Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc yn rhoi trosolwg o’r cwynion a’r ceisiadau gwybodaeth a datganiadau o werthfawrogiad a dderbyniwyd yn ystod 2018/19.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Mynegwyd gwerthfawrogiad y pwyllgor o waith caled y staff a nodwyd ei bod yn galonogol gweld bod cyn lleied o gwynion wedi’u cyflwyno a chyn lleied o’r cwynion hynny wedi mynd ymlaen i Gam 2.

 

Nodwyd, er bod yr wybodaeth hanesyddol yn gynwysedig yn yr adroddiad, y byddai’n fuddiol gweld y ffigurau ar ffurf tabl, er mwyn gweld yn glir oes patrwm wedi datblygu.

 

Gan gyfeirio at gŵyn GC/3257-15 yn Atodiad 3 i’r adroddiad, ac yn benodol farn gref yr Ombwdsmon y dylai hyfforddiant ar awtistiaeth fod ar gael i bawb o fewn yr Adran, ac nid i staff Derwen yn unig, holwyd a fu unrhyw ddatblygiad pellach ar hynny.  Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Diogelu ac Ansawdd:-

 

·         Yn ychwanegol i’r cwestiwn o hyfforddiant, bod cwestiwn ynglŷn â gallu’r gweithwyr cymdeithasol i ymdopi â sefyllfaoedd lle mae yna elfennau hynod o arbenigol o fewn asesiadau.

·         Bod gwasanaeth newydd yn ei le erbyn hyn ar lefel Gogledd Cymru a threfniant yn ei le fel bod timau o fewn gwasanaethau plant yn gallu cael esboniad o’r hyn y gellir ei gynnig yn ychwanegol i’r hyn oedd yn bodoli yn flaenorol.

·         Bod plethiad rhwng hyn â phethau megis canllawiau mynediad i wasanaeth Derwen, ac ydi rhywun sydd ag awtistiaeth ac sydd â gallu ac yn gallu gweithredu’n annibynnol yn cael ei ystyried yn anabl, ayb.

·         Gan hynny, roedd yna lawer o gymhlethdod yn yr achos hwn rhwng y cyngor cyfreithiol a roddwyd, yr hyn mae’r ddeddf yn ddweud a’r hyn mae’r Ombwdsmon wedi dyfarnu ynghylch sut ddylai hynny gael ei ystyried.

·         Yn dilyn her ddiweddaraf yr Ombwdsmon, y comisiynwyd arbenigwr ym maes awtistiaeth i roi cymorth pellach i’r Cyngor i sicrhau bod y trefniadau’n gryfach i’r dyfodol. 

·         Gan fod yna lobi gref ar gyfer y math yma o wasanaethau arbenigedd, bod cryn bwysau ar y Cyngor i fedru asesu yn unol â’i ddyletswyddau, ond y credid bod y plethiad newydd gyda gwasanaeth y Gogledd o gymorth i atgyfnerthu hynny.

·         Y rhoddwyd ymateb i’r Ombwdsmon ar hynny a bod yna drafodaeth bellach rhwng y Cyngor a’r Ombwdsmon ynglŷn ag i ba raddau mae’r Ombwdsmon yn fodlon gyda’r camau mae’r Cyngor wedi rhoi mewn lle erbyn hyn.

 

Nododd yr Aelod Cabinet na ddymunai i’r pwyllgor fynd i ormod o drafodaeth ar y mater hwn gan fod yr achos yn un byw ac yn cyfeirio at unigolyn.  Eglurodd nad oedd gan y Cyngor lawer o brofiad o ddelio gyda’r Ombwdsmon, gan mai un achos yn unig a welwyd mewn sawl blwyddyn, ac awgrymodd y gallai’r Prif Weithredwr ymhelaethu ar lle mae’r Cyngor wedi cyrraedd o ran ymateb a datblygu’r berthynas gyda’r Ombwdsmon.

 

Nododd y Prif Weithredwr:-

 

·         Y bu hwn yn achos anodd dros ben, a gan nad oedd yr Adran wedi cael llawer o achosion lle mae’r Ombwdsmon yn dyfarnu yn ei herbyn, efallai na lwyddwyd i newid ein egwyddorion gweithredu i’r rhai y byddai’r Ombwdsmon wedi dymuno eu gweld.

·         Y derbyniwyd llythyr gan yr Ombwdsmon yn sgil ei ail adroddiad yn datgan pryder ynglŷn ag elfennau o’r hyn a wnaethpwyd.

·         Y byddai’n mynd i weld yr Ombwdsmon yr wythnos ganlynol a’i fod o’r farn mai trafferthion cyfathrebu oedd bennaf wrth wraidd hyn. 

·         Ei fod yn weddol hyderus bod y Cyngor wedi ceisio gwneud y peth iawn, ond wrth wneud hynny wedi anghofio bod rhaid cadw at lythyren yr hyn a gytunwyd gyda’r Ombwdsmon.

·         Y bu i’r Ombwdsmon nodi yn ei adroddiad cyntaf y byddai’n disgwyl i’r Cyngor hyfforddi ei holl weithwyr cymdeithasol ar y drefn gwynion o fewn 12 mis, fel eu bod yn ymwybodol o’u dyletswyddau os ydynt yn adnabod unigolyn sydd eisiau cwyno.  Er bod yr adroddiad i’r pwyllgor hwn a’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Gorffennaf yn nodi y ‘bydd’ sesiynau hyfforddiant yn cael eu cynnal, roedd yr Ombwdsmon wedi ei gythruddo gan fod cyfarfod y Cabinet ym mis Gorffennaf ddeufis ar ôl yr adeg y dylai’r hyfforddiant fod wedi’i gwblhau.

·         Oherwydd y bu dryswch hefyd ynglŷn â geiriad un o argymhellion yr Ombwdson ynglŷn ag asesu’r rhieni, nid oeddem chwaith wedi cyd-fynd â chymal arall y bu i ni gytuno i’w gyflawni.

·         Bod argymhellion yr adroddiad wedi’u gweithredu bellach a’r asesiad ar gyfer y rhiant yn digwydd hefyd, ac y byddai’n adrodd hyn yn ei gyfarfod gyda’r Ombwdsmon.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â chyfleusterau chwarae ar gyfer plant yn Hafan y Sêr, nododd yr Uwch Reolwr Diogelu ac Ansawdd fod cytundeb bellach rhwng y gwasanaethau o ran symud hyn ymlaen.  Diolchwyd i’r aelod am ei ymyrraeth, oedd wedi bod o gymorth i chwalu’r rhwystrau. 

 

Nodwyd bod yna werthfawrogiad mawr o’r ddarpariaeth yn Hafan y Sêr a nodwyd y dylid anfon at y staff i ddiolch iddynt am eu holl waith.

 

Ar ran y Gwasanaeth, diolchodd yr Uwch Reolwr Diogelu ac Ansawdd i’r Swyddog Gofal Cwsmer am ei holl waith.  Mynegodd yr aelodau eu diolchiadau i’r swyddog hefyd, ac i’r holl swyddogion a enwyd yn Atodiad 4 i’r adroddiad (rhestr enghreifftiau o werthfawrogi 2018/19), a rhai na enwyd efallai, gan ofyn bod neges yn mynd yn ôl i’r Adran yn cyfleu gwerthfawrogiad y pwyllgor o’u gwaith gwerthfawr.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: