Agenda item

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Derbyniwyd adroddiad a chyflwyniad ar lafar gan Rheolwr Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig yn rhoi diweddariad ar raglen Arfor. Yn dilyn cytundeb cyllidebol rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru, yn Chwefror 2019 cadarnhaodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates AC, fod £2 filiwn o gyllideb ar gael i Gynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr i dreialu dulliau arloesol o gefnogi’r economi yng nghadarnleoedd y Gymraeg. Nodwyd fod yr arian ar gael hyd at ddiwedd 2020/21 gyda £466,250 i’w fuddsoddi yng Ngwynedd ar weithgareddau fyddai yn arwain at greu swyddi fyddai’n cynnal yr iaith yn ein cymunedau.

Adroddwyd bod dau brosiect trawsffiniol wedi eu sefydlu; Cynllun Strategol / Gwerthuso a Phrosiect Bwrlwm Busnes. Ategwyd bod y Cynllun Strategol yn edrych ar brosiectau unigol ar draws y Sir ac wrthi yn sefydlu cynllun busnes i’w gyflwyno. Mynegwyd bod Bwrlwm Busnes wedi dylunio pecyn croeso yn annog busnesau i weithio drwy’r Gymraeg. Nodwyd bod bwriad comisiynu cwmni i edrych ar ddeunydd digidol ar draws y pedair Sir i geisio gwybodaeth ac adnabod a rhannu ymarfer da.

Cyfeiriwyd at Grŵp Llywio Arfor sydd yn arwain y gwaith yng Ngwynedd ac sydd wedi adnabod pecyn o brosiectau arloesol i’w treialu dros y cyfnod sydd yn cyd-fynd a meini prawf y rhaglen. Ategwyd bod yr Uned Iaith wedi bod yn rhan o’r grŵp ers y dechrau. Nodwyd bod nifer o brosiectau cyffrous wedi eu sefydlu gyda holiadur ieithyddol wedi ei lunio i gofnodi safon defnyddwyr / cefnogwyr prosiectau fel bod modd mesur effaith Arfor.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod cyfnod o ddwy flynedd yn gyfnod rhy fyr i hyrwyddo a datblygu mentrau busnes. Angen pwyso ar y Llywodraeth am gyfnod hirach

·         Nid yw’r arian sydd yn cael ei dderbyn yn ddigonol

·         Angen ymgynghori gyda Menter Busnes i osgoi dyblygu gwaith

·         Bydd angen mesur yr effaith er mwyn sicrhau Arfor 2

·         Angen targedu a chefnogi pobl ifanc sydd yn llai tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg mewn busnes

·         Bod angen sicrhau cadw enwau Cymraeg ar y tiroedd

·         Arfor yn syniad arloesol ar y dechrau ond bellach y deilliant yn llawer llai

·         Dim sicrwydd i ddyfodol Arfor. Cynigiwyd bod y Pwyllgor yn ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn sut mae Rhaglen Arfor yn gweithio gyda chynlluniau ehangach y Llywodraeth megis cynlluniau iaith a’r strategaeth Economaidd.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sut bydd y cynllun yn parhau ar ôl dwy flynedd, amlygwyd mai bwriad y Cynllun Strategol sydd yn cael ei ddatblygu yw edrych ar sut mae’r prosiectau yn gweithio a mesur yr effaith.

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru, amlygwyd bod pob cynllun yn cael ei drafod gyda’r Llywodraeth

 

PENDERFYNWYD bod y pwyllgor yn ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gofyn am ymrwymiad y Llywodraeth i’r cynllun a sut mae cynllun Arfor yn gweithio gyda chynlluniau ehangach y Llywodraeth megis cynlluniau iaith a’r strategaeth Economaidd.

 

Gwnaed cynnig gan y Cynghorydd John Pughe Roberts i’r Swyddogion Iaith ystyried prosiect yn ymwneud a gwaith Dr John Davies, Mallwyd. Nodwyd mai ef oedd prif olygydd a diwygiwr rhifyn 1620 o gyfieithiad Cymraeg o’r Beibl. Er mwyn cydnabod gwaith arwyddocaol Dr John Davies, awgrymwyd ystyried prosiect ar gyfer dathlu 400 canmlwyddiant ei waith.

PENDERFYNWYD trefnu bod y Cynghorydd John Pughe Roberts yn trafod y cynnig gyda swyddogion Hunaniaith

 

 

Dogfennau ategol: