Agenda item

Aelod Cabinet:  Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies

 

Ystyried adroddiad y Rheolwr Caffael Corfforaethol  (ynghlwm).

 

10.40am – 11.40am

 

Cofnod:

Cyflwynodd bawb eu hunain, ac ar gais y Cadeirydd, rhoddodd y Rheolwr Caffael Corfforaethol esboniad byr o ystyr y term rheolaeth categori a sut mae’n gweithio’n ymarferol.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Economi'r cyd-destun gan bwysleisio pwysigrwydd cario’r momentwm a sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r trefniadau newydd.

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Caffael Corfforaethol yn diweddaru’r pwyllgor ar gynnydd y Strategaeth Gaffael newydd drwy ymateb i gwestiynau’r Cyfarfod Paratoi mewn perthynas â:-

 

·         Chyrhaeddiad o ran mewnosod Rheolaeth Categori ym maes Gofal ynghyd â chynnydd yn erbyn y rhaglen waith a’r amserlen.

·         Y gwersi a ddysgwyd o osod y Rheolaeth Categori ym maes Gofal, sy’n bwysig i’w cadw mewn cof ar gyfer y ddau faes Rheolaeth Categori arall.

·         Y rhaglen waith ar gyfer mewnosod Rheolaeth Categori yn y ddau faes arall.

·         Sut mae’r drefn yn y maes Gofal yn annog gweithredu yn wahanol i’r hen drefn a beth sydd wedi gwella o ran y drefn newydd.

·         Parodrwydd y Rheolwyr i brynu i mewn i’r drefn Rheolaeth Categori ym maes gofal ac ar draws y Cyngor ac unrhyw anawsterau a ganfuwyd.

·         Effaith y trefniadau ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y Cyngor.

·         Y bwriadau o ran sicrhau cyfleoedd i ddarparwyr lleol ym maes Gofal ac ar draws y Cyngor.

·         Y gwaith cefndir a gyflawnwyd o ran adnabod anghenion ac adnabod y farchnad ym maes Gofal ac ar draws y Cyngor.

·         Y diweddaraf am y perfformiad ar wariant gyda chwmnïau ‘lleol’ yng Ngwynedd ac ar lefel Gogledd Cymru a Chymru.

·         Y camau a gymerwyd i hybu cysylltu â chwmnïau lleol a gwerthu’n lleol.

·         Dulliau o sicrhau buddion ehangach i’r sir drwy’r cymalau cymdeithasol.

·         Canran yr anfonebau sy’n cael eu talu o fewn 30 diwrnod.

·         Rôl yr Adran Economi a Chymuned o ran y Prosiect Cadw’r Budd yn Lleol a beth sydd wedi’i gyflawni hyd yma.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar yr atebion ysgrifenedig yn yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau pellach gan yr aelodau mewn perthynas â:-

 

·         Sut mae’r system newydd yn mynd i godi ymwybyddiaeth ar draws y Cyngor o gaffael gan sicrhau fod hynny’n digwydd mewn ffordd unedig a strategol.

·         Yr opsiynau o ran cynorthwyo pobl i sefydlu busnesau newydd.

·         Cyfyngiadau deddfwriaeth a rheolau caffael Ewropeaidd.

·         Pwysigrwydd mewnbwn yr Adran Economi a Chymuned o safbwynt cadw’r budd yn lleol a’r cyswllt gyda chontractwyr lleol.

·         Yr her, wrth symud i drefn ganolog, o geisio perswadio cwmnïau bychain lleol i ymgeisio am gontractau, a hynny heb sicrwydd o unrhyw waith ar ddiwedd y broses.

·         Hyblygrwydd y broses gaffael a’i gallu i newid ac addasu’n gyson er mwyn adnabod anghenion y farchnad leol.

·         Yr her o adnabod a chreu cyfleoedd ar gyfer mentrau cymdeithasol.

·         Yr angen i fod yn effro i effaith cyflwyno’r cyflog byw ar allu’r Cyngor i ennill contractau.

·         Newidiadau mewn prosesau.

·         Effaith unrhyw doriadau yn yr Adran Economi a Chymuned ar y maes caffael gan ei fod yn ddibynnol ar y gefnogaeth fusnes mae’n dderbyn gan yr adran.

·         Monitro a rheoli safonau contractau.

·         Y diffiniad o gwmni “lleol”.

·         Gosod amod iaith.

·         Y trefniadau ymarferol o ran y timau fydd yn gyfrifol am bryniant yn yr holl faes.

·         Dymuniad i weld esiampl o ymarfer da er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r gwaith ynghyd ag adroddiad cynnydd ymhen 6 mis.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr Busnes amlinelliad o’i phrofiad hyd yma o ddefnyddio’r drefn rheolaeth categori yn y maes Gofal gan nodi ei bod yn gweld hwn fel datblygiad hynod o bositif a chynhwysol oedd yn eistedd yn gyfforddus gydag egwyddorion Ffordd Gwynedd.  Eglurodd ei bod yn ddyddiau rhy gynnar i rannu profiadau categorïau cyfan gyda’r aelodau, ond cyfeiriodd at enghreifftiau o ddefnyddio’r drefn newydd yn y meysydd anabledd dysgu a gofal cartref ble llwyddwyd i sicrhau arbedion effeithlonrwydd drwy edrych drwy berspectif y darparwyr a gweithio gyda’r darparwyr i geisio llunio’r gwasanaeth i’r dyfodol.  Cyfeiriodd hefyd at sefyllfaoedd anodd heddiw na fyddai wedi bodoli petai rheolaeth categori wedi bod mewn grym ar y pryd.

 

Ymatebodd yr Uwch Reolwr Busnes i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau mewn perthynas â:-

 

·         Y pwyslais ar anghenion yr unigolyn yn hytrach na phris y gwaith yn unig.

·         Y dull o fonitro pecynnau gofal cartref.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif negeseuon y drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Lledaenu’r neges ar draws y Cyngor, fel bod pawb yn gwybod ac yn deall yn glir beth yw’r drefn newydd.

·         Nid oes tystiolaeth hyd yma os yw trefniadau rheolaeth categori yn gweithio yn well na’r drefn flaenorol.  Dylid monitro cynnydd ar y strategaeth gaffael drwy’r pwyllgor hwn ymhen 6 mis, ac yn rheolaidd wedi hynny.

·         Nodi pryder ynglŷn ag effaith unrhyw doriadau posib’ ar allu adrannau, yn arbennig yr Adran Economi a Chymuned, i yrru’r elfen leol ac effaith hynny ar ffyniant economaidd y sir yn fwy cyffredinol.

·         Gwreiddio’r strategaeth yn Ffordd Gwynedd, drwy wrando’n gyson ar y negeseuon sy’n dod yn ôl gan y sector leol ac addasu’r strategaeth yn unol â hynny.

·         Bod angen i’r Adran Economi a Chymuned fod yn fwy rhagweithiol i hybu a chreu cyfleoedd i fusnesau lleol, mentrau cymdeithasol, ayyb, i ddatblygu busnesau trwy adnabod y bylchau sydd yn y farchnad, gan gynnwys annog unigolion i sefydlu busnesau o’r newydd.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Busnes ymhellach y bwriadai grŵp budd-ddeiliaid edrych ar faes gofal dydd pobl hŷn gan ddilyn y fethodoleg rheolaeth categori drwodd o’r dechrau i’r diwedd a bod croeso i aelodau o’r pwyllgor hwn fod yn rhan o’r gwaith er mwyn gweld sut mae’r fethodoleg yn gweithio yn ymarferol.

 

Diolchwyd i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am eu holl waith ac am y drafodaeth.

 

Dogfennau ategol: