Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2020/21 o’r penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag, ac i godi premiwm o 50% ar eiddo perthnasol o’r fath.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Bod bwlch yn y ddeddf yn golygu y gallai perchennog tŷ gwag ddweud bod yr eiddo ar werth er mwyn osgoi talu’r premiwm.

·         Bod pobl yn dioddef, oherwydd y gallai gymryd blwyddyn neu ragor i atgyweirio hen dŷ, a holwyd a oedd y Cyngor yn edrych i mewn i bob achos ac yn caniatáu eithriad mewn achosion arbennig.  I’r diben hwn, cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ychwanegu cymal i’r argymhelliad yn yr adroddiad, sef gofyn i’r Cabinet edrych ar hyblygrwydd i ystyried polisi am ostyngiad neu gymorth ariannol i berchnogion tai gwag pan fo’r gwaith o’u hatgyweirio yn cymryd mwy na chwe mis.  Gan i’r Aelod Cabinet gytuno i dderbyn y gwelliant, bu iddo newid ei gynnig i’r perwyl hwnnw, a dangosodd y Cyngor, heb drafodaeth, eu bod yn fodlon gyda’r gynffon i’r cynnig.

·         Bod angen system sy’n gwobrwyo, yn hytrach na chosbi landlordiaid sy’n buddsoddi yn eu heiddo.

·         Bod tri chwmni yn Abersoch yn cynghori pobl i droi tai yn Air B&B’s, heb unrhyw fath o reolaeth cynllunio, a bod trosglwyddiad y tai hynny o’r rhestr Treth Cyngor i’r rhestr Ardrethi Annomestig yn golygu bod y Cyngor yn colli mwy o arian.

·         Y dylai’r aelodau gael diweddariadau ar y niferoedd tai sy’n trosglwyddo i’r rhestr Ardrethi Annomestig.

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau uchod ac i gwestiynau a ofynnwyd, nodwyd:-

 

·         Bod y rheoliadau’n datgan bod tŷ gwag oedd ar werth am bris rhesymol wedi’i eithrio o dalu’r premiwm am flwyddyn o’r dyddiad y cafodd ei roi ar y farchnad.

·         Bod modd delio ag amgylchiadau unigol lle mae angen gwaith sylweddol ar dŷ drwy ran arall o’r ddeddfwriaeth, a gallai’r Cabinet edrych ar bolisïau addas, yn unol â’r hyn a gynigiwyd fel gwelliant.

·         Bod aelodau a swyddogion yn parhau i ohebu’n gyson gyda gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru i bwyso am newid y drefn sy’n caniatáu i eiddo sy’n cael eu defnyddio fel unedau gwyliau hunan-ddarpar gael eu trethu drwy’r drefn Dreth Ddi-annedd, yn hytrach na’r Dreth Gyngor.  Roedd yna lawer o gymhlethdodau o ran y gyfundrefn gynllunio a’r gyfundrefn Dreth Cyngor, ond gyda chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, roedd y cynghorau’n ceisio negodi ffordd ymlaen.  Gan hynny, awgrymwyd bod yr aelodau yn gadael i’r swyddogion barhau i ddilyn y trywydd am y tro, ac adrodd yn ôl maes o law ar y cynnydd gyda’r gwaith.

·         Er bod y Cyngor yn colli arian am bob tŷ oedd yn trosglwyddo i’r rhestr Ardrethi Annomestig, roedd y premiwm ar y tai oedd yn parhau o dan y Dreth Gyngor yn cynhyrchu tua £2.5m y flwyddyn o incwm i’r Cyngor, a’r bwriad oedd buddsoddi’r arian yma mewn tai i bobl leol yn y pen draw.  Y gyfundrefn bellach oedd bod pobl sy’n gallu fforddio talu am dai haf yn talu ychydig yn fwy er mwyn i’r Cyngor fedru gwneud iawn am y ffaith bod yna gymaint o dai yng Ngwynedd yn mynd yn dai haf.  Ni fyddai cynnyrch y premiwm yn cau’r bwlch yn gyfangwbl, wrth gwrs, ond yr holl syniad oedd bod y Cyngor yn gallu defnyddio’r premiwm i wneud rhywbeth am y sefyllfa dai.  Roedd y Pennaeth Tai ac Eiddo eisoes yn y broses o gynllunio strategaeth ar gyfer dechrau mynd i’r afael â’r broblem, gyda dwy flynedd o’r adnodd wedi’i gynaeafu gan y Cyngor.  Gellid adrodd ymhellach ar hyn i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu pe dymunai’r aelodau dderbyn rhagor o wybodaeth.

 

PENDERFYNWYD

(a)  Bod y Cyngor yn gwneud dim newid i’r cynllun ar gyfer 2020/21.  Hynny yw, ar gyfer 2020/21:

·         Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

·         Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 50% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

·         Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 50% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

(b)  Gofyn i’r Cabinet edrych ar hyblygrwydd i ystyried polisi am ostyniad neu gymorth ariannol i berchnogion tai gwag pan fo’r gwaith o’u hatgyweirio yn cymryd mwy na chwe mis.

 

 

Dogfennau ategol: