Cyflwyno adroddiad terfynol yr ymchwiliad (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu – Addysg Gymraeg gan Gadeirydd yr
Ymchwiliad, y Cynghorydd Alwyn Gruffydd.
Nododd:-
·
Yr ymchwiliwyd i
weithrediad, cysondeb a llwyddiant Polisi Iaith yr awdurdod yn ysgolion y Sir a
diolchodd i’w gyd-aelodau ar y grŵp, ynghyd a’r swyddogion, fu’n
gweithio’n ddyfal dros gyfnod o 6-7 mis.
·
Y cyflwynwyd adroddiad
drafft yr ymchwiliad i’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau ar 22 Medi ac y
penderfynodd y pwyllgor dderbyn cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo’r
argymhellion a gyflwynwyd i’r Aelod Cabinet Addysg, gan ofyn iddo gyflwyno
adroddiad cynnydd ar y gweithrediadau ymhen chwe mis.
Cyflwynodd y
Swyddog Gwella Ansawdd Addysg ymateb yr adran i’r adroddiad gan nodi:-
·
Bod yr adran yn
croesawu’r gwaith ac yn canmol ac yn cydnabod y gwaith aruthrol a gwblhawyd yn
y maes hwn sy’n greiddiol i holl waith y gwasanaeth.
·
Bod yr Aelod Cabinet
Addysg wedi derbyn yr argymhellion a’r cam nesaf fyddai trafodaeth rhwng yr
adran a’r Aelod Cabinet o ran ymarferoldeb gweithredu’r argymhellion.
·
Bod y pwyllgor craffu wedi dod i lawer o’r un
casgliadau â chwmni Trywydd, a gomisiynwyd i gyflawni gwaith yn y sector
uwchradd.
Wrth drafod
casgliadau’r ymchwiliad:-
·
Cyfeiriwyd at y sefyllfa
ieithyddol yn ardal Bangor yn benodol ac effaith bositif y Siarter Iaith ar
agwedd plant yr ardal tuag at y Gymraeg.
·
Nodwyd bod plant yn
gwneud cynnydd da yn y Canolfannau Hwyrddyfodiad ond mynegwyd rhwystredigaeth
bod y gyrwyr cludiant i’r plant i ac o’r canolfannau hyn yn ddi-gymraeg. Mewn ymateb, nodwyd bod y sylw hwn wedi’i
wneud yn y Pwyllgor Craffu hefyd a chadarnhawyd bod y Gwasanaeth Addysg yn
ymchwilio i’r mater.
·
Diolchwyd i aelodau’r
ymchwiliad a’r swyddogion am eu gwaith trwyadl oedd wedi arwain at gyfres o
argymhellion clir a phell gyrhaeddol.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
Dogfennau ategol: