Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn
adrodd yn ôl ar y camau a gymerwyd gan y Cyngor hyd yma mewn ymateb i’r cynnig
a ystyriwyd yng nghyfarfod 7 Mawrth 2018 o’r Cyngor ynglŷn â newid
hinsawdd.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Y gallai’r Cyngor wneud pethau bach i helpu’r
sefyllfa, megis sicrhau bod adnoddau ar gael i drydanu ceir trydan ym meysydd
parcio’r Cyngor a symud ymlaen gyda Theithio Llesol er mwyn galluogi i bobl
feicio i’r gwaith yn ddiogel.
·
Y dylai aelodau o’r
holl grwpiau gwleidyddol fod yn rhan o’r tasglu a sefydlwyd gan y Cabinet i
ystyried beth ymhellach sydd angen ei wneud er mwyn cyrraedd y nod o gael sir
ddi-garbon.
·
Dylid creu llwybr
beicio wrth ochr bob ffordd newydd sy’n cael ei hadeiladu. Dylid gosod paneli solar ar bob tŷ
newydd sy’n cael ei adeiladu a system ail-ddefnyddio dŵr glaw.
·
Bod Greta Thunberg, y ferch ifanc o Sweden, wedi dod â
hyn i gyd ar lwyfan y byd, ac er bod poblogaeth Cymru ond 3 miliwn a phoblogaeth
y byd tua 7 biliwn, roedd yna bethau bach y gellid eu gwneud yma yng Nghymru ac
yng Ngwynedd, e.e. plannu mwy o goed a gosod paneli solar, lle na fyddai
hynny’n effeithio ar y tirlun.
·
Bod hwn yn gynllun da iawn a bod angen i’r Cyngor fod
yn uchelgeisiol iawn yn y maes hwn gan y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar
ddyfodol ein pobl ifanc.
Mewn ymateb i rai o’r sylwadau uchod ac i gwestiynau a ofynnwyd, nodwyd:-
·
Bod y Cyngor yn
bwriadu buddsoddi £465,000 yn gosod 84 o bwyntiau gwefru cerbydau ar draws y
sir, ond bod rhai anawsterau gyda’r grid.
Roedd trafodaethau’n digwydd eisoes ynglŷn â hynny ac roedd yn
bwysig bod y trafodaethau’n parhau.
Roedd yn dda clywed hefyd bod y Llywodraeth wedi neilltuo arian yn eu
cyllideb ddrafft ar gyfer materion newid hinsawdd, ac er nad oedd y buddsoddiad
yn ddigon o bosib’, roedd yn gam ymlaen o leiaf.
·
Y byddai’r tasglu a
sefydlwyd gan y Cabinet yn ymgynghori’n llawn gyda phob aelod o’r Cyngor ar eu
cynllun gweithredu fel bod modd i bawb gymryd rhan yn y drafodaeth a rhoi
cynigion gerbron. Diolchwyd i bawb oedd
wedi cynnig syniadau eisoes.
·
Bod cyfeiriad at
faterion statudol megis yr angen i dai newydd gwrdd â’r safonau effeithlonrwydd
ynni ymarferol uchaf posib’ yn y templed yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Roedd gofynion y rheoliadau adeiladu
presennol yn reit uchel, ond dylid edrych arnynt eto i weld a ydynt yn mynd yn
ddigon pell. Rhaid cofio, fodd bynnag,
bod cost ychwanegol ynghlwm â’r materion hynny.
·
Y gobeithid y gellid
cydweithio gyda’r sector breifat ar draws pob agwedd o’r gwaith, gan gofio bod
y sector breifat ar y blaen i’r sector gyhoeddus yn hyn o beth.
·
Bod sicrhau arweiniad
cenedlaethol yn allweddol bwysig i wireddu’r nod.
PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad gan nodi’r camau a gymerwyd hyd yma a’r bwriadau ar gyfer y dyfodol.
Dogfennau ategol: