Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Elin Walker Jones

 

“Mae Ymgynghoriaeth Gwynedd yn aml yn delio efo materion proffil uchel, ac nid yw’r gwaith yn Fairbourne yn unrhyw eithriad.  Mae Fairbourne wedi cael llawer o sylw yn y wasg dros y misoedd diwethaf.  Fel rydych yn ymwybodol, mae’r pentref yn wynebu bygythiad oherwydd materion yn ymwneud a llifogydd a newid hinsawdd sydd wedi arwain at godiad yn lefelau’r môr.  Ond un agwedd o waith yr Ymgynghoriaeth yw’r gwaith amddiffyn arfordirol. Tybed all yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Catrin Wager, roi blas i ni ar waith yr Ymgynghoriaeth?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol, y Cynghorydd Catrin Wager

 

“Diolch i’r Cynghorydd Elin Walker Jones am dynnu sylw at waith yr Ymgynghoriaeth, sy’n waith hynod o bwysig.  Yn syml iawn, mi fuaswn i’n dweud bod yna ddwy fraich i waith yr Ymgynghoriaeth.  Un fraich ydi’r gwaith masnachol mae’r Ymgynghoriaeth yn wneud, y gwaith peirianneg, lle maent yn gweithio ar gontractau i gleientiaid allanol, gan gynnwys cynghorau eraill, yn ogystal â gwneud gwaith i Gyngor Gwynedd.  Ond yr ochr arall o’r gwaith ydi ymgymryd â’n dyletswyddau statudol llifogydd ni o fewn y Cyngor, a chredaf mai at hyn rydych yn cyfeirio’n benodol yn eich cwestiwn.  Mae hwn yn amlwg yn faes pwysig ofnadwy ac rwy’n falch o ddweud bod yr Ymgynghoriaeth yn gwneud gwaith eithaf arloesol yn y maes.  E.e. maent wedi bod yn gweithio ar brosiectau lle rydym ni’n edrych ar lifogydd, nid fel digwyddiad yn y lleoliad mae’n digwydd, ond yn edrych ar y dalgylch cyfan ac yn edrych ar sut mae dŵr yn llifo a sut rydym yn atal y llif i sicrhau bod ein cymunedau yn aros yn saff, ac mae yna ddau brosiect ar y gweill ar y funud yng Ngwyrfai ac Ogwen o ran y math yma o waith.  Rydym ni hefyd yn amlwg yn edrych ar lifogydd o’r môr, ac mae gan Wynedd arfordir hir iawn ac mae’r gwaith yma’n bwysig gan fod nifer fawr o drigolion ein cymunedau yn byw ar hyd yr arfordir yma.  Mae’r heriau rydym yn eu hwynebu o ran newid hinsawdd yn golygu, hyd yn oed pe byddem yn mynd i lawr i garbon sero fory, bod lefelau môr yn mynd i barhau i godi.  Gan hynny, mae’n bwysig iawn ein bod yn cychwyn cynllunio yn awr am y codiad hwn yn lefel y môr.  A dyma’r gwaith mae’r Ymgynghoriaeth yn ei wneud.  Maent wedi bod yn adnabod cymunedau sy’n mynd i wynebu heriau, yn ceisio cysylltu â hwy a chynllunio ar gyfer dyfodol y cymunedau yma.  Felly, yn gryno iawn, mae gwaith yr Ymgynghoriaeth yn arbennig o bwysig ac rydym ni’n ceisio edrych i’r dyfodol a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn wynebu cyn lleied o risg i’r dyfodol â phosib.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Elin Walker Jones

 

“Oes modd i chi roi diweddariad i ni ar beth yn union sy’n mynd ymlaen ym Mangor?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol, y Cynghorydd Catrin Wager

 

“Mae Bangor yn gymuned lle mae’r Ymgynghoriaeth wedi bod yn gweithio ar brosiect amddiffynfeydd yn Hirael.  Maent eisoes wedi llunio rhestr hir o ddatrysiadau posib’ i Fangor i’r dyfodol.  Mae hwnnw wedi mynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus a bellach rydym wedi cyrraedd y pwynt lle byddwn yn tynnu rhestr fer at ei gilydd, a bydd ymgynghori arni, unwaith y bydd yn barod.  Felly rwy’n gobeithio y byddwch chi’n rhan o’r drafodaeth yna.”

 

(2)     Cwestiwn y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones, oherwydd gwaeledd, gofynnwyd y cwestiwn gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, a achubodd ar y cyfle hefyd i ddymuno adferiad llwyr a buan i’r aelod.

 

“Gyda’r llanast sydd ar hyn o bryd ym Mwrdd Betsi Cadwaladr efo diffyg doctoriaid, nyrsys a meddygon teulu, ga i ofyn i’r Arweinydd Portffolio tros Wasanaethau Cymdeithasol sut effaith fydd hyn yn gael ar y trigolion mwyaf bregus yng Ngwynedd?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Hoffwn innau hefyd ddymuno’n dda i’r Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones.  Ydi mae’n gwestiwn amserol ynglŷn â’r ffaith bod Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig.  Ac mewn gwirionedd, fel y gwelwch o’r ateb ysgrifenedig, dyna’r sefyllfa.  Nid yw Betsi Cadwaladr yn atebol i’r Cyngor, ac ar hyn o bryd, gan ei fod mewn mesurau arbennig, mae’n adrodd yn uniongyrchol i’r Gweinidog yn Llywodraeth Cymru.  Gan hynny, nid ydym ni fel Cyngor yn dod ar draws eu mesurau na’u canlyniadau, ac nid ydym yn gwybod beth yn union sy’n mynd ymlaen.  Fodd bynnag, gallaf eich sicrhau, ar lefel rhanbarth Gorllewinol Betsi Cadwaladr, ein bod ni, fel Cyngor Gwynedd a Chyngor Môn, yn gweithio’n agos iawn gyda hwy o ran darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf yn y rhanbarth, ond o ran Betsi Cadwaladr yn ei gyfanrwydd, ni allaf ateb ar eu rhan.”

 

Nododd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd ei ddymuniad i ofyn cwestiwn atodol ar ran y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones, ond eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd darpariaeth am gwestiwn atodol os nad oedd yr aelod ei hun yn bresennol.