Aelodau Cabinet – Y Cynghorwyr Gareth Thomas a
Cemlyn Williams
Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm)
*12.15yp – 1yp
*TORIAD AM GINIO – 1yp – 1.45yp
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg a’r Aelod Cabinet Economi yn gwahodd y pwyllgor i graffu cynigion yr
Adran Addysg ac Ysgolion a’r Adran Economi a Chymuned i ddygymod gyda’u cyfran
o’r bwlch £2m posib’ yng nghyllideb 2020/21, ynghyd â chynnig cynlluniau amgen
i gyfarch diffyg cynlluniau arbedion cyfredol ar gyfer yr Adran Addysg.
Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet Addysg, y ddau
Bennaeth Gwasanaeth a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i
gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.
Cynigion Arbedion yr Adran Economi a
Chymuned
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd, er y
derbynnid y byddai’r cynigion arbedion yn cael rhywfaint o effaith ar drigolion
Gwynedd, bod yr Adran wedi llwyddo i leihau’r effaith gymaint â phosib’.
Cynigion Arbedion yr Adran Addysg ac
Ysgolion
Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd cryn bryder
gan aelodau ynglŷn â dau gynnig arbed yn benodol, sef ‘Integreiddio –
Cynllun Datblygu Unigol (CDU)/Datganiadau’ (£112,530) a chynyddu’r gymhareb
disgybl / athro yn y fformiwla dyrannu (£463,900). Wedi derbyn rhywfaint o esboniad pellach am
yr hyn y byddai’r naill gynllun a’r llall yn ei olygu i ysgolion y sir, nodwyd
y byddai’r naill yn golygu llai o gymorth i ddisgyblion gydag anghenion dysgu
ychwanegol sydd ddim yn destun CDU / Datganiad a’r llall yn arwain at leihau
nifer athrawon a / neu leihau niferoedd staff ategol, gan effeithio ar safonau
addysgol.
Nodwyd ymhellach gan aelodau:-
·
Bod
yr ysgolion wedi gorfod torri nôl i’r asgwrn yn barod.
·
Y
dylai’r Cyngor anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn datgan anfodlonrwydd llwyr
ynglŷn ag annigonolrwydd y grant, sydd wedi arwain at sefyllfa ariannol
lle mae’r Cyngor yn gorfod gwneud arbedion sylweddol.
·
Y
dylid ail-edrych mewn mwy o fanylder ar y cynigion er mwyn gweld beth yn union
sy’n cael ei argymell.
·
Na
all yr ysgolion wneud eu gwaith heb yr arian a bod y newidiadau’n effeithio ar
forâl athrawon a phlant fel ei gilydd.
·
Y
dylid chwilio am arbedion yn rhywle arall.
Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, nododd y Prif
Weithredwr:-
·
Eleni,
am y tro cyntaf, bod gwariant y pen ar addysg yng Ngwynedd yr uchaf ymhlith
holl awdurdodau gwledig Cymru, a hyd yn oed o wneud y toriadau hyn, byddai
Gwynedd yn dal ar y brig.
·
Y llwyddwyd i warchod y gyllideb ysgolion yn gyfan
gwbl y llynedd.
·
Bod
y Cyngor hwn wedi bod yn llythyru, ac yn cyfarfod gyda’r Llywodraeth yn gyson,
a bod y Llywodraeth yn fyw iawn i’r pryderon.
·
Fel cyngor darbodus, bod rhaid cynllunio ar gyfer y
posibilrwydd o orfod canfod y bwlch posib’ o £2m yng nghyllideb 2020/21.
·
Bod
pob adran o’r Cyngor yn gwegian bellach, a rôl y pwyllgor craffu oedd
penderfynu, os bydd yn ofynnol i’r Adran ddod â chynigion arbedion ymlaen, ai’r
cynigion a restrwyd yn yr adroddiad, neu gynigion eraill, fyddai’n cael lleiaf
o ardrawiad ar blant y sir.
Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg fod ystyriaeth
ddwys wedi’i rhoi i’r holl opsiynau. Ni
allai wneud argymhellion yn unman arall a’r cynlluniau gerbron oedd y rhai
fyddai’n cael lleiaf o ardrawiad ar blant.
Nododd hefyd y byddai’r gostyngiad yn demograffi’r cynradd a’r cynnydd
yn demograffi’r uwchradd yn cael llawer mwy o effaith na’r cynigion hyn. Roedd pwysau sylweddol ar y gyllideb cludiant
hefyd.
Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at y balansau
ysgolion o dros £4m gan nodi bod bwriad i’r pwyllgor hwn edrych ar ormodedd /
balansau’r ysgolion. Eglurodd y Pennaeth
Addysg fod gan yr Awdurdod gyfrifoldebau o ran monitro balansau a phatrymau
gwariant ysgolion ac y gellid cyfarwyddo ysgolion cynradd gyda balansau dros
£50,000 ac ysgolion uwchradd gyda balansau dros £100,000 i wario. Fodd bynnag, roedd balansau llawer o’r
ysgolion islaw’r trothwyon hyn.
Mewn ymateb i ragor o sylwadau yn erbyn y
cynigion arbedion Integreiddio a Fformiwla Dyrannu, nododd y Prif Weithredwr:-
·
Bod
pob adran wedi cael cyfarwyddyd i ganfod eu cyfran hwy i gyfarch y swm o £2m pe
byddai angen darganfod swm o’r fath.
Lle’r Pwyllgor Craffu oedd ystyried ai’r cynigion yma fyddai’n cael yr
ardrawiad lleiaf, ynteu rhywbeth arall.
Os oedd yn meddwl bod y cynigion gerbron yn cael ardrawiad gormodol, yna
ei rôl oedd darganfod cynigion o fewn y maes Addysg gydag ardrawiad llai. Fel roedd y Pennaeth Addysg wedi egluro,
byddai unrhyw gynigion eraill yn cael hyd yn oed mwy o ardrawiad ar blant y
sir.
·
Bod
raid i’r Cyngor sefydlu cyllideb gytbwys, ac wrth i’r aelodau gytuno i godi’r
Dreth Gyngor ym mis Mawrth fyddai’r cyfle i bwyso a mesur y cynnydd yn y Dreth
Gyngor er mwyn osgoi gorfod gweithredu ar elfennau o’r arbedion.
Nododd aelod fod y Cyngor yn y sefyllfa sydd
ohoni oherwydd amharodrwydd Llywodraeth Cymru i basio arian digonol
ymlaen. Paratoi ar gyfer toriadau posib’
oedd hyn ac ni allai’r Cyngor symud yn ei flaen heb wneud y paratoi yma. Byddai gwrthod y cynigion hyn, heb gynnig
unrhyw awgrymiadau gwell, yn golygu bod y pwyllgor yn ymddwyn yn
anghyfrifol. Yn wyneb hynny, cynigiodd
yr argymhelliad ar ddiwedd yr adroddiad, sef:-
(a) Cymeradwyo cynigion yr adrannau
i gwrdd â’u cyfran o’r arbedion perthnasol.
(b) Cymeradwyo cynllun amgen gan yr
Adran Addysg a argymhellir i ddisodli dau gynllun hanesyddol sydd ganddynt nad
oes modd iddynt eu gwireddu.
Gan na eiliwyd y cynnig, cynigiodd aelod
arall na ddylid cymeradwyo’r toriadau ac y dylid gofyn i’r Adran Addysg
ail-edrych ar y data yn fwy manwl.
Ni eiliwyd y cynnig.
Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai
ail-edrych ar y data er mwyn gweld beth arall sy’n bosib’ yn golygu galw
cyfarfod arbennig o’r pwyllgor craffu, ond fel roedd y Pennaeth Addysg wedi
egluro, roedd y dewisiadau eraill yn mynd i gael hyd yn oed mwy o ardrawiad.
Cynigiodd aelod y dylid galw cyfarfod
arbennig o’r pwyllgor a gofyn i’r Adran Addysg ddod â chynlluniau amgen
gerbron. Eiliwyd y cynnig.
Eglurodd y Pennaeth Addysg y byddai’n rhaid
i unrhyw gynllun amgen ddod o’r ysgolion beth bynnag. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr drachefn ei bod
yn iawn i gael y drafodaeth, ond bod yr Aelod Cabinet wedi dod â’r cynigion
fyddai’n cael lleiaf o ardrawiad gerbron, ac y byddai’r dewisiadau eraill i gyd
yn waeth, e.e. cau ysgolion, dileu cludiant ôl-16, ayb.
Eiliwyd y cynnig i dderbyn yr argymhellion
yn yr adroddiad gyda chalon drom iawn, gan dderbyn bod yr Adran wedi ceisio
canfod y dewisiadau sy’n lleihau’r effaith ar blant Gwynedd gymaint â
phosib’. Mawr obeithid na fyddai’n rhaid
gwneud yr arbedion hyn, ond cydnabyddid bod angen rhoi trefn mewn lle rhag ofn.
Pleidleisiwyd ar y cynnig, ond fe
ddisgynnodd.
Cynigiwyd ac eiliwyd bod y pwyllgor yn
nodi’r adroddiad a’r sylwadau cryf sydd wedi’u gwneud a bod hynny yn mynd
ymlaen i’r Cabinet. Fe gariodd y cynnig.
PENDERFYNWYD
(a)
Derbyn mai cynigion yr Adran
Economi a Chymuned i gwrdd â’u cyfran o’r arbedion perthnasol yw’r rhai sydd yn
cael ardrawiad lleiaf ar drigolion Gwynedd.
(b)
Nodi’r adroddiad ar gynigion yr
Adran Addysg ac Ysgolion i gwrdd â’u cyfran o’r arbedion perthnasol, a’r
sylwadau cryf sydd wedi’u gwneud, a chyfleu hynny i’r Cabinet.
Dogfennau ategol: