Agenda item

I dderbyn trosolwg o sut mae’r gwasanaeth yn parhau i roi blaenoriaeth i’r Gymraeg

Cofnod:

Derbyniwyd adroddiad ar lafar gan Reolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach ar y gwaith sydd wedi ei wneud gan y cwmni i warchod yr iaith wrth i adrannau o’r Cyngor gael eu hallanoli. Eglurwyd bod Byw’n Iach wedi ei sefydlu yn Ebrill 2019 fel cwmni cyfyngedig trwy warant o dan reolaeth Cyngor Gwynedd yn gweithredu cytundeb ar ran y Cyngor i reoli Canolfannau Hamdden yn y Sir a darparu ystod o wasanaethau Chwaraeon, Iechyd a Ffitrwydd. Fel rhan o’r cytundeb, nodwyd bod cyfrifoldeb dros yr iaith wedi ei gynnwys a bod cydweithio gyda swyddogion datblygu’r iaith wedi sicrhau bod y broses o drosglwyddo wedi ei ffurfioli.

Adroddwyd bod 250 o staff wedi trosglwyddo a bod yr ymateb cychwynnol wedi bod yn un cadarnhaol gyda chanmoliaeth at ymddygiad y staff tuag at newid. Cafwyd lansiad meddal i’r trosglwyddiad gan nad oedd newidiadau amlwg i wasanaethau cwsmer. Amlygwyd mai’r bwriad yw ceisio diwylliant o berchnogaeth i’r holl staff.

Yng nghyd-destun iaith, adroddwyd bod y cwmni wedi creu polisi Iaith gyfatebol i bolisi Cyngor Gwynedd sydd yn berthnasol ac ymarferol i’r maes Hamdden. Amlygwyd bod rhai o amcanion y polisi wedi cadw run fath ond cymalau ychwanegol ar gyfer creu dylanwad o fewn y sector Hamdden. Nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu’r gweithle gyda bwriad o greu swyddi arbenigol i ymgymryd â dyletswyddau penodol.  Ategwyd bod y dynodiadau iaith mewn swydd ddisgrifiadau wedi cael eu herio i fod yn uchelgeisiol wrth fapio’r angen a bod asesiad sgiliau wedi ei gwblhau fel sylfaen i flaenoriaethu rhaglen waith i’r timau.

Ategodd Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg y Cyngor bod pob aelod o staff y gwasanaeth Hamdden sydd wedi derbyn hyfforddiant yn cael ei asesu a bod yr aelod staff a’r rheolwr yn sicrhau bod yr hyfforddiant yn gwreiddio. Mynegwyd bod adborth cychwynnol y staff wedi bod yn bositif a chanmolwyd eu hymdrechion a’u parodrwydd i ymateb i’r her.

Diolchwyd am y wybodaeth

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r defnydd o gerddoriaeth Gymraeg mewn dosbarthiadau ffitrwydd nodwyd bod y gerddoriaeth wedi ei baratoi gan gwmnïau penodol ac mai cerddoriaeth heb eiriau sydd i’w chwarae. Anodd fyddai creu adnodd Byw’n Iach, ond derbyniwyd bod modd ystyried y sylw.

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â datblygu llwybr gyrfa, amlygwyd bod bwriad creu swyddi penodol fydd yn cynnig arbenigedd mewn meysydd priodol. Bydd hyfforddiant a chefnogaeth yn cael ei gyflwyno gyda’r bwriad o greu mwy o amrywiaeth a chyfleoedd i staff ddatblygu. Nodwyd yr angen i fuddsoddi mewn staff er mwyn sicrhau datblygiad a diwallu’r syniad mai swyddi achlysurol yn unig sydd yn cael eu cynnig yn y maes Hamdden.

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag ystyried cynllun rhannu enillion gyda’r staff nodwyd nad oedd hyn yn bosib ar hyn o bryd ond yn gynllun y gellid ei ystyried i’r dyfodol. Ategwyd bod Cyngor Fflint wedi mabwysiadau cynllun o’r fath, ond bod Byw’n Iach wedi mabwysiadu cytundeb mewnol gyda Chyngor Gwynedd

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gwrthdaro posib rhwng symud tuag at staff arbenigol a cheisio staff sy’n hyderus yn y Gymraeg, amlygwyd bod staff sydd eisoes yn gyflogedig yn debygol o allu cyflenwi’r angen arbenigol. Ategwyd bod bwriad gwneud defnydd o bencampwyr o fewn canolfannau i arwain ar feysydd penodol, gan gynnwys y Gymraeg. Bydd cefnogaeth barhaus gan yr Uned Iaith a’r Uned Dysgu a Datblygu i gefnogi’r disgwyliadau.

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Bod angen ymgorffori targed iaith yn y daflen Cynllun Busnes (crynodeb)

-       Bod angen ceisio gwaredu’r ethos Saesneigaidd ymysg staff - angen hybu’r staff i ddefnyddio Cymraeg wrth sgwrsio

-       Bod angen targedu partneriaid / colegau i baratoi unigolion yn well ar gyfer swyddi yn y sector hamdden

-       Annog y cwmni i hysbysebu mewn papurau lleol

-       Bod gwerth cysylltu gyda Swyddog Dalgylchoedd Addysg

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth