Agenda item

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cynnig i sicrhau y gall pob dysgwr fanteisio ar y cwricwlwm llawn.  Yn ei gynnig mae Llywodraeth Cymru yn holi barn ar:

  • Yr hawl i eithrio o Addysg Grefyddol (ac Addysgu Cydberthynas a Rhywioldeb)
  • a newid enw Addysg Grefyddol

 

Mae’r gweinidog yn awyddus i sicrhau ei bod yn cynnal i bob plentyn a pherson ifanc maen ysgolion a gynhelir astudio Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac i newid enw Addysg Grefyddol i ‘Crefyddau a bydolygon’.

 

 

Cofnod:

Arweiniodd Mair Huws y drafodaeth ar ymatebion y Cyngor i’r ddogfen ymgynghori a nodwyd y pwyntiau cyffredinol canlynol cyn ymateb i’r cwestiynau penodol :- 

 

Mae yn gamgymeriad nadu rhieni rhag gwneud unrhyw beth

Ar y llaw arall, ni ddylid rhoi y dewis i rieni a dylid tynnu yr hawl oddi wrthynt

Mae yn bwysig i blant gael addysg lawn, gytbwys

Mae yn anodd deall paham fyddai rhieni am wrthod i’w plant wneud y pwnc

Mae gwerth mawr i’r pwnc gan ei fod yn bwnc sydd yn cyffwrdd â chymaint o bynciau eraill

Mae angen i’r pwnc gael ei drin yn gyfartal, fel pynciau eraill - hynny yw, nid oes opsiwn i eithrio allan o bynciau eraill

Tybed fyddai newid enw y pwnc o gymorth?  Onid yw plant yn eu colled o beidio bod yn mynychu y gwersi hyn?

 

Nodwyd y byddai yn ddiddorol cael y ffigyrau sydd yn dangos faint o rieni sydd wedi tynnu eu plant allan o wersi y pwnc drwy Wynedd.

 

Cyfeiriwyd at y plant rheiny sydd yn cael eu dysgu adref a chwestiynwyd a ydynt yn cael gwersi addysg grefyddol?  Awgrymwyd efallai y byddai modd i CYSAG greu pecyn neu restr ddarllen ar eu cyfer.  Nododd Mair Huws y byddai yn holi yr Adran ac yn trefnu i’r mater gael ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cymerwyd pleidlais ar y mater a chytunwyd bod y CYSAG o blaid tynnu yr hawl i eithrio.  Cytunwyd y byddai Mair Huws yn cynnwys y sylwadau uchod wrth ymateb i’r cwestiynau fel a ganlyn :

 

Cwestiwn 1 – Beth fyddai'r goblygiadau i ddysgwyr, rhieni/gofalwyr ac ysgolion petai'n ofynnol i bob dysgwr gael gwersi Addysg Grefyddol a/neu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd?

Nodwyd fod gan rieni yr hawl i dynnu eu plant o bethau eraill, ond hefyd bod gan ddisgyblion hawliau hefyd.  Nodwyd ei bod yn drafodaeth anodd, ond diddorol.  Mae yn bwysig peidio anwybyddu hawliau rhieni, ond cwestiynwyd pam tynnu sylw i’r pwnc arbennig hwn.  Nodwyd nad oes goblygiadau i rieni na phlant gan ei fod yn statudol ar hyn o bryd.  Efallai mai un goblygiad fyddai mwy o addysgu yn y Cartref?

 

Cwestiwn 2 –Pa gymorth, gwybodaeth ac arweiniad fyddai eu hangen petai'r dull gweithredu hwn yn cael ei fabwysiadu?

Nodwyd y byddai rhieni angen gwybodaeth gefndirol ac y byddai angen pecyn ar y penaethiaid.  Nodwyd gyda’r holl newidiadau sydd yn mynd ymlaen yn y maes Dyniaethau ac Addysg Iechyd, bod angen llawer iawn o gymorth yn gyffredinol ar ysgolion

 

Cwestiwn 3 – Ein cynnig yw na ddylai rhieni/gofalwyr allu atal eu plant rhag cael gwersi Addysg Grefyddol neu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Caiff hyn ei gyflwyno o fis Medi 2022, i bob dysgwr oed cynradd a dysgwyr ym Mlwyddyn 7 yn yr ysgol uwchradd (gyda grwpiau blwyddyn eraill yn cael eu hychwanegu bob blwyddyn). 

Gweler uchod.

 

Cwestiwn 4 – Beth sy'n enw priodol i ‘addysg grefyddol’, er mwyn adlewyrchu'r cwmpas ehangach a gynigir ar gyfer y cwricwlwm newydd yn gywir?

Cafwyd yr awgrymiadau fel a ganlyn :

Mae angen newid o Addysg Grefyddol er mwyn dangos ehangder y pwnc.

Beth am Bydolwg (yn hytrach na Bydolygon), gan nad oes angen cyfieithiad union o ‘World Views’? Mae’n bwysig peidio â cholli yr elfen Ysbrydol.

 

Penderfynwyd nodi y byddai newid yr enw yn syniad da, ond nad oes enw sydd yn cael ei ffafrio

 

Cwestiwn 5 – Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai peidio â chynnwys yr hawl i dynnu yn ôl yn eu cael ar yr iaith Gymraeg

Nodwyd bod tueddiad i blant ddewis y pynciau dyniaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, petai y ddogfennaeth yn cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg, yna ni ragwelir unrhyw broblem.  Nodwyd ei bod yn angenrheidiol derbyn y Gymraeg a’r Saesneg ar yr run amser.

 

Cwestiwn 6 – Eglurwch hefyd sut gellid ffurfio neu newid y polisi arfaethedig:

Nodwyd ei bod yn angenrheidiol bod unrhyw ddogfennau Cymraeg a Saesneg yn cyrraedd ar yr un amser, ynghyd ac unrhyw ganllawiau neu lyfrynnau.  Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol.

Nodwyd bod unrhyw newid mawr angen amser ar gyfer paratoi ac arweiniad priodol.

 

Dogfennau ategol: