanol gan eu bod weithiau yn dod o ogwydd ariannol ac o ganlyniad yn fwy mathemategol sydd ddim yn realiti yng Ngwynedd oherwydd ei daearyddiaeth. Ychwanegwyd mewn achosion eraill fodd ymgynghorwyr allanol wedi gwneud i’r Cyngor feddwl mewn ffordd wahanol ac yn rhoi syniadau newydd. Roedd angen ystyried y balans rhwng y budd tebygol a’r gost wrth ystyried comisiynu ymgynghorwyr gan ei fod weithiau yn gallu dod a manteision i ni ddefnyddio rhywun o’r tu allan ond ddim bob tro.

¾     Mynegwyd fod y Cyngor wedi cynllunio’r arbedion yma ond bellach ddim am gyflawni, felly gofynnwyd a fydd angen cynllunio ar gyfer hyn. Nodwyd y bydd lleihau gwerth yr arbediad yma yn ychwanegu at fwlch ariannu’r Cyngor erbyn 2020/21, ond ei fod yn iach i gynllunio ar sail ariannol gadarn.  Ymhellach, nodwyd fod adroddiadau ar y gweill i’w cyflwyno i bwyllgorau craffu gyda chynigion adrannau ar gyfer arbedion posibl i’w gwireddu yn 2020/21, ond pe bai’r setliad gan Lywodraeth Cymru yn pasio’r adnoddau oddi wrth Lywodraeth San Steffan ymlaen, yna’n bosib ni fydd angen y cyfan o’r arbedion. Ychwanegwyd fod y targedau arbedion diwygiedig yn rhai rhesymol ac y bydd y gwir arbediad o gostau teithio staff, unwaith y bydd y camau cywir yn eu lle.

Awdur:Dafydd Wyn Williams

Dogfennau ategol: