Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm).

Penderfyniad:

 

(a)     Cymeradwyo’r Cynllun Busnes Cyffredinol fel y ddogfen sy'n gosod y trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

(b)     Cymeradwyo’r darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, ac yn benodol yn mabwysiadu’r trefniadau ar gyfer Craffu sydd wedi’u nodi yn Cytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 3” ohono fel sail ar gyfer cwblhau’r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau’r DU a Chymru.  

(c)     Yn ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb Llywodraethu 2, fod Cyngor Gwynedd yn cytuno i weithredu fel yr Awdurdod Lletya a Chorff Atebol, ac yn llofnodi’r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid, drwy law y Prif Swyddog Cyllid.

(ch)   Cymeradwyo'r dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca sydd ei angen mewn egwyddor i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, ac yn cynnwys darpariaeth o fewn Cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a’r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu fel sydd wedi’i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau 5.5 – 5.7 o’r adroddiad).

(d)     Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel sydd angen i gwblhau’r cytundeb.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn cyflwyno’r pecyn o ddogfennau allweddol oedd eu hangen ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Nododd:-

 

·         Y byddai mabwysiadu’r argymhellion yn caniatáu arwyddo’r Cytundeb Terfynol gyda’r ddwy Lywodraeth ar 17 Rhagfyr.

·         Y bu’n daith hir o dair blynedd o safbwynt y Cynllun Twf ei hun, ond bod sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi digwydd bron i wyth mlynedd yn ôl, pan ddaeth awdurdodau’r Gogledd, y prifysgolion, y colegau a’r sector breifat at ei gilydd i gyfarch materion datblygu’r economi ar lefel ranbarthol.

·         O gydweithio, bod y bartneriaeth yn cael ei chydnabod yn eang fel un gadarn, ac yn esiampl o ymarfer da.

·         Bod y chwe awdurdod sy’n bartneriaid ar y Bwrdd o sawl lliw gwleidyddol a chefndir economaidd gwahanol iawn, ond bod y chwe Arweinydd yn gytûn mai lles pobl y Gogledd sy’n bwysig.

·         Y dymunai ddiolch i aelodau’r bartneriaeth, gan gynnwys y prifysgolion a’r colegau a’r sector breifat, sydd wedi bod yn rhan fawr o’r drafodaeth ac o ddatblygu’r cynlluniau.

·         Yr hoffai ddiolch hefyd i’r tîm o swyddogion dan arweiniad Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, a nododd fod y ffaith bod yna gystal tîm o swyddogion yn y Gogledd yn gweithredu yn y maes datblygu’r economi yn rhoi hyder iddo y bydd modd cyfarch y problemau mawr fydd yn ein hwynebu i’r dyfodol.

·         Fel swyddogion statudol yr awdurdod lletya, bu Dafydd Edwards, Pennaeth Cyllid, ac Iwan Evans, Swyddog Monitro yn allweddol yn arwain timau o swyddogion ar draws y Gogledd wrth gyflawni’r gwaith cyllidol a chyfreithiol a llywodraethiant, ac y dymunai ddiolch iddynt hwythau hefyd am eu cyfraniad arbennig i waith y Bwrdd.

·         Bod sefyllfa’r economi yn y Gogledd wedi newid ers i brosiectau’r cynllun gael eu datblygu’n wreiddiol.  Roedd Covid wedi cael effaith andwyol iawn, ac roedd dyfodol ansicr i’r economi hefyd yn sgil beth bynnag fyddai’n deillio o Brexit.  

·         Bod y Bwrdd Uchelgais yn fwy na’r Cynllun Twf, a bwriedid edrych ar ffrydiau eraill o fuddsoddiadau ariannol o sawl cyfeiriad. 

·         Ei fod yn siomedig bod Llywodraeth San Steffan wedi darparu llai o arian na’r cyfanswm a ofynnwyd amdano ar y cychwyn, ond byddai arwyddo’r Cytundeb Terfynol cyn y Nadolig yn rhyddhau ffrwd o’r £240m, gyda £16m yn cael ei dderbyn bob blwyddyn dros y pymtheng mlynedd nesaf ar gyfer gweithredu prosiectau’r Cynllun Twf dros y 5-6 mlynedd nesaf.

 

Croesawyd Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Sioned Williams (Pennaeth Economi a Chymuned) i’r cyfarfod, a gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Portffolio i roi cyflwyniad sleidiau.  Yn ystod y cyflwyniad, manylwyd ar:-

 

·         Bortffolio y Cynllun Twf - nod, maint y buddsoddiad ar gyfer y cynllun yn ei gyfanrwydd ac amcanion gwariant.

·         Trosolwg o’r rhaglenni

·         Rhestr o Brosiectau’r Cynllun Twf.

·         Buddion rhanbarthol

Gwahoddwyd y Pennaeth Economi a Chymuned i gyflwyno sleid ar y buddion penodol i Wynedd, sef:-

 

·         Gwell cysylltiad digidol ar gyfer busnesau, trigolion ac ymwelwyr.

·         Mynediad at gyfleusterau, offer, cefnogaeth ac ymchwil arbenigol ar gyfer busnesau bwyd a diod Gwynedd drwy fuddsoddiad ar safle Glynllifon.

·         Mynediad at ymchwil arloesol a chefnogaeth gyda thechnegau ffermio cynaliadwy ar gyfer y busnesau ffermio yng Ngwynedd.

·         Cyfleoedd cadwyn gyflenwi a swyddi yn sgil prosiectau cyfalaf fel Morlais, Porthladd Caergybi, ac ati.

·         Cyfleoedd am fentrau ynni adnewyddadwy o fewn y Prosiect Ynni Lleol Blaengar a buddsoddiad yn y Ganolfan Ragoriaeth Ynni Carbon Isel ym Mhrifysgol Bangor.

·         Buddsoddiad £20m yn isadeiledd safle Trawsfynydd ar gyfer datblygiad ynni carbon isel arloesol.

·         Cyfleoedd i ddatblygu safleoedd strategol fel rhan o’r rhaglen Tir ac Eiddo hirdymor yn cynnwys safle Bryn Cegin.

 

Pwysleisiwyd hefyd mai un rhaglen oedd y Cynllun Twf, a bod yna brosiectau eraill fyddai’n ychwanegu gwerth, ac yn adeiladu ar hyn ar hyd a lled Gwynedd.

 

Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid i roi trosolwg o’r goblygiadau cyllidol.  Nodwyd:-

 

·         Y byddai’r ariannu grant yn dod yn gyson gan y ddwy Lywodraeth dros y 15 mlynedd, ond y byddai’r gwariant yn fwy cyflym dros y 6 blynedd cyntaf.

·         Y byddai’n rhaid benthyg i ddelio â’r llif arian yma, ac fel awdurod lletya, byddai Gwynedd yn hwyluso hyn i’w bartneriaid drwy sefydlu trefn fyddai’n rhoi swm cyfraniad cyson rhesymol dros y pymtheng mlynedd i dalu’r gost benthyg. 

·         Gan nad oedd amseriad y taliadau na’r cyfraddau llog, ac ati, yn wybyddus eto, rhoddwyd amrediad i’r holl bartneriaid, ac roedd yr amrediad i Wynedd yn amrywio rhwng tua £80,000 - £118,000 y flwyddyn. 

·         Bod Cytundeb Llywodraethu 2 yn sicrhau na fyddai’r un partner yn medru cerdded i ffwrdd heb dalu ei siâr o’r costau hyn. 

 

Gwahoddwyd y Swyddog Monitro i roi trosolwg o’r cytundeb llywodraethu a’r goblygiadau cyfreithiol.  Nodwyd:-

 

·         Bod Cytundeb Llywodraethu 2 yn ein trosglwyddo i gyfnod gweithredol a chyflawni’r Cynllun Twf a’r Weledigaeth Twf.

·         Bod y cytundeb yn creu fframwaith cyfreithiol oedd yn ymrwymo pob partner i’w cyfraniadau, ac ni allai neb gerdded i ffwrdd oddi wrth y cytundeb heblaw ar draul parchu eu hymrwymiadau ariannol i’r dyfodol hefyd.

·         Bod yna drefniadau llywodraethu o fewn y cytundeb oedd yn cynnal y Bwrdd Uchelgais ac yn darparu ar gyfer materion megis craffu a rheolaeth ariannol a staffio ayb.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd bod y cynllun yn uchelgeisiol, a bod hynny i’w groesawu.  Roedd amser caled o’n blaenau, ac roedd yn dda bod gennym y math hwn o gynllun wrth law.

·         Mynegwyd pryder bod cyn lleied o’r prosiectau yn Nwyfor a Meirionnydd.  Pwysleisiwyd pwysigrwydd bod yn hyblyg a dewr a gwneud popeth sy’n bosib’ i gynorthwyo prosiectau sydd â’r potensial i ddod â nifer uchel o swyddi i’r ardaloedd hynny, a holwyd sut y gallai cwmnïau sy’n dymuno gwneud buddsoddiad o fewn y sir gymryd rhan yn y Cynllun Twf. 

·         Croesawyd y ffaith bod hwn yn gynllun sydd wedi’i ddatblygu yng Ngogledd Cymru, a’i fod yn creu swyddi safonol gyda chyflogau da fydd yn caniatáu i bobl ifanc fyw a gweithio yn eu cymunedau.

·         Cyfeiriwyd at un o egwyddorion allweddol y Weledigaeth Twf, sef canolbwyntio ar gadw pobl ifanc, codi lefelau cyflogaeth a gwella sgiliau er mwyn cyflawni twf cynhwysol, a chredid yn gryf y byddai’r cynllun hwn o gymorth i ymateb i bryderon rhieni nad oes digon o gyfleoedd gwaith o safon yma yn y Gogledd Orllewin.

·         Nodwyd nad oes gwaith na thai i bobl ifanc mewn ardaloedd fel Pen Llŷn a mynegwyd pryder y bydd cwmnïau sy’n elwa o’r Cynllun Twf yn codi pac maes o law, ac yn mynd â’r grantiau gyda hwy.

·         Nodwyd bod 2021 am fod yn flwyddyn heriol hefyd, ond bod y Cynllun Twf yn rhoi rheswm i ni fod yn bositif ac optimistaidd, a dymunwyd bob llwyddiant i’r fenter.

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd gwneud popeth i annog a helpu busnesau newydd.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn â phenderfyniad Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i dynnu eu haelodaeth yn ôl o’r Bwrdd Uchelgais.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn â’r prinder doctoriaid, deintyddion, milfeddygon a gofalwyr yng Ngwynedd.

·         Mynegwyd pryder y bydd siroedd y Dwyrain wedi dwyn yr arian i gyd, ac na fydd y Gogledd Orllewin yn gweld fawr ddim o’r budd.

·         Nodwyd ei bod yn anodd cael prosiectau yn y canolbarth a phwysleisiwyd pwysigrwydd cydweitho gyda Thwf y Canolbarth.  Nodwyd hefyd bod y rhwydwaith ffyrdd yn rwystr i fuddsoddiad yn Ne’r sir.

·         Nodwyd mai De Meirionnydd oedd un o’r ardaloedd tlotaf yn Ewrop, a mawr obeithid y byddai’r sefyllfa wedi gwyrdroi’n llwyr ymhen 10 mlynedd.

·         Nodwyd mai breuddwyd oedd y sôn am fuddsoddiad o £1.1b i Ogledd Cymru, ac ofnid mai disgwyl y byddwn ni am y £722m o’r sector breifat.

·         Mynegwyd pryder ein bod wedi ein clymu i fyny gyda Glannau Dyfrdwy a Wrecsam, lle mae’r boblogaeth fwyaf a lle mae’r budd mwyaf am ddod.

·         Mynegwyd balchder fod Gwynedd yn cydweithio fel partner llawn wrth y bwrdd, ac yn arwain ar y cynllun pwysig hwn.

·         Pwysleisiwyd bod angen atgyfnerthu’r diwydiant bwyd amaeth a nodwyd hefyd mai cynlluniau ynni carbon isel a digidol oedd y dyfodol.

·         Croesawyd y ffaith y byddai Parc Cegin, Bangor yn cael ei ddefnyddio’n llawn.

·         Nodwyd y dylid ymgyrchu am sefydlu ysgol feddygol, ddeintyddol a milfeddygol fel rhan o Brifysgol Bangor.

·         Mynegwyd pryder bod y cynlluniau twf yn rhannu Cymru, a hynny mewn cyfnod o unoliaeth cenedlaethol, drwy uno’r Gogledd gyda Glannau Merswy, Y Canolbarth gyda Birmingham a’r De gyda Bryste.

·         Nodwyd y deellid mai yn Warrington fydd y ganolfan wirio gwaith papur ar gyfer loriau fydd yn cludo nwyddau o Gaergybi i Iwerddon ar ôl Brexit, a chwestiynwyd pam nad oedd y ganolfan yn cael ei sefydlu ym Môn, neu hyd yn oed ym Mharc Cegin, Bangor, o ystyried agosrwydd y safle i’r A55.

·         Nodwyd nad oedd cyfeiriad yn y papurau at Arfor, na chydnabyddiaeth bod Wylfa newydd wedi bod ar y gweill erioed.

·         Nodwyd bod y weledigaeth i’w chanmol, ond y gwrthwynebid creu’r cysylltiad gyda Gogledd Lloegr, gan fod hynny’n ein gwanychu fel cenedl.

·         Gofynnwyd i’n cynrychiolwyr sicrhau bod cyfran deg o’r arian yn dod i Wynedd.

·         Awgrymwyd y dylai pob aelod sydd wedi siarad yn erbyn y cynllun ystyried beth ydi eu ‘Plan B’, gan ofyn a oes ganddynt £1.1b i’w wario ar greu swyddi i bobl ifanc yng Ngwynedd, oherwydd heb hynny, sut allent bleidleisio yn erbyn y cynllun?

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau unigol, nodwyd:-

 

·         Y dymunid gweld budd yn dod i Ddwyfor a Meirionnydd.  Bu’n broses anodd i sicrhau dosbarthiad teg o’r prosiectau ar draws y cynghorau i gyd, ond credid y llwyddwyd i wneud hynny.  Roedd yna brosiectau fyddai’n mynd ar draws pob ffin ddaearyddol, e.e. y prosiect digidol a phrosiectau ynni carbon isel cymunedol, a byddai elfennau o’r prosiectau amaethyddol o gymorth ar draws y sir gyfan hefyd.

·         O ran y trefniadau caffael, roedd y Swyddfa Portffolio yn gweithio ar strategaeth caffael fyddai’n galluogi i gwmnïau lleol ymgeisio am rywfaint o’r gwaith fyddai’n dod allan o’r Cynllun Twf.  Byddai’n rhaid sicrhau na fyddai contract yn rhy fawr, neu wedi’i gyflwyno mewn ffordd fyddai’n atal cwmnïau lleol rhag gallu manteisio arno.  Roedd defnyddio cwmnïau lleol i’r eithaf yn egwyddor sylfaenol i ni yn y Gogledd, ac yn arbennig yng Ngwynedd, gan mai ein pwrpas fel Bwrdd Uchelgais oedd cefnogi ein cwmnïau lleol ni yn gyntaf.

·         O ran buddsoddiadau, rhan o’r weledigaeth oedd creu Gogledd Cymru fwy deniadol i fuddsoddwyr, nid o reidrwydd i fuddsoddi’n uniongyrchol yn un o brosiectau’r Cynllun Twf, ond oherwydd bod prosiectau’r Cynllun Twf yn creu adnoddau gwell ar gyfer buddsoddwyr sy’n edrych i leoli neu ail-leoli.

·         Y deellid y pryderon o ran cwmnïau’n sefydlu yma ac yna’n codi pac, ond nid pwrpas y Cynllun Twf oedd taflu arian at gwmnïau i ddod yma i sefydlu, eithr creu amgylchedd sy’n ddengar i fusnesau a’u helpu.  Ychwanegwyd bod busnesau lleol yn crefu am lefydd i weithio ohonynt.  Roedd llawer o fusnesau wedi sefydlu o’r newydd yn ystod y cyfnod Cofid, ac roedd angen rhoi pob cymorth a chefnogaeth iddynt.

·         Y bu cefnogaeth Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i holl weithgaredd y Bwrdd Uchelgais yn sylweddol iawn, ond y bu iddynt edrych ar eu gweithgaredd eu hunain yn dilyn Cofid, a gweld bod rhaid iddynt ganolbwyntio eu hadnoddau prin ar gefnogi eu haelodau.  Fodd bynnag, roeddent yn parhau’n rhan o’r gweithgaredd, ac wedi bod yn rhan o hwyluso cynhadledd rithiol yn ddiweddar gyda 200 o fusnesau.  Roedd y Bwrdd hefyd yn edrych ar syniadau o ran sut i wella ymgysylltu gyda’r sector fusnes, ac roedd y Grŵp Cefnogi Busnes, sef casgliad o berchnogion busnesau blaenllaw iawn yn y Gogledd, yn gwneud gwaith da iawn hefyd o ran cefnogi a chraffu gwaith y Bwrdd

·         Na rennid pesimistiaeth rhai aelodau ynglŷn â’r cynllun.  Roedd yna risgiau ym mhopeth wrth gwrs, ond dylid cofleidio’r cynllun hwn yn hyderus.

·         Na fwriedid cefnu ar ardaloedd gwledig y sir, a bod y 6 awdurdod yn gyfartal o ran dylanwad ar y Bwrdd, gyda chryn ymddiriedaeth rhwng yr arweinyddion gwleidyddol a dymuniad gan bawb i sicrhau bod unrhyw fudd o’r cynllun yn cael ei ledaenu’n deg ar draws y Gogledd.

·         Bod unrhyw ddatblygiad oddi fewn i ardal y Cyngor neu Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ddarostyngedig i bolisïau cynlluniau lleol, ac er mai’r Cyngor oedd yn gosod y polisïau hynny, roedd ein gallu i’w hamrywio yn eithaf cyfyng oherwydd y polisïau cenedlaethol.  Roedd y sector breifat yn datgan fod rhaid i’r broses o gael caniatâd cynllunio a chaniatadau gan asiantaethau perthnasol eraill fod yn rhwyddach, ac roedd y neges yma wedi’i chyfleu i’r gweinidogion droeon.  Roedd lle hefyd i ni ddylanwadu os oeddem yn meddwl bod cam yn cael ei wneud.

·         Bod ein cysylltiadau economaidd, trafnidiaeth a chymdeithasol yn agos gyda Phowys a Cheredigion, ac er ein bod yn cael gwahoddiad i fynychu cyfarfodydd Pwyllgor Twf y Canolbarth, nid oeddem yn cael ein cydnabod fel partneriaid llawn yno.  Roedd hyn yn destun pryder a rhwystredigaeth, ond bwriedid parhau i bwyso arnynt yn hyn o beth.

·         Ystyrid bod y bartneriaeth ar draws y Gogledd wedi tynnu siroedd y Dwyrain yn agosach atom nag erioed o’r blaen.  Er y byddai wedi bod yn bosib’ i Fflint a Wrecsam droi eu golygon at Gaer a Lerpwl, roeddent wedi dewis troi at siroedd y Gorllewin oherwydd eu bod yn rhan o Gymru, ac roedd yna gyswllt gwych ac agos gydag arweinwyr Fflint a Wrecsam yn arbennig.

·         Bod y buddsoddiadau rydym ni fel Cyngor yn roi i mewn i’r Cynllun Twf yn rhai degau o filoedd, ond byddai hynny’n esgor maes o law ar fudd o gannoedd o filiynau.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Cymeradwyo’r Cynllun Busnes Cyffredinol fel y ddogfen sy'n gosod y trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

(b)     Cymeradwyo’r darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, ac yn benodol yn mabwysiadu’r trefniadau ar gyfer Craffu sydd wedi’u nodi yn “Cytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 3” ohono fel sail ar gyfer cwblhau’r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau’r DU a Chymru. 

(c)     Yn ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb Llywodraethu 2, fod Cyngor Gwynedd yn cytuno i weithredu fel yr Awdurdod Lletya a Chorff Atebol, ac yn llofnodi’r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid, drwy law y Prif Swyddog Cyllid.

(ch)   Cymeradwyo'r dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca sydd ei angen mewn egwyddor i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, ac yn cynnwys darpariaeth o fewn Cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a’r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu fel sydd wedi’i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau 5.5 – 5.7 o’r adroddiad).

(d)     Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel sydd angen i gwblhau’r cytundeb.

 

 

Dogfennau ategol: